Mae ein digwyddiadau cymuned gyd-ddylunio yn cyflymu’r broses o ddatrys problemau trwy gysylltu arbenigwyr ar draws ffiniau sefydliadol. Mae’r amgylchedd cydweithredol hwn yn meithrin arloesedd wrth i’r aelodau herio tybiaethau, cyfuno gwahanol safbwyntiau, a chreu dulliau newydd o fynd i’r afael â heriau cymhleth.

“Rydw i wir yn gweld manteision dod â phobl ynghyd i gysylltu a chreu rhywbeth nad oedd yn bodoli cyn hynny"
Aelod o’r Gymuned Ymarfer Ymchwil Defnyddwyr, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rydym wedi cynnal dau ddigwyddiad cymuned gyd-ddylunio eleni. 

Arweiniad cyd-ddylunio ar gyfer cynnal ymchwil defnyddwyr ddwyieithog 

Mae ymgorffori dwyieithrwydd mewn ymchwil yn allweddol i ddarparu gwasanaethau sy’n gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r maes hwn yn tyfu ac yn esblygu yng Nghymru ac roedd yn gyffrous archwilio hyn gyda’r gymuned ymarfer ymchwil defnyddwyr.  

Yr allbwn: cynnwys ar gyfer ein llawlyfr gwasanaeth ynglŷn â chynnal ymchwil defnyddwyr ddwyieithog – wedi’i greu gan y gymuned, ar gyfer y gymuned.  

gabi linkedin post

Profi llyfrgell patrymau gwasanaeth

Mae patrymau gwasanaeth yn atebion y gellir eu hailddefnyddio i broblemau dylunio cyffredin: templedi ymarferol a chanllawiau ar gyfer creu gwasanaethau (neu ran o wasanaethau) sy’n cael eu hailadrodd. 

Gallai llyfrgell patrymau gwasanaeth gynorthwyo timau sector cyhoeddus yng Nghymru i ddylunio gwasanaethau digidol yn gyflymach, yn rhatach, ac yn fwy cyson – gan greu gwasanaethau mwy di-dor, hygyrch, dwyieithog ar gyfer tasgau cyffredin fel ymgeisio, archebu, cofrestru a gofyn am bethau. 

Roeddem wedi cynnal gweithdai gyda thimau gwasanaeth yng Nghyngor Blaenau Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ond roeddem eisiau profi ein syniadau gyda’n cymheiriaid a dylunwyr eraill profiadol a chael adborth a beirniadaeth ganddynt.  

Denodd y sesiwn ddylunwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Basis, y Swyddfa Dywydd, Awdurdod Refeniw Cymru, Content Design London a Chwaraeon Cymru a gyfrannodd at yr hyn a fydd yn llyfrgell batrymau ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru.  

Beth nesaf?

Ychwanegu at y gwaith da! Ein gweledigaeth yw bod ein cymunedau’n cynorthwyo ei gilydd yn weithredol. Rydym yn cynllunio mwy o weithdai cyd-ddylunio, gan gyfuno’r cymunedau ‘dylunio profiad digidol’ a ‘dylunio gwasanaeth Cymru’ i ganolbwyntio ein hadnodd ‘dylunio’ a sefydlu cymuned data technegol yn dilyn llwyddiant y gyfres o weminarau data gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf.  

Cofrestrwch i ymuno â chymuned ymarfer.