Mae Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru yn nodi sut y disgwylir i wasanaethau digidol newydd neu wedi'u hailgynllunio gan sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru fod.  

Nid yw'r safonau yn set o reolau y mae'n rhaid i chi eu dilyn. Maent yn helpu sefydliadau i adeiladu cynhyrchion a gwasanaethau digidol gwych. 

Mae'r safonau'n gwneud eich gwaith yn haws trwy: 

Adeiladu beth sydd ei angen ar eich defnyddwyr 

Mae siarad â defnyddwyr, deall beth sydd angen iddynt ei wneud a phrofi gwahanol ffyrdd o fodloni'r angen hwnnw, yn golygu y byddwch yn cael isafswm cynnyrch hyfyw (MVP) allan i ddefnyddwyr yn gyflymach.  

Yn ei dro, mae hyn yn golygu eich bod yn osgoi adeiladu rhywbeth nad yw'n addas a all achosi oedi cyn lansio a costio amser ac arian i'w gywiro. 

Gall mwy o bobl ddefnyddio'ch gwasanaeth 

Trwy ei gwneud yn syml, yn hygyrch ac yn ddwyieithog, gall eich holl ddefnyddwyr ddefnyddio eich gwasanaeth. Mae hyn yn golygu bod llai o angen dylunio ac adeiladu gweithrediadau a phrosesau. Gallwch ganolbwyntio ar ddatrys y broblem gywir. 

Gallwch ailddefnyddio'r hyn y mae eraill eisoes wedi'i wneud 

Mae ein safonau gwasanaeth yn hyrwyddo rhannu ac ailddefnyddio cod, dyluniadau a mewnwelediadau.  

Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi dreulio amser ac arian yn datrys problem gyffredin oherwydd efallai ei bod eisoes wedi'i datrys yn rhywle arall.  

Dylai eich holl ddysgu ac adnoddau fod ar gael i eraill yn y sector cyhoeddus i'w hailddefnyddio. 

Datrys problemau  

Mae'r safonau gwasanaeth yn eich helpu i ddatrys problemau fesul tipyn. Maen nhw'n ei gwneud hi'n glir beth sydd angen ei wneud cyn lansio gwasanaeth a'r hyn y gellir gweithio'n barhaus arno.  

Mae timau yn cael eu hannog i ddefnyddio eu barn. Nid ydym am i dimau gael eu gohirio wrth geisio adeiladu'r profiad defnyddiwr perffaith, gallwn wella hynny unwaith y bydd defnyddwyr yn ei gael yn eu dwylo. 

Ond rydym am i wasanaethau fod yn hygyrch a diogel, felly mae'r safonau gwasanaeth yn helpu i ddileu'r dyfalu ar gyfer yr hyn a wneir 'digon' ohono a beth i'w flaenoriaethu cyn ei lansio. 

Ymwreiddio'r Gymraeg a Chenedlaethau'r Dyfodol 

Yng Nghymru, mae gennym strategaethau uchelgeisiol ar gyfer y Gymraeg a chefnogi cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r safonau gwasanaeth yn annog timau i feddwl am y rhain drwyddi draw. Mae hyn yn helpu i ddangos sut mae eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau digidol yn cefnogi eich sefydliad i gyfrannu at Cymraeg 2050 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r safonau gwasanaeth yn sicrhau eich bod yn osgoi newidiadau mawr cyn lansio megis creu'r fersiwn Gymraeg o'r gwasanaeth ar ôl y fersiwn Saesneg, dylid adeiladu'r ddwy fersiwn ar yr un pryd.  

Sut i adolygu eich gwasanaeth yn erbyn ein safonau gwasanaeth 

Mae'r gweithdy yn 2 awr, ac rydym yn mynd trwy bob un o'r safonau fesul un ac yn trafod beth sy'n gweithio’n dda a beth y gellid ei wella 

Ar ddiwedd y gweithdy, dylech gael meysydd i ganolbwyntio arnynt, a thynnu sylw at y pethau rydych chi'n eu gwneud yn dda a dylech eu dathlu. 

Byddem wrth ein bodd yn helpu i hwyluso'r gweithdai hyn gyda chi. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni – info@digitalpublicservices.gov.wales  

Gwrandewch ar Fliss Bennée, Pennaeth Data Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddefnyddio ein safonau gwasanaeth: 

Adnoddau 

Rydym wedi sicrhau bod y deunyddiau gweithdy ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg os ydych am roi cynnig ar hwyluso eich hun neu gyda'ch tîm.