Mae prototeipiau’n frasfodel o syniad. Maen nhw’n caniatáu i chi brofi’r syniad cyn ei wneud yn fyw i’r cyhoedd.

Nid yw prototeipiau i fod yn berffaith. Maen nhw’n gallu bod yn gyflym ac yn fras, ond maen nhw’n gallu cyfleu’r syniad yn ddigon da i chi gael adborth gan ddefnyddwyr.

Pryd i brototeipio

Gallwch brototeipio rhywbeth pan nad yw'n glir beth yw gofynion y cynnyrch, neu maen nhw'n newid yn gyflym. 

Efallai y bydd angen i chi greu prototeip os ydych chi'n profi syniad neu gysyniad nad yw'n bodoli eto.

Sut i brototeipio

Gallwch wneud prototeip ar gyfer:

  • cynnyrch ffisegol 
  • gwefan neu ap 
  • gwasanaeth 

Gellir profi cynnyrch ffisegol ar gardfwrdd. Gellir profi gwefan neu ap drwy ffrâm wifren wedi'i dynnu â llaw. Gellir profi rhyngweithiad gwasanaeth gyda chwarae rôl. 

Y peth gorau i’w wneud yw dechrau profi syniadau mewn cywair isel yn gyntaf i sicrhau nad ydych yn treulio llawer o amser yn adeiladu rhywbeth nad yw'n diwallu anghenion defnyddwyr.  

Gallech: 

  1. ddefnyddio papur i fynd â'ch tîm drwy gamau defnyddio eich ap gyda pheth cynnwys sylfaenol 
  2. gwneud fersiwn digidol sylfaenol a'i brofi gyda defnyddwyr 
  3. ei adeiladu'n fersiwn cywair uchel gyda brandio a chynnwys wedi'i brofi, y gallwch fod â hyder ynddo 

Mae'r ddelwedd isod yn dangos gwahanol lefelau o gyweiriau mewn prototeipiau i brofi gyda defnyddwyr a chael eu hadborth.  

A photo showing the different levels of fidelity in a prototype, from a sketch to an app screen

Credyd llun: Anami Chan 

Wrth weithio gyda phrototeipiau, dylech bob amser: 

  • greu pob cydran fel sgriniau, tudalennau, neu ddyluniadau a chynnwys y cynnwys 
  • gwneud yn siŵr bod y cydrannau'n cyd-fynd â'r naratif ar gyfer y prototeip yn ddi-dor o safbwynt y defnyddiwr 
  • ei wneud yn gyson: mae unrhyw gamgymeriadau neu rannau coll yn atgoffa defnyddwyr eu bod yn edrych ar gynnyrch neu wasanaeth ffug 
  • ymchwilio a chasglu asedau megis cynnwys presennol, llyfrgelloedd delweddau, neu enghreifftiau tebyg i helpu i lunio'r prototeip 
  • ysgrifennu'r sgript cyfweliad i gynnal cyfweliadau am y prototeip 
  • cwblhau treial a mynd drwy'r prototeip i ddod o hyd i gamgymeriadau a’u trwsio 

Teclynnau ar gyfer prototeipio

Cynhyrchion digidol 

Os gallwch chi ddefnyddio meddalwedd dylunio penodol, mae Figma, Sketch ac Adobe XD yn declynnau y gallech chi eu hystyried. 

Os nad oes gennych fynediad at declynnau dylunio y telir amdanynt, defnyddiwch declynnau fel: 

  • Keynote 
  • PowerPoint 
  • Canva 

Gallech hefyd ddefnyddio teclynnau adeiladu gwefannau fel Squarespace, Wix, Wordpress neu Marvel. Mae'r teclynnau hyn yn wych ar gyfer prototeipio cyflym a phrofi cynnwys mewn porwr. 

Cynnyrch ar bapur  

Gallai cynhyrchion ar bapur gynnwys llythyrau, llyfrynnau, taflenni, adroddiadau, neu ddeunyddiau marchnata. 

I brototeipio'r rhain, defnyddiwch feddalwedd prosesu geiriau megis Microsoft Word neu Google Docs. 

Gallwch hefyd ddefnyddio Canva, meddalwedd dylunio, neu offeryn cyflwyno.  

Argraffwch gynnyrch ar bapur bob amser i weld sut y byddai'n edrych pan gaiff ei argraffu.  

Gwasanaethau  

Os ydych chi'n prototeipio gwasanaeth, mae'n syniad da prototeipio gyda sgript neu fwrdd stori. 

Gwrthrychau 

Gallwch weithio gyda gwrthrychau ffisegol neu ddefnyddio offer digidol i brototeipio'r marchnata ar gyfer cynnyrch.  

Er enghraifft, os ydych chi'n gweithio ar ddyluniad swyddfa newydd, efallai y bydd defnyddio modelau ffisegol yn ddefnyddiol.  

Gallech hefyd brototeipio gyda lluniau o sut y gallai'r swyddfa edrych a defnyddio hyn i gasglu adborth.  

Wrth brototeipio gwrthrychau ffisegol, gallwch hefyd newid gwrthrych sy'n bodoli eisoes. Rydym wedi canfod bod teganau plant, fel Lego neu playdough, yn ddefnyddiol wrth greu'r mathau hyn o brototeipiau. 

Dysgu mwy am brototeipio

Prototeipio: esiamplau