Trosolwg

Mae dylunio gwasanaethau hygyrch, cynhwysol a chynaliadwy yn helpu i greu gwasanaethau cyhoeddus tecach, mwy effeithiol a chydnerth.  

Rhaid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â: 

Deall gwasanaethau hygyrch a chynhwysol

Mae gwasanaethau hygyrch a chynhwysol yn gweithio i bawb, gan gynnwys: 

  • pobl anabl 
  • pobl hŷn 
  • pobl mewn sefyllfaoedd agored i niwed 
  • pobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf 

Mae cynllunio ar eu cyfer yn helpu i: 

  • waredu rhwystrau i fynediad a defnydd 
  • gwella canlyniadau i bob defnyddiwr 
  • bodloni gofynion cyfreithiol 
  • creu ymddiriedaeth a hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus 

Mae hygyrchedd yn golygu y gall pobl ddefnyddio'ch gwasanaeth ni waeth beth yw eu hanghenion, eu galluoedd neu'r dechnoleg maen nhw'n ei defnyddio. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd â: 

  • namau gweledol, clyw, motor neu wybyddol 
  • anableddau dros dro neu sefyllfaol 
  • gwahanol ddyfeisiau, porwyr neu dechnolegau cynorthwyol 

Nid yw hygyrchedd yn ymwneud â'r dechnoleg yn unig, mae hefyd yn ymwneud a chynnwys clir, teithiau syml a rhyngweithiadau y gellir eu defnyddio. 

Mae cynhwysiant yn golygu cydnabod a pharchu amrywiaeth, gan gynnwys: 

  • gwahaniaethau ieithyddol a llythrennedd 
  • hunaniaethau diwylliannol 
  • ffactorau economaidd-gymdeithasol ac allgau digidol 

Er y gall gwasanaeth fod yn dechnegol hygyrch gall barhau i greu ymdeimlad o eithrio. Mae dylunio cynhwysol yn helpu pawb i deimlo bod y gwasanaeth ar eu cyfer. 

Cost gwasanaethau anhygyrch

Mae gwasanaethau anhygyrch yn creu gwaith ychwanegol a chanlyniadau gwaeth. Gall defnyddwyr: 

  • ffonio llinell gymorth i gael cymorth gyda thasgau sylfaenol 
  • cael gwared ar wasanaeth yn gyfan gwbl 
  • derbyn cefnogaeth neu ganlyniadau gwael 

Mae hyn yn creu gwaith ychwanegol i ddarparwr y gwasanaeth.

Model cymdeithasol anabledd

Mae sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd. Dywed bod pobl yn cael eu hanalluogi gan rwystrau mewn cymdeithas, nid gan eu namau. 

Gall rhwystrau fod yn gorfforol, yn ddigidol neu'n agweddol. Mae eu dileu yn rhoi mwy o annibyniaeth, dewis a rheolaeth i bobl. 

Dysgu mwy am fodel cymdeithasol anabledd Scope (Saesneg yn unig) 

Gwasanaethau cynaliadwy

Rhaid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith hirdymor ac atal i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dyma beth yw gwasanaethau cynaliadwy: 

  • yn addas ac yn hirhoedlog 
  • yn ymwybodol o adnoddau ac yn wastraff isel 
  • cefnogi lles nawr ac yn y dyfodol 
  • cydweithredu ar draws sectorau, sefydliadau a chymunedau 

Mae cynaliadwyedd yn golygu meddwl yn gymdeithasol, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol. 

Dylunio i bawb

Dylunio ar gyfer hygyrchedd, cynhwysiant a chynaliadwyedd o'r dechrau. Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud:  

  • dilyn safonau fel WCAG 2.2 (Saesneg yn unig) a Safonau hygyrchedd Llywodraeth Cymru (LLYW.CYMRU) 
  • dylunio teithiau hyblyg a chynnig opsiynau digidol, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb 
  • ysgrifennu mewn iaith glir a rhoi trefn glir ar gynnwys 
  • ychwanegu capsiynau, trawsgrifiadau, testun alt a fformatau hygyrch 
  • ymchwilio a phrofi gyda defnyddwyr a chymunedau go iawn ac amrywiol 
  • hyfforddi eich tîm a defnyddio offer hygyrchedd yn rheolaidd 
  • gweithio gydag arbenigwyr ac archwilio'ch gwasanaeth wrth iddo esblygu

Cynnwys cysylltiedig