Mae Cymunedau Ymarfer yn rhwydweithiau cydweithredol grymus sy’n dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol sy’n rhannu diddordebau, arbenigedd, a heriau. Mae’r grwpiau hyn yn darparu llawer o fuddion sefydliadol sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i rannu gwybodaeth yn syml.
Maen nhw’n fuddiol iawn i ddatblygiad proffesiynol, gan gynnig cyfleoedd i’r aelodau ffurfio perthnasoedd â’u cymheiriaid, datblygu gwybodaeth arbenigol, gwella eu henw da proffesiynol, a chael eu mentora gan gydweithwyr mwy profiadol. Maen nhw hefyd yn cyfrannu at safoni arferion gorau, gan sicrhau cysondeb ar yr un pryd â pharchu cyd-destunau lleol unigryw.
“Rydw i eisiau bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf, pwy sydd â syniadau da, pwy fyddai’n gysylltiadau da. Bydd y byd yn mynd yn fwy digidol, felly rwy’n aelod o’r gymuned i sicrhau fy mod i’n cynnal fy ngwybodaeth.”
“Fe wnaethon ni ymarferiad lle’r edrychon ni ar ddarn o gynnwys a rhoi adborth arno – roedd yr elfen adolygu o’r sesiwn hon yn ddefnyddiol. Roedd yn gyfle i weld sut mae pobl eraill yn gwneud pethau a chlywed eu hawgrymiadau. Roedd yn braf cyfrannu yn ogystal â gweld beth oedd pawb arall wedi sylwi arno. "
Y llynedd, cynhaliwyd 44 o gyfarfodydd cymunedau ar draws meysydd cyfathrebu, dylunio cynnwys, ymchwil defnyddwyr, deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio, dylunio gwasanaethau a dylunio profiadau digidol.
Mynychwyd y cyfarfodydd gan 943 o bobl – a dychwelodd 283 o unigolion dro ar ôl tro.
Ein cymunedau yn ôl sector
