O ran creu cynnwys dwyieithog, mae llawer o heriau a chyfleoedd. Rhai o'r prif faterion mae pobl yn codi’n aml gyda fi yw cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg, creu un sianel ddwyieithog neu dwy sianel ac, yn bwysig iawn, gynulleidfa! Sut ydyn ni'n gwybod bod ein cynnwys yn cyrraedd y gynulleidfa gywir ac mae’n ddeniadol i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg a phobl ddi-gymraeg?
Yn y blog byr hwn byddaf yn rhoi pum tip ar sut i nid yn unig oresgyn yr heriau hyn, ond hefyd sut i fwynhau creu cynnwys dwyieithog deniadol (p'un a ydych chi'n gweithio yn y sector cyhoeddus neu beidio!)
Ewch du hwnt i gydymffurfiaeth
Bydd unrhyw un sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gyfarwydd â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'n dweud na ddylem ni (cyrff sector cyhoeddus) drin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae hyn yn berthnasol ar draws ein cyfathrebiad, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, ac mae Comisiynydd y Gymraeg yn goruchwylio hyn i sicrhau ein bod yn cydymffurfio. Ond a yw cydymffurfio yn ddigon pan mae’n dod i greu cynnwys dwyieithog creadigol a chyrraedd ein nodau i dyfu ein hiaith?
Datblygwyd y Mesur i sicrhau bod cyrff sector cyhoeddus yn blaenoriaethu ac yn hyrwyddo'r Gymraeg, ac i roi hawliau i siaradwyr Cymraeg gael mynediad at wasanaethau yn ein mamiaith. Er bod rhai rheolau du a gwyn o ran darparu gwasanaethau dwyieithog, fel sicrhau bod dogfennau a thudalennau gwe ar gael yn y ddwy iaith, mae’n bwysig sicrhau nad ydynt jyst yn copïo a gludo neu gynhyrchu cyfieithiadau gwael. Er mwyn dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg a chyrraedd uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg, mae'n rhaid i ni feddwl tu hwnt i gydymffurfiaeth. Yn ymarferol mae hyn yn golygu cyd-gynhyrchu eich cynnwys Cymraeg a Saesneg mewn ffordd sy'n rhoi amlygrwydd i'r ddwy iaith, yn union fel yr amlinellir ym mhroses ysgrifennu triawd CDPS. Darllenwch bennod 2 i weld beth rwy'n ei olygu yn ymarferol...
Ddim yn gorff sector cyhoeddus? Er bod y Mesur y Gymraeg ddim yn berthnasol i'ch busnes neu sefydliad, dyw hwn ddim yn golygu na ddylech fod yn ceisio cynyddu eich defnydd o'r Gymraeg. Mae angen i bawb ymuno â ni i helpu ymdrech ein cenedl i gynyddu'r defnydd o'r iaith. Mae Helo Blod yn wasanaeth am ddim a all eich helpu gyda chyfieithu. Mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn cynnal sesiynau i helpu gyda chamau ymarferol i gynyddu eich defnydd o'r Gymraeg.
2. Peidiwch gyfieithu... trosi yw’r ateb!
Yn anaml iawn y mae cyfieithu Saesneg i'r Gymraeg yn gweithio'n uniongyrchol, yn enwedig ar gyfer cyfryngau cymdeithasol neu ymgyrchoedd. Pam? Oherwydd ei fod yn anwybyddu'r acenion, idiomau a dywediadau gwych sydd gennym yn Gymraeg. Efallai bod y Gymraeg yn gannoedd o flynyddoedd oed, ond mae'n fyw ac yn ffynnu ac yn ychwanegu geiriau ac ymadroddion newydd drwy'r amser. Yn syml, mae cyfieithu o'r Saesneg yn gwadu i ni'r holl hanes ac egni hwnnw. Yn hytrach na chyfieithu yn unig, dylem anelu at drosi. Eisiau mynd cam ymhellach? Ysgrifennwch y copi Cymraeg yn annibynnol! Yn ymarferol mae hyn yn golygu dweud yr un peth, ond mewn ffordd wahanol; ffordd sydd wedi cael ei hail-ysgrifennu a'i hail-bwrpasu gyda chynulleidfa Gymraeg mewn golwg.
Gydag arian ac adnoddau cyfyngedig, gall hyn fod yn haws dweud na gwneud. O ysgrifennu copi i ffilmio, mae galwadau sylweddol eisoes ar gyfathrebwyr proffesiynol i fod yn aml-fedrus. Ond er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, mae'n rhaid i ni ddatblygu'r sgiliau iaith hyn o fewn ein sefydliadau neu gyflogi'r rhai sydd â’r sgiliau. Fel siaradwyr Cymraeg mae gennym gyfrifoldeb i gefnogi eraill yn yr ymdrech hon. Yn ymarferol, gallai hyn olygu rhywbeth mor syml â helpu cydweithwyr gyda gwirio testun. Er bod Bing, Cysill a Cysgeir i gyd yn offer hanfodol ar gyfer cyfathrebu yn Gymraeg, dylech bob amser gael siaradwr Cymraeg (neu ddau!) i wirio eich gwaith.
3. Peidiwch â gwahanu ieithoedd
O ran dwyieithrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, yn aml un o'r dadleuon mwyaf yw a ddylid cael un cyfrif dwyieithog, neu ddau ar wahân. Mae manteision ac anfanteision i’r ddau.
Mae cael un dudalen ddwyieithog yn eich galluogi i gyfuno'r Gymraeg a'r Saesneg yn greadigol, gall hefyd anfon neges dda bod eich sefydliad neu'ch brand wedi ymrwymo i'r Gymraeg. Mae hefyd yn eich galluogi i arbrofi gydag enwau a dolenni dwyieithog (er enghraifft, @prifweinidog i'r Prif Weinidog neu @cymru i Dîm Pêl-droed Cymru). Fodd bynnag, wrth bostio'n ddwyieithog, mae'n bwysig meddwl am algorithm cyfryngau cymdeithasol. Gall ysgrifennu gormod o Gymraeg ar ddechrau neges wneud i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg anwybyddu neu sgrolio yn awtomatig heibio'r post. A gall cyhoeddi dwy neges ar wahân, un ar ôl y llall, gael effaith negyddol ar berfformiad y negeseuon hynny oherwydd y ffordd y mae algorithmau cyfryngau cymdeithasol yn gweithio.
Mae manteision hefyd i gael dwy dudalen ar wahân. Mae tudalen uniaith Gymraeg yn eich galluogi i greu cynnwys unigryw Gymraeg a siarad yn uniongyrchol â'ch cynulleidfa Gymraeg mewn arddull, yn ogystal ag iaith, byddant yn deall yn well. Mae hefyd yn haws dod i adnabod eich dilynwyr pan maen nhw wedi'u gwahanu fel hyn, oherwydd gallwch ymchwilio'n hawdd i'r dadansoddeg ar gyfer pob cynulleidfa a theilwra'ch cynnwys i wella perfformiad. Fodd bynnag, yn aml y bydd pobl yn dewis dilyn y sianel Saesneg ac nid y Gymraeg, ac felly byth yn dod ar draws yr iaith Gymraeg.
Pa bynnag ffordd rydych chi'n dewis sefydlu eich sianel, y peth pwysicaf fydd trin y Gymraeg gyda'r parch mae'n ei haeddu a pheidio â gwahanu ieithoedd fel na fydd pobl byth yn gweld/clywed y Gymraeg. Mae hyn yn golygu os oes gennych sianeli ar wahân, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i gynnwys rhywfaint o Gymraeg ar eich sianeli Saesneg. Mae defnyddio mwy o Gymraeg yn eich negeseuon a'ch fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn mynd i gynyddu amlygiad yr iaith.
4. Defnyddia dy Gymraeg!
P'un a ydych chi'n anelu at gyfathrebu popeth rydych chi'n ei wneud yn ddwyieithog, neu os ydych chi eisiau jyst defnyddio ychydig o Gymraeg yn eich cynnwys, bydd adegau pan fyddwch chi'n cael e’n anghywir. Mae'n mynd i ddigwydd yn anffodus. Yn enwedig pan fyddwch chi'n ceisio gwneud pethau'n wahanol ac yn greadigol mewn amgylchedd gweithio cyflym gydag adnoddau cyfyngedig. Byddwn i'n gyfoethog pe bai gen i bunt am bob camgymeriad dwi erioed wedi'i wneud yn Gymraeg ar-lein. Ry’n ni i gyd yn gwneud camgymeriadau. Ddim i greu esgusodion i chi, ond does dim ots os ydych chi wedi gwneud teipo neu heb dreiglo ambell air yn gywir! Ydy, mae'n bwysig ein bod ni'n trin ein hiaith gyda'r parch mae'n ei haeddu, ond ry’n ni'n aml yn gwneud yr un camgymeriadau bach yn yr iaith Saesneg hefyd.
Felly, defnyddia dy Gymraeg. Ymarferwch eich sgiliau iaith. Ie, gwiriwch eich gwaith gydag eraill, ond peidiwch â bod yn bedantig. Does neb yn hoffi 'Plismon Iaith' - dyma'r rheswm pam fod cymaint o bobl yn rhy ofnus i roi cynnig arni. Os na fyddwn byth yn caniatáu lle i ni wneud y camgymeriadau hyn, ni fyddwn byth yn dysgu nac yn tyfu. Ac os ydych chi'n cael pethau'n hollol anghywir, bydd y rhyngrwyd yn gyflym i ddweud wrthych! Ymddiheurwch os oes angen, cywirwch y camgymeriad a symudwch ymlaen. Ni all neb fyth feirniadu eich ymdrechion i ddefnyddio neu hyrwyddo ein hiaith.
5. Dyfal Donc a Dyr y Garreg!
Beth bynnag yw lefel eich Cymraeg, ry’n ni gyd ar ein taith datblygiad personol. Er fy mod i wedi gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ers yn blentyn, es i Nant Gwrtheyrn yn ddiweddar ar gwrs Gloywi Iaith i wella fy sgiliau. Ers hynny, dwi’n teimlo'n fwy hyderus nag erioed yn fy ngallu i ysgrifennu, a chyfathrebu ag eraill, yn Gymraeg. Rwy'n ei argymell yn fawr.
Mae cymaint o enghreifftiau gwych o gyfathrebu dwyieithog creadigol ledled Cymru. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwneud gwaith gwych. Adleisiwyd hyn mewn cynhadledd cyfryngau cymdeithasol a fynychais yn Nulyn, lle cefais fy nghalonogi yn fawr o glywed eu bod yn edrych i Gymru fel arfer gorau wrth iddynt geisio tyfu eu defnydd o Aeleg Iwerddon.
Er y gall fod yn frawychus, bydd eich cynulleidfa yn sylwi ar yr ymdrechion hyn a'u gwerthfawrogi. Amdani!
Laura Truelove
Uwch Reolwr Digidol, Llywodraeth Cymru
Mae Laura yn Uwch Reolwr Cynnwys Digidol yn Nhîm Digidol Canolog Llywodraeth Cymru. Mae ganddi brofiad o reoli sawl cyfrif cyfryngau cymdeithasol dwyieithog proffil uchel ar ran y llywodraeth. Mae hi'n angerddol dros gyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog, ac mae'n cyflwyno sgyrsiau a hyfforddiant yn rheolaidd ar y pwnc hwn.