Cynnwys disgrifiad swydd cynhwysol

Mewn hysbyseb swydd gynhwysol, dylech: 

  • gynnwys y cyflog ymhob disgrifiad swydd
  • rhestru buddion y cwmni i staff  
  • defnyddio iaith niwtral o ran rhywedd
  • cynnwys datganiad cynwysoldeb

Enghraifft o ddatganiad cynwysoldeb

Dyma ddatganiad cynwysoldeb yr ydym wedi’i ddefnyddio mewn disgrifiadau swydd yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol:

Darllenwch ymlaen

Mae ymchwil yn dangos, tra bod dynion yn gwneud cais am swyddi y maen nhw’n bodloni 60% o’r meini prawf ar eu cyfer, mae menywod a phobl eraill ar yr ymylon yn tueddu i ymgeisio dim ond pan fyddant yn ticio pob blwch.

Felly, os ydych chi’n credu eich bod yn addas i’r rôl, ond nid ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt ar y swydd ddisgrifiad, daliwch ati i gysylltu â ni. Byddem yn falch iawn o gael sgwrs i weld a fyddech yn gweddu i’r rôl.

Rydym yn frwd ynglŷn â chreu gweithlu amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli. Rydym yn croesawu cyfle cyfartal ni waeth am anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, rhywedd a chyflwyniad rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant a chrefydd.