Trosolwg

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael profiad o'ch gwasanaeth trwy gynnwys ysgrifenedig: ar sgrin, ffurflen, mewn e-bost neu yn y post.  

Os yw'ch cynnwys yn anodd ei ddeall ac i weithredu arno, bydd eich gwasanaeth yn anodd ei ddefnyddio. 

Mae cynnwys da yn canolbwyntio ar y defnyddiwr

Mae pobl yn darllen yn wahanol ar-lein nag ar bapur. Mae defnyddwyr yn aml yn sganio i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn hytrach na darllen yr holl gynnwys.  
 
Mae cynnwys sydd wedi'i ddylunio'n dda yn ymwneud ag anghenion defnyddwyr (LLYW.CYMRU) ac mae'n helpu pobl: 

  • i ddeall beth yw eich gwasanaeth 
  • i ddeall a yw ar eu cyfer hwy 
  • gwneud yr hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud 

Dysgu am anghenion defnyddwyr wrth ddylunio cynnwys

Dyma yw cynnwys da: 

  • mae'n hygyrch 
  • wedi'i ysgrifennu ar gyfer defnyddwyr, nid ar gyfer y sefydliad 
  • wedi'i brofi gyda defnyddwyr 
  • yn seiliedig ar dystiolaeth, nid rhagdybiaethau 
  • mae'n glir, yn gyson a chynhwysol yn y Gymraeg a'r Saesneg 

Mae hyn yn creu ymddiriedaeth, yn rheoli disgwyliadau ac yn lleihau cwynion a chyswllt y gellir ei osgoi. 

Dysgu mwy am ffyrdd o wella'ch cynnwys

Dylunio ar gyfer y ddwy iaith o'r dechrau

Yng Nghymru, mae'n rhaid i wasanaethau a chynnwys weithio yr un mor dda yn y Gymraeg a'r Saesneg. 

Mae ystyried y ddwy iaith o'r dechrau yn golygu bod cynnwys yn gyson ac yn gliriach yn y ddwy iaith.  

Dysgu mwy am ddylunio gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud:

  • cynllunio ar gyfer cynnwys dwyieithog yn gynnar 
  • ei brofi gyda defnyddwyr Cymraeg 
  • dylunio teithiau a rhyngwynebau sy'n cefnogi'r ddwy iaith yn gyfartal 
  • ystyried teithiau dwyieithog ar draws pob sianel 
  • defnyddio ysgrifennu triawd i gyd-ddatblygu cynnwys yn y ddwy iaith 
  • ysgrifennu'n glir yn y ddwy iaith i gefnogi gwell cyfieithu 

Gweler pecyn cymorth technoleg ddwyieithog Llywodraeth Cymru am brofiad da i'r defnyddiwr.

Defnyddio iaith glir

Mae iaith glir yn helpu defnyddwyr i ddeall yr wybodaeth yn well. Mae'n gwneud y cynnwys yn fwy cynhwysol a hygyrch.  

I ysgrifennu'n glir: 

  • defnyddio geiriau cyffredin 
  • osgoi jargon neu iaith fewnol 
  • defnyddio penawdau a phwyntiau bwled 
  • rhannu testun hir yn rhannau 
  • defnyddio brawddegau byr 

Dylech hefyd ysgrifennu teitlau tudalennau clir (LLYW.CYMRU)

Mae hyn yn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i wybodaeth a'i deall, ac yn gwneud cynnwys yn haws i'w gyfieithu a'i gynnal.  

Cydweithio ag eraill

Gweithio gydag eraill i ddylunio cynnwys gwell, fel arbenigwyr pwnc, cyfieithwyr a staff rheng flaen. Dyma rai pethau y gallwch roi cynnig arnynt: 

Mae cydweithredu yn dod â gwahanol safbwyntiau ac yn eich helpu i: 

  • nodi unrhyw fylchau 
  • osgoi camgymeriadau ac anghysondebau 
  • sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir ac yn hawdd ei defnyddio  
  • defnyddio iaith sy'n gwneud synnwyr i ddefnyddwyr 

Darllen rhagor am weithio gyda rhanddeiliaid. 

Profi eich cynnwys

Mae profi cynnwys yn helpu i ddeall a yw'ch cynnwys yn gweithio ac yn bodloni anghenion defnyddwyr. Gan ddibynnu ar yr hyn rydych chi'n ei brofi: 

  • cael profiad o bobl yn defnyddio prototeip 
  • gofyn iddyn nhw feddwl yn uchel 
  • nodi pryd mae rhwystr y codi neu mae'r broses yn ddryslyd 
  • gofyn cwestiynau agored fel “Beth yn eich barn chi yw bwriad hyn?” 
  • ei brofi gyda defnyddwyr Cymraeg 

Dyma rai technegau y gallwch roi cynnig arnynt: 

Dysgu mwy am ymchwilio i'ch defnyddwyr a phrofi'ch gwasanaeth.  

Cynnwys cysylltiedig