Gwnaethom barhau i gynnal gweithdai i helpu timau a sefydliadau i ddeall Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru yn well, lle rydym yn trafod pob un o'r safonau ac yn trafod beth sy'n gweithio'n dda a beth y gellid ei wella.

Ar ddiwedd y gweithdy, bydd gan dimau feysydd i ganolbwyntio arnynt a gallant dynnu sylw at y pethau y maent yn eu gwneud yn dda ac y dylent eu dathlu.

Gwnaethom hefyd sicrhau bod deunyddiau'r gweithdy ar gael yn Gymraeg a Saesneg os yw timau am roi cynnig ar hwyluso gweithdai eu hunain.

Effaith

Gwnaethom gwblhau 4 adolygiad o safonau gwasanaeth allanol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, a Thrafnidiaeth Cymru yn ogystal ag 1 adolygiad o safon gwasanaeth mewnol gyda'n tîm gweithrediadau.

Roedd y cyfranogwyr yn gweld yr adolygiadau yn brofiad cadarnhaol a defnyddiol.

Dyma oedd gan ein partneriaid i'w ddweud

“Roedd yn dangos bod rhai bylchau yn ein gwaith sydd angen i ni ei ystyried.”

“Fe wnaethon ni gydnabod faint rydyn ni wedi'i wneud sy'n gysylltiedig â'r safonau gwasanaeth.”

“Roedd yn gyfle i bobl drafod mewn dull agored a gonest.”

Y camau nesaf

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn archwilio sut olwg sydd ar gam nesaf yr adolygiadau safonau gwasanaeth ac yn archwilio ein cynnig ehangach i alluogi mwy o bobl i gwblhau'r gweithdy.

Mae gennym 2 adolygiad allanol arall wedi'u cynllunio dros yr ychydig fisoedd nesaf.

E-bostiwch standards@digitalpublicservices.gov.wales os oes gennych ddiddordeb bod yn rhan o un o'n hadolygiadau.

Darllen rhagor

Adolygu eich gwasanaeth yn erbyn y Safonau Gwasanaeth Digidol

Sut mae'n bodloni ein hamcanion

Amcanion CDPS:

Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i yrru’r gwaith o lunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol.

Amcan 2: Cefnogi eraill i sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol trwy eu helpu i greu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr.

Amcan 5: Parhau i hyrwyddo defnydd a rennir o'r technolegau a chreu ac ymgorffori safonau cyffredin a rennir ym maes digidol, data a thechnoleg.

Y Pum Ffordd o Weithio – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Meddwl yn yr hirdymor
  • Integreiddio
  • Cynnwys
  • Cydweithio
  • Atal

7 nod llesiant – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang