Trosolwg
Cyn adeiladu gwasanaeth, ewch ati i wneud prototeip ohono.
Gall creu prototeip eich helpu i brofi syniadau yn gyflym, cael adborth gan ddefnyddwyr ac osgoi camgymeriadau costus. Mae prototeipio yn ddefnyddiol pan:
- nid yw'r gofynion yn glir neu gallant newid
- rydych yn rhoi cynnig ar syniad neu gysyniad newydd
Nid oes rhaid i brototeip fod yn berffaith. Mae jyst angen iddo fod yn ddigon da i ddysgu ohono.
Beth yw prototeip
Mae prototeip yn fersiwn cychwynnol o rywbeth rydych chi am ei brofi. Mae'n eich helpu i:
- profi syniadau gyda defnyddwyr
- nodi problemau yn gynnar
- meithrin cyd-ddealltwriaeth yn eich tîm
- cael gwell adborth gan randdeiliaid
Dechreuwch yn fach. Mae'n well profi syniad cychwynnol yn gynnar nag aros am rywbeth wedi'i gloywi.
Gall prototeipiau fod yn syml neu'n fanwl, o frasluniau i ddyluniadau ffug rhyngweithiol. Yr hyn sy'n bwysig yw dangos y cysyniad er mwyn gallu dysgu ohono.
Yn dibynnu ar yr hyn rydych chi'n ei brofi, gallai prototeip fod yn:
- dyluniad, ffrâm wifren neu glicio
- ffurflen bapur neu lythyr printiedig
- sgript chwarae rôl neu alwad
- rhywun yn darllen eich cynnwys ac yn dweud beth fydden nhw'n ei wneud nesaf
Nid oes angen i brototeipiau fod yn berffaith, gallant fod mor syml â braslun neu ddyluniad ffug wedi'i fireinio.
Adeiladu prototeip
Dechreuwch gyda phrototeip syml i arbed amser yn adeiladu rhywbeth nad yw'n bodloni anghenion defnyddwyr. Gallwch greu prototeip o:
- gynnyrch digidol neu gorfforol
- gwasanaeth
- taith ryngweithiol neu daith
Er enghraifft, gallech:
- braslunio fersiwn bapur o ap a'i brofi gyda'ch tîm
- creu fersiwn ddigidol syml a'i brofi gyda defnyddwyr
- adeiladu fersiwn graenus gyda brandio a chynnwys wedi'i fireinio

Pecynnau cymorth y gallwch roi cynnig arnynt
Cynhyrchion digidol
Dyma'r math o becynnau cymorth y gallwch chi roi cynnig arnynt:
- Figma, Sketch neu Adobe XD
- PowerPoint, Keynote neu Canva ar gyfer prosiect sy'n gofyn am glicio syml
- Squarespace, Wix, Wordpress neu Marvel ar gyfer profion sy'n seiliedig ar borwr
Cynhyrchion papur
Gallai hyn gynnwys pethau fel llythyrau, adroddiadau, llyfrynnau a thaflenni.
Gallwch ddefnyddio'r canlynol i greu prototeip:
- Word a Google Docs
- Canva neu becyn cymorth tebyg
- meddalwedd cyflwyno
Argraffwch brototeip papur bob amser i weld sut mae'n gweithio mewn bywyd go iawn.
Gwasanaethau
Gallwch ddefnyddio'r canlynol i greu prototeip:
- Sgript neu Fwrdd Stori
- Modelau neu luniau
- Chwarae rôl gyda chydweithwyr neu bropiau
Gallwch hyd yn oed ddefnyddio gwrthrychau fel teganau neu glai i fodelu profiadau.
Profi eich prototeip
Mae profi yn eich helpu i ddeall a yw'ch syniad yn gweithio i ddefnyddwyr.
Dysgwch am bwysigrwydd profi mewn dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Yn dibynnu ar y prototeip, gallwch:
- arsylwi ar bobl yn ei ddefnyddio
- gofyn iddyn nhw feddwl yn uchel
- nodi pryd mae rhwystr y codi neu mae'r broses yn ddryslyd
- gofyn cwestiynau agored fel “Beth yn eich barn chi yw bwriad hyn?” neu “Beth fyddech chi'n ei wneud nesaf?”
- cynnal y profion yn ddwyieithog
Mae hyn yn eich helpu i wella cyn buddsoddi amser neu arian.
Dysgu mwy am ymchwilio i'ch defnyddwyr a phrofi eich gwasanaeth.
Cynnwys cysylltiedig
Dyma adnoddau sydd ar gael yn Gymraeg:
- Defnyddio prototeip i ddechrau sgwrs
- Datblygu prototeipiau
- Drafftio’r cynlluniau: sut mae prototeipiau'n helpu i wella'r gwasanaeth gwneud cais am ganiatâd cynllunio yng Nghymru
- Defnyddio profion cysyniad i gefnogi gwasanaethau mamolaeth digidol
Dyma adnoddau allanol sydd ddim ond ar gael yn Saesneg: