Fel gwlad ddwyieithog, cynhyrchir holl gynnwys y sector cyhoeddus yng Nghymru yn y ddwy iaith swyddogol, Cymraeg a Saesneg.
Er bod y dirwedd gyfieithu yng Nghymru yn eithaf aeddfed am y rheswm hwn, mae yna gyfle i archwilio ffyrdd eraill o weithio gyda chyfieithwyr i wella defnyddioldeb cynnwys yn y ddwy iaith.
Ac mae'r dull safonol o gyfieithu fel y byddech chi'n ei ddisgwyl:
- mae gwasanaeth yn cynhyrchu gwybodaeth mewn un iaith – Saesneg fel arfer
- maent yn ei gyflwyno i dîm cyfieithu
- mae'r cyfieithwyr yn ei gyfieithu ac yn ei anfon yn ôl
- mae'r gwasanaeth yn ei dderbyn a'i gyhoeddi
Os oes tîm cynnwys neu gyfathrebu yn adolygu'r cynnwys ac yn ei gyhoeddi ar-lein, efallai y bydd ychydig o gamau ychwanegol.
Ond yn y bôn, datblygir y wybodaeth mewn un iaith ac yna ei throsi hyd eithaf gwybodaeth y cyfieithydd i’r llall.
Felly caiff y Gymraeg ei hystyried ar ddiwedd y broses: ôl-ystyriaeth ydyw.
Heriau gyda'r dull safonol o gyfieithu
Os ydych chi'n siarad, darllen neu ddeall Cymraeg, mae'n debyg eich bod chi'n gweld y problemau a ddaw yn sgil y dull hwn yn eich bywyd bob dydd, ar-lein ac all-lein.
O arwyddion nad ydynt yn gwneud llawer o synnwyr, i wasanaethau cyhoeddus digidol sy’ amhosib defnyddio yn y Gymraeg.
Mae 2 brif reswm am hyn:
- mae iaith yn gyd-destunol iawn
- nid yw'r cynnwys gwreiddiol yn glir nac yn hawdd ei ddefnyddio
Mae cyfieithwyr yn gwneud eu gorau i gynhyrchu darn o gynnwys defnyddiadwy sy'n gweithio. Ond gyda'r diffyg cyd-destun a roddir iddynt, gall y dasg fod yn un amhosib.
Ar y naill law, nid yw'r cynnwys a gânt i'w gyfieithu wedi'i gynllunio i fod yn glir, yn syml ac yn ddefnyddiadwy ei hun.
Ar y llaw arall, nid ydynt yn aml yn cael mynediad at y cyd-destun neu’r arbenigwr pwnc i ofyn cwestiynau ac egluro.
Gall materion eraill godi o'r dull hwn: oherwydd bod yn rhaid i bob cyfathrebiad sy'n wynebu'r cyhoedd fod yn ddwyieithog, mae’n rhaid i dimau ystyried yr amser mae'n gymryd i gyfieithu yn eu cynlluniau.
Ond mae hyn yn dibynnu ar gapasiti a llwyth gwaith y tîm cyfieithu ar adeg y cais, gan ei gwneud hi bron yn amhosibl i'r timau gynllunio ymlaen llaw.
Ar raddfa fwy, mewn sefydliad mawr sy'n cynhyrchu pob math o gynnwys yn gyson, mae'n achosi dad-flaenoriaethu, terfynau amser brys, ac oedi annisgwyl.
Archwilio ffordd newydd o weithio
Ein nod gyda’r prosiect hwn oedd deall sut y gallem weithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru wrth gynhyrchu cynnwys i wella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, yn ddwyieithog.
Roeddem eisiau cynnwys y Gymraeg drwy'r broses gyfan, er mwyn bod y ddwy iaith yn cael eu hystyried yn gyfartal.
Fe wnaethom ddewis gweithio ar y Grant Hanfodion Ysgol oherwydd:
- roedd ganddo'r potensial i helpu teuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw
- nid oedd digon o deuluoedd yn gwneud cais o ganlyniad i broblemau gyda'r cynnwys
Roeddem yn gobeithio y byddai’r dull agored a chydweithredol hwn hefyd yn atal dyblygu gwaith i gynghorau ac yn gwella perfformiad eu gwasanaethau.
Beth wnaethom ni: ysgrifennu triawd
Ar ôl rhywfaint o ymchwil i ddeall y grant, ei gyd-destun a’i ddefnyddwyr yn well, gwnaethom gyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru a oedd wedi rhoi cynnig ar amrywiaeth o ysgrifennu pâr, ac roeddem yn awyddus i ddysgu o’u profiad.
Mae ysgrifennu pâr yn dechneg sy'n dod â dylunydd cynnwys (neu awdur) ac arbenigwr pwnc (neu weithiau ymchwilydd) at ei gilydd i weithio ar ddarn o gynnwys.
Mae ysgrifennu triawd yn dod â thrydydd person i mewn – cyfieithydd Cymraeg yn ein hachos ni – i greu darn da o gynnwys yn y ddwy iaith ar yr un pryd.
Mae cynhyrchu cynnwys sy’n diwallu anghenion defnyddwyr mewn ffordd sy’n glir, yn hawdd ei deall, ei defnyddio, ac yn gywir, yn gofyn am wybodaeth ac arbenigedd arbenigwr pwnc a dylunydd cynnwys.
Trwy gael cyfieithydd yn yr ystafell, mae’n sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu hystyried yn gyfartal, a bod y wybodaeth yn gweithio yn y Gymraeg hefyd.
Dysgwch sut i ysgrifennu triawd.
Darllenwch am brofiad y cyfieithydd a’i rôl mewn dylunio cynnwys
Ar ôl y drafft cyntaf, cynhaliom weithdy adolygu cynnwys gyda rhanddeiliaid o Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a chynhaliwyd profion defnyddioldeb gyda defnyddwyr go iawn.
Beth ddysgon ni
Drwy gydol y prosiect hwn, gwelsom werth i weithio fel hyn o fewn sefydliadau cyhoeddus a'r defnyddiwr terfynol.
Dyma’r buddion:
- mae'r cyfieithydd yn deall cyd-destun y darn
- gall y cyfieithydd ofyn cwestiynau
- mae'r Saesneg yn gliriach ac yn symlach o ganlyniad
- anghenion defnyddwyr yn cael eu diwallu yn y ddwy iaith
- mae'r ddau ddarn yn adlewyrchu arlliwiau a disgwyliadau penodol y ddwy iaith
- mae'r cynnwys yn fwy hygyrch a chynhwysol yn y ddwy iaith
Camau nesaf
Rydym yn annog cynghorau i ddefnyddio'r cynnwys newydd ar eu gwefan. Ar gyfer hyn, rydym yn datblygu gwahanol offer ac adnoddau, gan gynnwys pecyn cymorth Notion y bydd yn symud i'n gwefan yn y pen draw.
Rydym hefyd eisiau rhannu’r hyn a ddysgwyd am y ffordd yma o weithio, gan gynnwys sut y gwnaethom ysgrifennu triawd a phrofi defnyddioldeb, a’u cyhoeddi’n agored.
Felly, cadwch olwg amdanynt.