Yn ei Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i foderneiddio gwasanaethau tacsis yng Nghymru i wneud gwasanaethau'n fwy diogel, yn wyrddach ac yn decach. 

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cadw gwybodaeth am y gyrwyr tacsi a cherbydau llogi preifat y mae'n eu trwyddedu. Mae rhywfaint o'r wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd. Argymhellodd adolygiadau blaenorol gan Gomisiwn y Gyfraith a Llywodraeth y DU y byddai rhannu gwybodaeth drwyddedu rhwng awdurdodau lleol a theithwyr yn helpu i wella diogelwch a hyder teithwyr. 

Diogelwch teithwyr sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr 

Roeddem yn awyddus i archwilio diogelwch teithwyr mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i ni gynnwys pobl a chydweithio i gyflawni ein nodau. Roeddem am osgoi neidio i ddatrysiadau heb ddeall rôl awdurdodau lleol ac agweddau ac ymddygiadau teithwyr at ddiogelwch. 

Roeddem yn awyddus i weithio gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a dysgu gan eu tîm medrus a phrofiadol sy'n defnyddio dull dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.  

Rydym wedi ffurfio un tîm ac wedi gwneud cynnydd rhagorol gan ddefnyddio methodoleg Ystwyth. Rydym yn cynnal cyfarfodydd ddwywaith yr wythnos (stand-ups) sydd wedi helpu i gadw'r prosiect i symud yn gyflym, a hefyd yn defnyddio offer gan gynnwys Slack a Trello i'n helpu i reoli'r gwaith. 

O'r camau cynnar, mae siarad â phobl wedi herio ein rhagdybiaethau ynghylch diogelwch teithwyr. Rwy'n argyhoeddedig y bydd mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn arwain at benderfyniadau polisi gwell. 

Os hoffech chi gymryd rhan mewn ymchwil i ddefnyddwyr, e-bostiwch user.research@digitalpublicservices.gov.wales

Darllen mwy

Moderneiddio'r sector tacsi a cherbydau hurio preifat

Gwyliwch ein sioe dangos a dweud