Yn ddiweddar, gwnaethom orffen prosiect darganfod mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y cyhoedd yn gyffredinol (gan gynnwys teithwyr o grwpiau a glywir yn aml), a chwmnïau tacsis lleol yng Nghaerdydd, Bangor a Llandrindod.
Nodau
Nod y prosiect oedd gwneud cynnydd sylweddol yn y sector tacsi a cherbydau hurio preifat yng Nghymru drwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol a rhannu data rhwng awdurdodau lleol a chwmnïau tacsis, er mwyn gwella'r safonau diogelwch ar gyfer pob teithiwr.
Y broblem yr ydym yn ceisio ei datrys
Mae diogelwch teithwyr yn hanfodol, a cheisiodd y prosiect hwn fynd i'r afael â her hanfodol o fewn y sector tacsis a cherbydau hurio preifat – cronfeydd data tameidiog a rhannu data cyfyngedig.
Drwy ddod â Llywodraeth Cymru, y cyhoedd yn gyffredinol, Dragon Taxis, a chwmnïau tacsis lleol o Fangor a Llandrindod ynghyd, roeddem yn bwriadu creu dull ar y cyd sy'n mynd i'r afael â phryderon diogelwch yn rhagweithiol.
Roedd ein partneriaeth â Dragon Taxis, sy'n chwaraewr amlwg yn y diwydiant trafnidiaeth, yn ein galluogi i ddefnyddio eu profiad a'u mewnwelediadau gwerthfawr i wella cwmpas ac effaith ein prosiect.
Roedd cwmnïau tacsis lleol ym Mangor a Llandrindod yn cynrychioli rheng flaen cludo teithwyr. Roedd eu cyfranogiad yn ein galluogi i ddeall yr heriau unigryw a wynebir gan yrwyr tacsis, teithwyr a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Roedd cynnwys y cyhoedd yn sicrhau bod llais y teithiwr yn cael ei glywed, ac roedd eu hadborth a'u safbwyntiau yn chwarae rhan bwysig wrth lunio ein strategaethau.
Crynodeb o'r gwaith
Yng nghamau cychwynnol y prosiect, cynhaliwyd cyfweliadau a gweithdai gyda rhanddeiliaid o gwmnïau tacsi lleol ym Mangor a Llandrindod.
Gwnaethom ymgysylltu'n weithredol â'r cyhoedd yn gyffredinol, gan gasglu adborth a mewnbwn gwerthfawr ar eu profiadau a'u pryderon diogelwch yn ystod teithiau tacsi.
Rhoddodd y cam darganfod ddata hanfodol i ni ar y cronfeydd data a'r arferion rhannu data presennol ymhlith yr awdurdodau lleol. Gwnaethom ddadansoddi'r wybodaeth hon, archwilio arferion gorau, ac edrych ar ddulliau posibl o wella rhannu data heb beryglu preifatrwydd a diogelwch.
Partneriaid
Llywodraeth Cymru – Fel noddwr y prosiect, darparodd Llywodraeth Cymru gymorth ac arweiniad amhrisiadwy i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer gwasanaethau tacsi a cherbydau hurio preifat mwy diogel.
Dragon Taxis – Yn bartner allweddol yn y prosiect, daeth Dragon Taxis â'u harbenigedd helaeth yn y diwydiant trafnidiaeth, gan gyfoethogi ein dealltwriaeth o gymhlethdodau'r sector.
Y cyhoedd cyffredinol (teithwyr) – Roedd teithwyr wrth wraidd y prosiect hwn, ac roedd eu cyfranogiad yn sicrhau bod yr atebion yr oeddem yn chwilio amdanynt yn diwallu eu hanghenion ar ddiogelwch a chysur.
Cwmnïau tacsi lleol – Roedd y cydweithio gyda chwmnïau tacsis lleol yn ein galluogi i gael mewnwelediad i'r realiti sy'n wynebu gyrwyr a'u teithwyr yn ddyddiol.
Y camau nesaf - alpha
Nawr bod y cam darganfod wedi dod i ben, rydym yn symud i gyfnod alffa byr. Un maes a amlygwyd fel rhan o'r darganfyddiad oedd na ellir gwneud gwelliannau i ddiogelwch nes ein bod yn deall sut mae data'n cael ei ddal, ei storio a'i rannu. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i ddeall sut mae data gyrwyr a thrwyddedu yn cael eu dal ar nifer o lefelau lleol a chenedlaethol.
Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r tîm Mesur tacsi i archwilio'r mater hwn ac rydym yn siarad â chymaint o randdeiliaid ag y gallwn. Rydym yn bwriadu blogio am ein cynnydd. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gofrestru i dderbyn nodiadau wythnosol CDPS.