Mae'r tîm yn Llywodraeth Cymru eisoes wedi blogio ynghylch pwysigrwydd defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr wrth wneud penderfyniadau polisi sy'n ymwneud â diogelwch teithwyr mewn tacsi a cherbydau hurio preifat. 

Ymchwil defnyddwyr yn brofiad newydd 

Nid oedd gennyf unrhyw brofiad o gynnal ymchwil defnyddwyr cyn y prosiect hwn, a dim ond dealltwriaeth gyfyngedig iawn ei fod yn cynnwys ymgysylltu'n uniongyrchol â defnyddwyr gwasanaeth neu gynnyrch a gwrando ar eu meddyliau a'u barn. 

Oherwydd fy mod yn anghyfarwydd ag ymchwil defnyddwyr, darparodd y tîm yn CDPS ganllawiau defnyddiol i mi ynghylch y ffordd orau o wneud nodiadau yn ystod cyfweliadau ymchwil defnyddwyr.  

Dysgu prosesau ymchwil defnyddwyr 

Yn ystod y cyfweliadau, nid oedd fy nghamera na'r meicroffon ymlaen – roedd hyn er mwyn caniatáu i James, yr  ymchwilydd defnyddiwr arbenigol, adeiladu perthynas â'r cyfwelai a meithrin sgwrs, yn hytrach na'r cyfwelai yn teimlo eu bod yn cael eu cyfweld gan banel. Roedd y dull hwn hefyd yn caniatáu imi ganolbwyntio ar wrando ar y cyfwelai yn unig, a cheisio nodi cymaint o ddyfyniadau uniongyrchol ag y gallwn. 

Ar ôl y cyfweliadau, daeth James â'r holl ysgrifenwyr nodiadau ynghyd i drafod yr holl gyfweliadau a'r hyn a ddywedodd y rhai a gyfwelwyd wrthym, i geisio nodi unrhyw themâu cyffredin a godwyd. Roedd y rhain yn gyfarfodydd defnyddiol gan bod cyfle i wrando ar brofiadau cyfweleion eraill a thynnu sylw at unrhyw feysydd ffocws allweddol yr oedd y cyfweleion yn teimlo'n gryf yn eu cylch. 

Pwysigrwydd corff annibynnol 

Rydym yn dîm bach yn Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y Bil Tacsi a Cherbydau Hurio Preifat, ac nid oedd gan un aelod o'n tîm sgiliau ymchwil defnyddwyr arbenigol. O ganlyniad i weithio gyda CDPS, cawsom fynediad at yr adnodd hwnnw, ond mae gweithio gyda chorff annibynnol hefyd yn rhoi mwy o drylwyredd i'n hymchwil a'i ganfyddiadau, gan dynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn ffordd agored a thryloyw gyda phartneriaid yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

Roeddem hefyd yn credu y gallai rhai o'r bobl oedd yn cael eu cyfweld fod yn fwy parod i siarad yn agored gydag ymchwilydd annibynnol. 

Darparu gwasanaethau gwell 

Rwy'n credu mai'r syndod mwyaf i mi oedd gwylio James, yr ymchwilydd defnyddiwr arbenigol, wrth ei waith.  Llwyddodd i roi rhwydd hynt i'r cyfwelai a llywio'r sgwrs tuag at y cwestiynau allweddol yr oedd angen i ni eu gofyn, tra bob amser yn cynnal llif sgwrs naturiol. 

Yn y dyfodol, byddwn yn bendant yn ceisio ymgysylltu â defnyddwyr yn uniongyrchol lle bynnag y bo modd. Mae gwrando ar brofiadau pobl yn uniongyrchol wedi rhoi persbectif newydd gwirioneddol i mi ar fy ngwaith ac wedi atgyfnerthu fy ymdrechion i ddarparu gwasanaethau gwell i bobl Cymru. 

Beth nesaf? 

Mae'r tîm bellach yn syntheseiddio'r themâu ymchwil a grwpio. Byddwn yn blogio am ein canfyddiadau ac yn cyhoeddi adroddiad manwl yn ystod yr wythnosau nesaf.