Rydym wedi bod yn gweithio gyda CDPS i geisio dod o hyd i ddull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a deall pryderon diogelwch yn y sector tacsis a cherbydau hurio preifat. Roeddem yn awyddus i ddeall:   

  • pryderon diogelwch teithwyr  
  • profiadau sy'n gwneud i deithwyr deimlo yn anniogel  
  • y camau y mae teithwyr yn eu cymryd i gadw eu hunain yn ddiogel  
  • pryderon gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat ynghylch diogelwch  

Gwnaeth y tîm waith rhagorol, gan ymweld a lleoliadau ledled Cymru i gyfweld 32 o deithwyr a 24 o bobl sy’n gweithio yn y maes hwn.  Roedd hyn yn cynnwys teithwyr a oedd yn rhannu nodweddion gwarchodedig fel oedran, rhyw, hil, ailbennu rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.  Mae dysgu mwy am sut mae agweddau teithwyr a gyrwyr tuag at ddiogelwch wedi ein helpu i ddeall y materion a bydd yn arwain at atebion gwell.  

Yr hyn a ddarganfuwyd  

Rydym wedi dysgu llawer am ganfyddiadau o ddiogelwch a'r camau y mae teithwyr a gyrwyr yn eu cymryd i gadw eu hunain yn ddiogel.   

Nawr ein bod ni wedi cyrraedd diwedd y cyfnod darganfod, rydyn ni'n myfyrio ar yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu ac yn cynllunio ar gyfer y camau nesaf.   

Ffordd wahanol i'n tîm weithio 

Mae'r tîm yn gwbl argyhoeddedig ynghylch gwerth y prosiect hwn a'r hyn y mae wedi'i ychwanegu at y broses o ddatblygu'r Bil Tacsis. 

Rwyf wrth fy modd â'r ymadrodd “gweithio'n agored”.  Yn Llywodraeth Cymru, rydym yn sôn am gynnwys pobl a gweithio mewn partneriaeth.  Yn fy marn i, gweithio mewn dull agored yw hynny.  

Rydym wedi gwneud cryn dipyn o ymgysylltu ynghylch y Bil Tacsis, ond rydym wedi tueddu i ymdrin a'r un grŵp o randdeiliaid ar y tro.  Mae rhywbeth pwerus a democrataidd am y fformat dangos a dweud rydyn ni'n ei ddefnyddio i ddangos rhywbeth yr ydym yn gweithio arno er mwyn casglu adborth a gall unrhyw un ofyn unrhyw beth.  

Rwy'n sicr yn bwriadu chwilio am gyfleoedd i barhau â'r ffordd hon o weithio a byddaf yn annog eraill i wneud yr un peth.   

Y camau nesaf  

Yn y flwyddyn newydd, byddwn yn gweithio gyda CDPS i edrych ar yr argymhellion i archwilio sut y mae data am drwyddedu yn cael ei gasglu, ei storio a'i ddefnyddio.  Rydym am ystyried a allai rhannu data trwyddedu rhwng awdurdodau lleol a gyda theithwyr helpu i wella diogelwch.  Ac efallai y bydd potensial hefyd i rannu data â phartneriaid eraill i'w galluogi i greu gwasanaethau a fyddai'n ddenfyddiol i deithwyr.  Mae hyn gan fod y ffocws yn parhau i fod ar ddefnyddwyr a'u hanghenion. 

I ddysgu mwy am ganfyddiadau'r ymchwil, gwyliwch ein sioe darganfod a dweud terfynol.