Ym mis Rhagfyr 2023, roedd 16,812 o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn aros am asesiad niwroddatblygiadol anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD) neu ADHD. Erbyn mis Mehefin 2023, roedd mwy na dwy ran o dair ohonynt (67.4%) wedi bod yn aros am fwy na 26 wythnos.   

Mae’r galw am asesiadau niwroddatblygiadol wedi cynyddu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a rhagfynegir y bydd yn parhau i gynyddu yn y blynyddoedd i ddod.   

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £13.7 miliwn i drawsnewid gwasanaethau a lleihau amserau aros ADHD ac awtistiaeth. 

Rydym wedi bod yn gweithio gyda thîm Niwroamrywiaeth ac Anableddau Dysgu Llywodraeth Cymru i archwilio sut gallai offer digidol leddfu’r pwysau ar y gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud ag asesiadau, gan ei gwneud yn haws iddynt gyflawni eu swyddi’n effeithiol, yn ogystal â gwella’r profiad i deuluoedd ac unigolion ar y rhestr aros. 

Trwy ein gwaith darganfod, siaradwyd â theuluoedd, unigolion, a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru i ddeall y profiadau bywyd go iawn wrth wraidd y rhifau. Roedd y neges yn glir: mae’r system wedi’i llethu, mae’n aneffeithlon, ac mae’n cymryd gormod o amser. Prin yw’r mynediad at wybodaeth amserol i bobl sy’n aros am asesiad, mae ymdrechion yn cael eu dyblygu ar draws gwasanaethau gyda baich gweinyddol trwm ar glinigwyr a chyd-destun digidol darniog nad yw’n adlewyrchu anghenion y rhai sy’n defnyddio neu’n darparu gwasanaethau.  

“Nid ydym yn fyr o ymrwymiad – rydym yn fyr o amser, capasiti, a thechnoleg weithio. Mae’n llafurus.” 

“Mae’r holiaduron ar bapur. Nid yw hynny’n ddelfrydol oherwydd eu bod nhw’n mynd ar goll neu mae’n anodd deall llawysgrifen. Ac mae’n rhaid i mi gadw cofnod o’r ffaith fy mod i wedi rhoi’r holiadur. Felly, maen nhw’n ei ddychwelyd, rydyn ni’n ei sganio i nodiadau’r claf ac yna mae’n cael ei atodi i’r llythyr atgyfeirio sy’n cael ei anfon trwy e-bost at yr adran. Wedi hynny, mae’r copi papur yn cael ei rwygo.”

Beth rydym wedi’i wneud  

Yn ystod ein cam darganfod, sefydlom gyfiawnhad cryf dros ddatrysiadau digidol i wella effeithlonrwydd. Amlygwyd sawl problem gyda’r systemau papur presennol, gan gynnwys dogfennau coll a thrafferthion gyda llawysgrifen. Datgelodd ein hymchwil fod timau gweinyddol wedi’u llethu gan ymholiadau ffôn gan rieni ac atgyfeirwyr, tra bod ysgolion yn darparu gwybodaeth werthfawr a allai gyflymu’r broses asesu’n sylweddol petai’n cael ei chasglu’n iawn.

Datblygwyd map cynhwysfawr o ‘gyflwr presennol’ llwybrau atgyfeirio ac asesu, trwy siarad â byrddau iechyd ledled Cymru. Profwyd systemau technoleg yn erbyn yr hyn y mae gweithwyr proffesiynol a’r rhai sy’n aros am atgyfeiriad ei angen, mewn gwirionedd. Roedd hyn wedi ein helpu i ddatblygu ffordd o werthuso offer digidol a sefydlu dealltwriaeth a rennir ar gyfer rhanddeiliaid o’r hyn y mae angen i system allu ei wneud. 

Cynhaliwyd gwerthusiad desg o bum cynnyrch digidol sydd eisoes yn bodoli. Yn seiliedig ar ein hanghenion canfyddedig, argymhellwyd archwilio un o’r cynhyrchion hyn ymhellach. Rydym wedi adolygu offer eraill mwy newydd sydd wedi dod ar gael ers hynny.

Rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd i dreialu un neu fwy o’r offer yn y byd go iawn. Mae’r cam hwn nid yn unig yn canolbwyntio ar brofi’r dechnoleg ei hun, ond yn gwerthuso sut mae’n integreiddio â llifoedd gwaith a systemau presennol, gyda phwyslais penodol ar gynorthwyo ymarferwyr â’u gwaith beunyddiol. 

Gadewch i ni glywed am y gwaith gan ein Huwch Swyddog Cyfrifol yn Llywodraeth Cymru, Sian Delyth Lewis

Beth nesaf? 

Yn rhan o’r gwaith, rydym wedi amlygu’r cyfle i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i leihau’r baich gweinyddol ar staff a chlinigwyr. Byddwn yn rhoi diweddariad ar hyn, a chanfyddiadau ein cynllun peilot, mewn postiadau blog yn y dyfodol.  

Cofrestrwch ar gyfer diweddariadau prosiect a gwahoddiadau i'n sesiynau dangos a dweud.