Cynhaliwyd sawl digwyddiad yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys:
- Sesiwn dangos a dweud i amlygu canfyddiadau ein hymarfer darganfod
- Gweminar gyda Content Design London ynglŷn â chynnwys hygyrch
- Mis thema ar gyfer ein Cymunedau Ymarfer
- 4 sesiwn hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr ac arweinwyr
- Digwyddiad arweinyddiaeth Dolenni Digidol gyda phanel a oedd yn cynnwys y Comisiynydd Pobl Hŷn a’r Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Ymgysylltwyd â 271 o bobl o bob rhan o’r sector cyhoeddus. Mae 500 o bobl eraill wedi gwylio’r recordiad o’r digwyddiadau hyn ar ein sianel YouTube.
Darparodd ein digwyddiad arweinyddiaeth lwyfan i alinio â phartneriaid strategol a chryfhau’r neges ynglŷn â phwysigrwydd hygyrchedd a’r ddeddfwriaeth sy’n sail iddo.
“Mae’n rhaid i hygyrchedd digidol fod yn flaenoriaeth sy’n rhoi pobl yn gyntaf wrth ddarparu gwasanaethau, oherwydd bod rhaid i wasanaethau cyhoeddus weithio i ni i gyd, nid dim ond y rhai sy’n hyderus yn ddigidol.
Bydd blaenoriaethu hygyrchedd yn helpu i hyrwyddo annibyniaeth, gan alluogi pobl hŷn i wneud pethau fel trefnu apwyntiad meddyg teulu, gwneud cais am hawliadau ariannol neu dalu bil cyngor ar-lein heb orfod dibynnu ar gymorth gan bobl eraill.”

“Mae dyletswydd i gael hyn yn iawn fel corff cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010”
Cafwyd llawer o adborth da o’n hyfforddiant hefyd:
‘Roedd y cwrs yn wych – addysgiadol iawn, er braidd yn llethol ar adegau o ganlyniad i’r materion deddfwriaethol. Ers hynny, rydw i wedi adrodd yn ôl i’m rheolwr llinell am bwysigrwydd a rhwymedigaethau cyfreithiol gwefan hygyrch, gyda’r nod o neilltuo arian ac amser i sicrhau bod y safle presennol yn cael ei brofi gan ddefnyddiwr yn hytrach na dibynnu ar brosesau awtomataidd yn unig.”
“Mae hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd adborth o bob math gan ddefnyddwyr a sut y gall ychwanegu gwerth go iawn at ein gwaith”
“Roedd y cwrs yn wych ac wedi pwysleisio manteision adborth gan ddefnyddwyr i sicrhau bod pawb yn gallu mynd ar-lein mewn ffordd hygyrch”
Gwyliwch ein rhestr chwarae Hygyrchedd ar YouTube
Beth nesaf
Byddwn yn parhau i gynyddu ymwybyddiaeth o’r pwnc hwn ac ymgysylltu â sefydliadau ynglŷn ag ef. Byddwn yn lansio llyfr am Hygyrchedd Digidol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.
Mae angen i ni hefyd weld newidiadau pendant oherwydd y gwaith hwn. Byddwn yn cynnig asesiadau gwasanaeth i’r sector cyhoeddus i archwilio pa mor dda maen nhw’n bodloni Safon Gwasanaethau Digidol Cymru – gan gynnwys yr egwyddor ‘sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio’r gwasanaeth’ ac yn rhoi mwy o gyngor ac arweiniad yn seiliedig ar yr hyn a ganfyddwn.
Neilltuwch eich lle ar gyfer digwyddiad lansio’r llyfr hygyrchedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.