Ym mis Tachwedd, gwnaethom gynnal digwyddiad hygyrchedd mewn partneriaeth â thîm  Sefydliad Arloesi Trawsnewid Digidol (DTII) Prifysgol Caerdydd. 

Daeth y digwyddiad hwn â dros 50 o bobl ynghyd o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i drafod hygyrchedd a chynwysoldeb gwasanaethau cyhoeddus, a chyfle i ystyried sut yr ydym, fel cymuned, yn gwella pethau i wneud pethau'n well i'r bobl sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â Chymru. 

Roeddwn wrth fy modd yn cychwyn y diwrnod gyda sesiwn, gan rannu mewnwelediadau o'r ymchwil diweddar rydym wedi'i gwblhau. Mae wedi bod yn daith ddiddorol, ac rwyf am rannu rhai mewnwelediadau a myfyrdodau allweddol o'r gynhadledd a'n gwaith. 

Yr hyn rydym wedi'i ddysgu 

Gwnaethom edrych ar hygyrchedd ar draws sefydliadau sector cyhoeddus Cymru, ac er bod llawer o ewyllys da, mae llawer i'w wneud o hyd. Dyma rai o fy myfyrdodau personol a phethau a oedd yn sefyll allan i mi: 

1. Deall tirwedd hygyrchedd Cymru 

Dechreuodd y diwrnod gyda thrafodaeth agored am berfformiad presennol Cymru o ran sicrhau gwasanaethau cyhoeddus hygyrch. O heriau gweithredu deddfwriaeth i uchelgais ehangach cynwysoldeb, archwiliodd y rhai a oedd yn bresennol lle saif Cymru heddiw a lle mae'n dyheu am fod. 

Wrth i ni ymchwilio'n ddyfnach, roeddem yn ffodus o gael Jonathan Lazar, arweinydd meddwl byd-eang ar hygyrchedd, i rannu mewnwelediadau ar y model "Born Accessible." Mae'r model hwn yn pwysleisio dylunio technolegau a gwasanaethau sy'n gynhenid yn gynhwysol o'r cychwyn cyntaf, nid fel ôl-ystyriaeth. Mae ei waith wedi dylanwadu ar arferion yn yr Unol Daleithiau ac yn rhyngwladol, gan roi ysbrydoliaeth ar sut y gall Cymru fabwysiadu ac addasu egwyddorion tebyg. 

2. Straeon go iawn, effaith go iawn 

Un o eiliadau mwyaf pwerus y gynhadledd oedd clywed gan unigolion â phrofiadau byw. Tanlinellodd y straeon personol hyn bwynt hanfodol: nid blwch i dicio neu fesur cydymffurfio i'w gyflawni yw hygyrchedd. Mae'n ymwneud â gwella bywydau go iawn - gan ei gwneud hi'n haws i bobl sy'n byw, gweithio neu'n ymweld â Chymru ymgysylltu'n llawn â gwasanaethau cyhoeddus. 

Rhannodd y cyfranogwyr fewnwelediadau am y rhwystrau sy'n wynebu pobl ag anableddau, ac ysgogodd y straeon hyn drafodaethau cyfoethog a rhyngweithiol. Fe wnaethant ein hatgoffa nad yw hygyrchedd yn rheidrwydd moesol yn unig, ond yn gyfle i wella ansawdd bywyd yn gyffredinol. 

3. Rheolau heb ganlyniadau 

Nid oes gorfodaeth glir ar gyfer hygyrchedd yng Nghymru. Heb atebolrwydd a phwysau cynyddol ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, mae hygyrchedd yn is ar y rhestr flaenoriaeth i'r rhan fwyaf o dimau. Mae hwn yn fwlch sylweddol y mae angen mynd i'r afael ag ef. 

4. Pwy sy'n gyfrifol? 

Mater mawr yr ydym wedi'i weld yw bod cyfrifoldebau hygyrchedd yn aml yn aneglur. Weithiau mae'n dîm gwe sy'n ei gymryd, neu mae'n disgyn i rywun sy'n angerddol am y pwnc. Ond nid yw dibynnu ar angerdd yn ddigon - mae angen strwythurau ac atebolrwydd gwell arnom. 

5. Sgiliau yn ddiffygiol 

Mae gwybodaeth hygyrchedd yn dal i fod yn eithaf anghyson. Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau'n dibynnu'n helaeth ar gyflenwyr trydydd parti, ond hyd yn oed wedyn, nid yw pob cyflenwr yn darparu atebion cwbl hygyrch. Heb y sgiliau cywir yn fewnol, mae timau'n aml yn ei chael hi'n anodd nodi a datrys problemau. 

6. Mae angen newid diwylliant 

Dyma'r un anodd: nid yw hygyrchedd yn cael y sylw y mae'n ei haeddu ar y lefel arweinyddiaeth. Pan nad yw'n flaenoriaeth ar y brig, mae'n anodd prynu i mewn a chael ymrwymiad gan weddill y tîm. 

Cyfleoedd i wneud yn well 

Er gwaethaf yr heriau hyn, rwy'n optimistaidd. Mae cymaint o gyfleoedd i wella, ac rwy'n gwybod y gallwn gyflawni hyn os ydym yn gweithio gyda'n gilydd. Dyma lle rwy'n credu y gallwn gael yr effaith fwyaf: 

Uwchsgilio ein harweinwyr a'n timau 

Mae angen i ni fuddsoddi mewn hyfforddiant ac arweiniad, fel bod timau'n teimlo'n hyderus i fynd i'r afael â hygyrchedd. Gyda'r cymorth cywir, gallwn leihau ein dibyniaeth ar gyflenwyr allanol a chymryd mwy o berchnogaeth o'r gwaith hanfodol hwn. 
 
Cofleidio dyluniad cynhwysol yn ddiofyn 

Ni ddylai hygyrchedd fod yn ôl-ystyriaeth. Trwy gofleidio dyluniad cynhwysol, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, o'r dechrau, gallwn greu gwasanaethau sy'n well i bawb - nid dim ond y rhai ag anghenion mynediad. 

Cadw'r gymuned i symud ymlaen 

Roedd y digwyddiad hwn yn ddechrau rhywbeth cyffrous iawn. Mae'r angerdd a'r ysgogiad o'r digwyddiad hwn yn rhywbeth a fyddai'n wych i adeiladu arno a chadw'r momentwm i fynd. 

Fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru 

Pan fyddaf yn meddwl am yr hyn sy'n bosibl, rwy'n gyffrous. Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy ysbrydoli. 

Dychmygwch Gymru lle gall pawb gael mynediad ddi-dor at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Dyna'r dyfodol rydyn ni'n adeiladu tuag ato, ond mae angen ymrwymiad, cydweithredu a newid diwylliannol arnom i gyrraedd yno. 

Nid yw hygyrchedd yn brosiect i’w ddi-ystyried." Mae'n sylfaen i wasanaethau cyhoeddus gwych. Gadewch i ni wneud hyn y bosib! 

Beth sydd nesaf? 

Sioe dangos a dweud: Deall yr heriau hygyrchedd o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru, 15 Ionawr, 2pm

Ymunwch â ni am sioe dangos a dweud ar-lein, lle byddwn yn rhannu canfyddiadau ein prosiect darganfod hygyrchedd diweddar.

Gweminar: Anabledd, iaith a dylunio gyda Content Design London, 21 Ionawr, 10am

Sut allwch chi wneud eich gwasanaethau a'ch cynnwys yn fwy cynhwysol? Yn y weminar hon, bydd Jack Garfinkel, Dylunydd Cynnwys, Content Design London, yn archwilio'r model cymdeithasol o anabledd a sut y gall eich helpu i greu cynhyrchion a gwasanaethau gwell, mwy cynhwysol. Cofrestrwch.

Dolenni Digidol: Arweinyddiaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hygyrch a chynhywsol, 29 Ionawr, 5pm

Mae Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn cynnal digwyddiad panel yn Da Coffi, Caerdydd, gyda’r nos er mwyn i uwch arweinwyr y sector cyhoeddus archwilio pwnc hanfodol hygyrchedd digidol a’i effaith ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae llefydd yn gyfyngedig, cofrestrwch nawr!