MAe amau y gall cyflogwyr eu cymryd i sicrhau bod staff yn hapus ac yn aros yn eich sefydliad.
Gwyliwch weminar cadw staff
Cynnig polisïau gweithio hyblyg
Cefnogwch eich staff gyda pholisïau gweithio hyblyg a chynlluniau budd-daliadau.
Os ydych chi’n cefnogi eich staff y tu hwnt i fywyd gwaith o ddydd i ddydd, bydd staff yn fwy tebygol o aros yn eu rôl bresennol.
Dyma rai polisïau y mae;r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn eu rhoi ar waith:
Polisi mislif a menopos
Mae hyn yn caniatáu i weithwyr sy’n profi mislifau problemus neu symptomau’r menopos gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i reoli eu symptomau yn y gwaith.
Polisi gweithio hyblyg
Mae’r polisi gweithio hyblyg yn annog staff i weithio mewn ffordd hyblyg.
Mae CDPS yn cydnabod y gall gwell cydbwysedd bywyd a gwaith wella cymhelliant staff, perfformiad a chynhyrchiant. Gall hefyd leihau straen.
Mae CDPS eisiau cefnogi ei staff i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng eu bywydau gwaith a phersonol. Gallai hyn helpu pobl i ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu, gweithgareddau hamdden, dysgu pellach, hobïau, a diddordebau.
Polisi gofalwyr
Mae gan tua 1 o bob 7 gweithiwr yng Nghymru gyfrifoldebau gofalu ac mae disgwyl I’r ffigwr hwn godi ymhellach.
Dylai ein rheolwyr ddangos cydymdeimlad â staff sy’n gwneud cais am gymorth er mwyn cyflawni cyfrifoldebau gofalu sy’n effeithio’n sylweddol ar gydbwysedd eu bywydau personol a gwaith.
Gwobrwyo a chanmol staff
Dylech wobrwyo, cydnabod a chanmol eich staff yn rheolaidd.
Mae hyn yn ein helpu i hybu ymgysylltiad ac yn atgyfnerthu ymddygiad a gweithredoedd dymunol.
Nid oes angen i wobrau fod â gwerth ariannol. Yma’n CDPS, mae gennym sianel slac ‘rwyt ti’n anhygoel’.
Mae rheolwyr ac aelodau’r tîm yn defnyddio’r sianel i gydnabod gwaith rhagorol.
Yn CDPS mae’n creu ymdeimlad o gymuned mewn cwmni sy’n gweithio o bell. Mae hefyd yn tynnu sylw at waith amhrisiadwy o fewn y busnes.
Twf gyrfa a chyfleoedd
Un o’r prif resymau y mae cyflogwyr yn ei chael hi’n anodd cadw staff yw oherwydd diffyg cynnydd a thwf gyrfa.
Am bob 10 mis ychwanegol y mae gweithiwr yn ei dreulio mewn rôl, maent yn 1% yn fwy tebygol o edrych y tu hwnt i’w cwmni presennol ar gyfer eu swydd nesaf.
Dros y 4 blynedd diwethaf bu newid mawr yn y ddeinameg pŵer rhwng cyflogwyr a gweithwyr.
Astudiaeth gan adolygiad busnes Harvard
Mae wedi dod yn llawer haws ac yn fwy cyffredin i weithwyr newid swyddi heb fawr ddim goblygiadau
Felly, mae’n bwysig rhoi sylw i drobwyntiau yng nghylchoedd bywyd gweithiwr. Gallwch:
- gael sgwrs rheolaidd gyda’ch staff am eu gyrfa
- cael deialog agored am eu dymuniadau a’u hanghenion o fewn eu gyrfa
- cynnig cyfleoedd ar gyfer secondiad
- rhoi llwybr clir i ddatblygu eu gyrfa
Er nad oes ateb syml i gadw staff, mae’n bwysig creu amgylchedd cynhwysol, anogol. Mae hyn yn caniatáu i weithwyr dyfu gyda’r busnes yn lle tyfu ar wahân iddo.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â denu, recriwtio neu gadw staff, cysylltwch â’n partner talent sefydledig, Lauren Power: lauren.power@digitalpublicservices.gov.wales