Arfer gorau wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu swyddi

I gynyddu’ch ymgysylltiad a chyrhaeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dylech: 

  • gynnwys digon o ‘ofod gwyn’ – peidiwch â phentyrru gormod o destun gyda’i gilydd 
  • rhannu brawddegau yn llinellau ar wahân
  • dechrau eich neges gyda chwestiwn a fydd yn ennyn diddordeb 
  • defnyddio hashnodau yn eich neges (mae LinkedIn yn argymell dim rhagor na 3 hashnod) 
  • tagio aelodau o’ch uwch dîm arwain neu staff sydd â rhwydweithiau mawr 
  • annog staff i aildrydar neu ail-rannu gyda sylw

Enghreifftiau o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol

Enghraifft o neges Gymraeg ar gyfer Twitter sy'n dilyn arferion gorau'r cyfryngau cymdeithasol.

Enghraifft o neges Saesneg ar gyfer Twitter sy'n dilyn arferion gorau'r cyfryngau cymdeithasol.

Cynyddu amrywiaeth gyda grwpiau cyfryngau cymdeithasol

Mae rhwydweithiau neu grwpiau cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cael eu hanwybyddu fel offeryn defnyddiol. Fodd bynnag, maent yn ddull cost-effeithiol a chyflym a all fod yn hanfodol wrth hysbysebu eich rôl i gymunedau mwy amrywiol. 

Yn CDPS, rydym yn cyhoeddi yn ddwyieithog ar ein holl gyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn annog rhyngweithio ac ymestyn tua thalentau cymunedau amrywiol Cymru. 

Mae hefyd yn bwysig ymgysylltu â grwpiau LGBTQI+ a Contendiverse ar Slack, LinkedIn neu hyd yn oed Instagram a TikTok. Bydd llawer o aelodau’n ymgeiswyr goddefol sydd ddim yn cofrestru ar fyrddau swyddi. Mae eu cyfarfod ar lwyfannau y byddant eisoes yn eu defnyddio yn ffordd o estyn allan.  

Ni ddylai’r ymgysylltu hwn ddechrau a gorffen gyda dolen i’ch hysbyseb swydd. Dylai fod yn ymdrech ymwybodol, barhaus i weithio gydag aelodau’r grŵp a’u denu. Dylech hefyd fod yn onest am eich cynnydd mewn amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn hytrach na chymryd ymagwedd gyffredin at y pwnc.  

Dyma restr o grwpiau Slack efallai yr hoffech chi ymgysylltu â nhw os ydych chi’n gweithio ym maes technoleg