Cynnwys
Trosolwg
Dyma'r camau a gymeron ni wrth weithio ar gyd-ddylunio cynnwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi cynnwys, offer a thempledi y gallwch eu hailddefnyddio yn eich eich prosiectau eich hun.
Straeon defnyddwyr
Yn dilyn ymchwil desg, fe wnaethon ni ddatblygu straeon defnyddwyr. Mae'r rhain yn ein galluogi i ddeall cymhellion ein defnyddwyr a sut y gall y cynnwys hwn eu helpu.
Fel… person sydd angen help ariannol
Dw i eisiau… gwybod i bwy mae’r grant ar gael
Er mwyn... penderfynu os alla i wneud cais a’i peidio.
Fel… rhiant/gwarcheidwad sydd angen help ariannol
Dw i eisiau… gwybod at beth mae’r grant ar gael
Er mwyn… deall ar gyfer beth alla i ei ddefnyddio.
Fel… rhiant/gwarcheidwad sydd angen help ariannol
Dw i eisiau… gwybod beth yw'r meini prawf cymhwysedd
Er mwyn… peidio gwneud cais am gymorth nad wyf yn gymwys i’w dderbyn.
Fel… person yn gwneud cais am y grant
Dw i eisiau… gwybod pryd i wneud cais
Er mwyn… peidio methu’r dyddiad cau.
Fel… person yn gwneud cais am y grant
Dw i eisiau... deall sut i wneud cais
Er mwyn... gwneud yn siŵr mod i’n dilyn y broses gywir
Fel… person yn gwneud cais am y grant
Dw i eisiau... deall sut i wneud cais
Er mwyn... gwneud yn siŵr mod i’n dilyn y broses gywir
Meini prawf
Mae'r meini prawf yn cael eu hysgrifennu o safbwynt y defnyddwyr. Maent yn ein helpu i wybod pryd bydd y gwaith wedi llwyddo. Mae’r gwaith wedi'i gwblhau pan...
Dw i’n gwybod...
- a ydw i’n gymwys a’i peidio ar gyfer y grant
- ar gyfer beth mae’r grant
- y meini prawf
- pryd i wneud cais
- sut i wneud cais
- pa wybodaeth dw i ei angen i wneud cais
- beth sy’n digwydd nesaf
Dw i’n teimlo... yn dawel fy meddwl fy mod yn deall popeth sydd ei angen i wneud cais am y grant
Dw i’n gallu... gwneud cais am y grant yn llwyddiannus
Gweithdai
Cynhaliwyd gweithdai ar-lein yn ystod y prosiect. Roeddent ar gyfer:
- adolygu'r cynnwys presennol ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgolion ochr yn ochr ag awdurdodau lleol
- ysgrifennu cynnwys newydd mewn triawd
- adolygu'r cynnwys newydd gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru
Dysgwch sut i ysgrifennu triawd.
Darllenwch hanes Ceri yn ei rôl fel cyfieithydd ar y prosiect
Darllenwch fyfyrdodau Adrián ar y dull safonol o gyfieithu ac ysgrifennu triawd
Prototeipio
Fe wnaethon ni adeiladu prototeip i brofi a datblygu syniadau gyda defnyddwyr.
Fe adeiladon ni brototeip rhyngweithiol cywair-canolig mewn rhaglen o'r enw Figma. Mae Figma yn ddarn o feddalwedd 'dim cod' sy'n golygu ei fod yn ddewis cadarn ar gyfer adeiladu'r amgylchedd yn gyflym i gartrefu'r cynnwys dwyieithog yr oeddem wedi'i ddylunio.
Rydym wedi ei gynllunio i deimlo'n gyfarwydd i ddefnyddwyr, gyda:
- arddulliau'r llywodraeth
- cymysgedd o wefannau awdurdodau lleol
- fersiynau bwrdd gwaith a symudol
Ar ôl i'r rhain gael eu dylunio, roedd yn rhaid i ni eu profi gyda darpar-ddefnyddwyr. Fe wnaethon ni eu profi ar y ddyfais y byddai defnyddiwr fel arfer yn ei defnyddio.
Profi defnyddioldeb
Cynhaliwyd rownd o brofion defnyddioldeb i adolygu a phrofi'r tudalen prototeip Grant Hanfodion Ysgol. Cafodd y prototeip hwn y cynnwys newydd ei ddrafftio gyda chyfraniad awdurdodau lleol.
Amcanion y profion defnyddioldeb
Roeddem am wybod a oedd defnyddwyr yn gweld y cynnwys hwn yn ddealladwy, yn gywir, yn gyson ac yn hygyrch. Yn benodol, roeddem yn awyddus i ddarganfod a oedd:
- y cynnwys yn glir ac yn hawdd ei ddeall
- yr holl wybodaeth sydd ei angen yn y cynnwys
- y cynnwys Cymraeg o safon gyfartal i'r Saesneg
Cyfranogwyr
Roedden ni yn bwriadu recriwtio 6 cyfranogwr i brofi'r prototeip, 3 a oedd yn Saesneg iaith gyntaf i brofi'r cynnwys Saesneg a 3 a oedd yn Gymraeg iaith gyntaf i brofi'r cynnwys Cymraeg.
Bu recriwtio yn heriol ac, yn y pen draw, dim ond 4 cyfranogwr y llwyddon ni i'w recriwtio o fewn y 3 wythnos, 2 Gymraeg a 2 Saesneg.
Sut aethom ati
Gwnaethom gynnal y profion o bell a gofyn cwestiynau i'r cyfranogwyr am:
- strwythur y cynnwys
- pa mor hawdd oedd deall y cynnwys
- a oedd yr holl wybodaeth yr oedd ei hangen ar y cyfranogwr yn y cynnwys
Canfyddiadau
Roedd pob un o'r 4 cyfranogwr yn teimlo bod y cynnwys yn glir ac yn hawdd ei ddeall ac yn gyffredinol yn cynnwys y wybodaeth gywir.
Daeth rhai sylwadau mwy adeiladol i'r amlwg o'r profion hefyd. Fe wnaethon ni ddadansoddi'r rhain a gwneud yr argymhellion canlynol:
- Dylid annog awdurdodau lleol i ddisodli cynnwys presennol y Grant Hanfodion Ysgol gyda'r cynnwys newydd. Dangosodd ein profion fod y cyfranogwyr yn ffafrio'r cynnwys newydd dros yr hyn y mae eu hawdurdodau lleol yn ei gynnig ar hyn o bryd.
- Parhau gyda'r ysgrifennu triawd i sicrhau bod cynnwys Cymraeg yn cael ei ddatblygu i'r un safon â'r Saesneg. A pharhau i sicrhau bod iaith 'niwtral' yn cael ei chynnal.
- Dylunio ar gyfer dyfeisiau symudol yn gyntaf. Mae cyfranogwyr yn fwy tebygol o gael mynediad at y cynnwys hwn ar eu ffonau symudol.
- Cynnwys enwau Saesneg buddion ar y tudalennau Cymraeg. Er ei bod yn ymddangos bod hyn yn gwrth-ddweud Safonau'r Gymraeg, mae gennym dystiolaeth sy'n dangos y byddai hyn yn helpu i ddiwallu anghenion rhai defnyddwyr.
- Annog Awdurdodau Lleol i gynnwys gwybodaeth am eu hamserlenni. Dangosodd profion fod hyn yn bwysig i ddefnyddwyr sydd am gynllunio a chyllidebu.
Templedi cynnwys
Cynnwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol 2023 hyd 2024.docx
Cynnwys y gallwch ei ailddefnyddio ar wefan eich awdurdod lleol am y Grant Hanfodion Ysgol.
Llyfr ymadroddion y Grant Hanfodion Ysgol 2023 hyd 2024.docx
Gallwch deilwra'r cynnwys i anghenion penodol eich cyngor gyda brawddegau o'r llyfr ymadroddion hwn.
HTML y Grant Hanfodion Ysgol (Saesneg).html
Gallwch ailddefnyddio'r fersiwn HTML Saesneg o gynnwys y Grant Hanfodion Ysgol.
HTML y grant Hanfodion Ysgol (Cymraeg).html
Gallwch ailddefnyddio'r fersiwn HTML Cymraeg o gynnwys y Grant Hanfodion Ysgol.
Gwyliwch ei sesiwn dangos a dewud
Cysylltu â ni
Cysylltwch ag ed.cann@digitalpublicservices.gov.wales i gymryd rhan mewn prosiectau gyda ni yn y dyfodol.