Gwyliwch y weminar

Yn 2022 fe wnaethon ni gynnal cyfres o weminarau am y broblem sy’n wynebu nifer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, yn y farchnad swyddi bresennol.

Mae cynnwys y fideo ar gael yn y canllaw hwn.

Deall eich cynulleidfa darged

Man cychwyn pwysig i unrhyw ymgyrch recriwtio yw sicrhau eich bod yn deall eich cynulleidfa darged a sut y byddant yn derbyn eich hysbyseb. 

Gallwch wneud hyn drwy siarad am y rôl gydag aelodau o staff sydd eisoes yn gweithio yn y proffesiwn rydych chi’n bwriadu penodi iddo. 

Gallwch hefyd ddefnyddio LinkedIn Talent Insights. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth fewnol ar dueddiadau’r farchnad i chi. Er enghraifft, os oes cyfradd gadael uchel (hynny yw, llawer o bobl yn gadael) o fewn un cwmni neu sefydliad byddwch yn gallu gweld hyn. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i dargedu gweithwyr o’r sefydliad hwn.  

Bydd ymgeiswyr o safon uchel yn cael eu boddi gan negeseuon recriwtwyr. Mae’n bwysig felly bod pwrpas i’ch neges a bod y rôl sydd yn cael ei hysbysebu yn berthnasol i’w sgiliau. 

Tynnu sylw ymgeisydd posib

Wrth ysgrifennu neges i ymgeisydd posib, dylech ddechrau trwy: 

  • gyflwyno eich hun a’ch rôl 
  • esbonio yn fras pwy yw’r sefydliad sy’n recriwtio a’i weledigaeth 
  • esbonio’r rôl a pham rydych chi’n meddwl eu bod nhw’n addas ar ei gyfer 

Dylech deilwra bob neges, ond dyma wybodaeth hanfodol y dylech ei chynnwys:  

  • dolen i’r disgrifiad swydd llawn ar wefan 
  • y cyflog 
  • buddion y sefydliad i staff 
  • enghreifftiau o brosiectau’r sefydliad 
  • cynnig i gael sgwrs uniongyrchol dros y ffôn neu drwy alwad fideo cyn iddyn nhw wneud cais 
  • Y dyddiad cau 
  • eich manylion cyswllt 

Ymgeiswyr goddefol

Mae’n bwysig ymgysylltu ag ymgeiswyr goddefol drwy gydol eich proses recriwtio. 

Gellir diffinio ymgeisydd goddefol fel rhywun sydd: 

  • yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd 
  • ddim yn mynd ati i geisio gadael eu rôl bresennol 
  • yn agored i glywed am gyfleoedd 

Mae arolwg LinkedIn diweddar wedi dangos sut mai ymgeiswyr goddefol yw hyd at 75% o’r farchnad sydd ar gael.  

Mae eich strategaeth hysbysebu yn allweddol i ddenu ymgeiswyr goddefol. Gallai eich strategaeth gynnwys: 

  • ymgysylltu’n uniongyrchol â grwpiau perthnasol ar LinkedIn a Twitter 
  • rhannu cofnodion blog gyda rhwydweithiau perthnasol 
  • gofyn am atgyfeiriadau gan gyd-weithwyr 
  • tynnu sylw ymgeiswyr yn uniongyrchol gan ddefnyddio strategaeth recriwtio uniongyrchol ar LinkedIn 

Os ydych wedi datblygu rhwydwaith cryf gyda’ch presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan ddeniadol, yna dylai hyn hefyd helpu i ddenu ymgeiswyr goddefol a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod am eich gweithgaredd recriwtio. 

Recriwtio ar y cyfryngau cymdeithasol

Mewn marchnad swyddi gythryblus, mae’n rhaid ymgeiswyr gredu yng ngweledigaeth eich cwmni. 

Gweithio yn agored

Yn aml gallwch greu chwilfrydedd drwy: 

  • weithio yn yr awyr agored ar y cyfryngau cymdeithasol 
  • rhannu’r prosiectau cyffrous rydych chi’n eu datblygu fel busnes 
  • bod yn dryloyw ym mhopeth rydych chi’n ei wneud 

Bydd hyn yn helpu i greu diddordeb yn eich rolau gwag. 

Sgrinlun o hysbyseb swydd gan CDPS ar Linkedin

Creu argraff gyda’ch gwefan

Gwefan eich cwmni yn aml yw’r argraff gyntaf i ymgeiswyr posib. Dylai ddangos amcanion eich cwmni yn glir yn ogystal â dangos prosiectau enghreifftiol sy’n cyffroi pobl.  

Dylai tudalen recriwtio ar wefan bob amser fod yn ddeniadol i’r holl ymgeiswyr p’un ai yw’r cwmni yn recriwtio ar y pryd neu beidio. Yn CDPS, rydym ar hyn o bryd yn newid ein tudalen recriwtio i adlewyrchu hyn.