Yn y modiwl hwn rydym am ddangos y cysylltiad rhwng Digidol ac ystwyth. Oherwydd eu bod yn gweithio mewn partneriaeth o ran ffordd o feddwl, y ffordd y maen nhw’n ymddwyn a’r hyn y maen nhw’n ei wneud. Mae digidol yn ymwneud â newid sefydliadol. Mae'r dull Ystwyth yn ymdrin ag ystyr geiriau: Gall gweithio yn y ffordd hon eich helpu chi ar eich llwybr i drawsnewidiad digidol. 

Yn ei hanfod, mae Ystwyth yn eich annog i roi lle canolog i'ch defnyddwyr. Yna rydych yn ceisio darparu cynhyrchion neu wasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion. Gall timau ystwyth rhoi y rhain ar waith i ddefnyddwyr yn gynnar, fel y gallant gasglu adborth. Mae hyn yn esbonio sut caiff y prosiect ei redeg a sut mae'r gwasanaeth yn datblygu dros amser.

Yn y modiwl hwn, byddwn yn edrych yn fanylach ar y dull o weithio Ystwyth. Byddwn yn trafod:

  • Ystwyth – beth ydyw 
  • sut mae'n cymharu â dull o weithio traddodiadol ‘Rhaeadr’? 
  • sut i benderfynu pa ddull sydd orau i chi