Gwyliwch y weminar
Yn 2022 fe wnaethon ni gynnal cyfres o weminarau am y broblem sy’n wynebu nifer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, yn y farchnad swyddi bresennol.
Mae cynnwys y fideo ar gael yn y canllaw hwn.
Deall eich cynulleidfa darged
Man cychwyn pwysig i unrhyw ymgyrch recriwtio yw sicrhau eich bod yn deall eich cynulleidfa darged a sut y byddant yn derbyn eich hysbyseb.
Gallwch wneud hyn drwy siarad am y rôl gydag aelodau o staff sydd eisoes yn gweithio yn y proffesiwn rydych chi’n bwriadu penodi iddo.
Gallwch hefyd ddefnyddio LinkedIn Talent Insights. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth fewnol ar dueddiadau’r farchnad i chi. Er enghraifft, os oes cyfradd gadael uchel (hynny yw, llawer o bobl yn gadael) o fewn un cwmni neu sefydliad byddwch yn gallu gweld hyn. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i dargedu gweithwyr o’r sefydliad hwn.
Bydd ymgeiswyr o safon uchel yn cael eu boddi gan negeseuon recriwtwyr. Mae’n bwysig felly bod pwrpas i’ch neges a bod y rôl sydd yn cael ei hysbysebu yn berthnasol i’w sgiliau.
Tynnu sylw ymgeisydd posib
Wrth ysgrifennu neges i ymgeisydd posib, dylech ddechrau trwy:
- gyflwyno eich hun a’ch rôl
- esbonio yn fras pwy yw’r sefydliad sy’n recriwtio a’i weledigaeth
- esbonio’r rôl a pham rydych chi’n meddwl eu bod nhw’n addas ar ei gyfer
Dylech deilwra bob neges, ond dyma wybodaeth hanfodol y dylech ei chynnwys:
- dolen i’r disgrifiad swydd llawn ar wefan
- y cyflog
- buddion y sefydliad i staff
- enghreifftiau o brosiectau’r sefydliad
- cynnig i gael sgwrs uniongyrchol dros y ffôn neu drwy alwad fideo cyn iddyn nhw wneud cais
- Y dyddiad cau
- eich manylion cyswllt
Ymgeiswyr goddefol
Mae’n bwysig ymgysylltu ag ymgeiswyr goddefol drwy gydol eich proses recriwtio.
Gellir diffinio ymgeisydd goddefol fel rhywun sydd:
- yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd
- ddim yn mynd ati i geisio gadael eu rôl bresennol
- yn agored i glywed am gyfleoedd
Mae arolwg LinkedIn diweddar wedi dangos sut mai ymgeiswyr goddefol yw hyd at 75% o’r farchnad sydd ar gael.
Mae eich strategaeth hysbysebu yn allweddol i ddenu ymgeiswyr goddefol. Gallai eich strategaeth gynnwys:
- ymgysylltu’n uniongyrchol â grwpiau perthnasol ar LinkedIn a Twitter
- rhannu cofnodion blog gyda rhwydweithiau perthnasol
- gofyn am atgyfeiriadau gan gyd-weithwyr
- tynnu sylw ymgeiswyr yn uniongyrchol gan ddefnyddio strategaeth recriwtio uniongyrchol ar LinkedIn
Os ydych wedi datblygu rhwydwaith cryf gyda’ch presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan ddeniadol, yna dylai hyn hefyd helpu i ddenu ymgeiswyr goddefol a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod am eich gweithgaredd recriwtio.
Recriwtio ar y cyfryngau cymdeithasol
Mewn marchnad swyddi gythryblus, mae’n rhaid ymgeiswyr gredu yng ngweledigaeth eich cwmni.
Gweithio yn agored
Yn aml gallwch greu chwilfrydedd drwy:
- weithio yn yr awyr agored ar y cyfryngau cymdeithasol
- rhannu’r prosiectau cyffrous rydych chi’n eu datblygu fel busnes
- bod yn dryloyw ym mhopeth rydych chi’n ei wneud
Bydd hyn yn helpu i greu diddordeb yn eich rolau gwag.
Creu argraff gyda’ch gwefan
Gwefan eich cwmni yn aml yw’r argraff gyntaf i ymgeiswyr posib. Dylai ddangos amcanion eich cwmni yn glir yn ogystal â dangos prosiectau enghreifftiol sy’n cyffroi pobl.
Dylai tudalen recriwtio ar wefan bob amser fod yn ddeniadol i’r holl ymgeiswyr p’un ai yw’r cwmni yn recriwtio ar y pryd neu beidio. Yn CDPS, rydym ar hyn o bryd yn newid ein tudalen recriwtio i adlewyrchu hyn.