Trosolwg

Cyn gwella gwasanaeth neu greu un newydd, mae'n rhaid cymryd amser i ddeall sut mae'n gweithio heddiw. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall: 

  • beth sy'n llwyddo 
  • beth sydd ddim yn llwyddo 
  • lle mae defnyddwyr yn syrthio rhwng y craciau

Dysgu mwy am ymchwilio i'ch defnyddwyr a phrofi eich gwasanaeth.

Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yn cynnwys llawer o bobl, systemau a phrosesau. Edrychwch ar y darlun llawn i gynllunio'n well, osgoi unrhyw beth annisgwyl a nodi dibyniaethau, gan gynnwys timau, gwasanaethau, polisïau a thechnoleg eraill. 

Mae mapio eich gwasanaeth yn eich helpu i: 

  • deall y profiad o safbwynt y defnyddiwr 
  • gweithio ar draws timau, polisïau a sianeli 
  • nodi ble mae'r problemau, bylchau a chyfleoedd 
  • adeiladu cyd-ddealltwriaeth a chyfeiriad clir 

Mae barn a rennir yn helpu timau i gydnabod seilos, dyblygu ac aneffeithlonrwydd. 

Dysgu mwy am ddylunio gwasanaethau

Pecynnau cymorth y gallwch roi cynnig arnynt

Mae gwahanol offer y gallwch geisio i’ch helpu i archwilio'ch gwasanaethau: 

  • map taith y defnyddiwr sy’n dangos pob cam o safbwynt y defnyddiwr 
  • glasbrint gwasanaeth i ychwanegu yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni 
  • mapiau empathi sy’n nodi'r hyn y mae defnyddwyr yn ei deimlo, yn meddwl ac yn ei wneud 
  • mapiau proses sy’n dangos llifoedd gwaith mewnol
  • personas sy’n crynhoi gwahanol fathau o ddefnyddwyr a'u hanghenion 

Nid oes angen i chi ddefnyddio pob un ohonynt. Dewiswch yr offer sy'n helpu'ch tîm i adeiladu dealltwriaeth a rennir. 

Gweler mathau eraill o becynnau cymorth i ddylunio gwasanaethau.  

Gwaith ar draws ffiniau ac ieithoedd

Mae cynllunio'n gynnar yn helpu'ch tîm i weithio'n well ac yn rhoi gwell gwasanaeth i ddefnyddwyr a staff. Mapio'r hyn sy'n digwydd ar draws: 

  • sianeli digidol, ffôn, wyneb yn wyneb ac ar bapur 
  • polisi, cyflawni a gweithrediadau 
  • gwahanol sefydliadau a phartneriaid 
  • ieithoedd 

Gall hyn eich helpu i ddylunio gwasanaethau cydgysylltiedig sy'n adlewyrchu'r profiad y mae pobl yn ei gael mewn gwirionedd o'i defnyddio. 

Ymgorffori dwyieithrwydd yn eich gwaith

Ystyriwch ddwyieithrwydd yn ystod pob cam. Gall hyn gynnwys: 

  • cynnwys siaradwyr Cymraeg, cyfieithwyr neu swyddogion iaith yn gynnar 
  • cyd-ddylunio a phrofi cynnwys gyda chyfieithwyr 
  • dylunio teithiau a deunyddiau dwyieithog 
  • adeiladu dyluniad dwyieithog mewn llinellau amser ac adnoddau

Rhoi dwyieithrwydd yn sylfaen o'r dechrau ar draws cynnwys, teithiau, timau ac offer i ddylunio gwasanaethau dwyieithog sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr sy'n gweithio'n gyfartal yn y Gymraeg a'r Saesneg. 

Gweithio yn gydweithredol

Mae mapio yn gweithio orau pan fydd yn gydweithredol. Mae'n helpu i adeiladu dealltwriaeth a rennir ac uno pobl.  

Nodwch pwy sydd angen i chi eu cynnwys yn eich gwaith a'ch gweithgareddau dylunio, gan gynnwys pobl: 

  • sy'n cyflawni ar y rheng flaen 
  • maes polisi neu faes cyfreithiol 
  • technoleg neu ddata 

Dewch â phobl ynghyd a braslunio pethau, ar-lein neu wyneb yn wyneb. Cadwch ef yn anffurfiol, yn fywiog ac yn greadigol.

Darllenwch am weithio gyda rhanddeiliaid. 

Cynnwys cysylltiedig