Tasg
Gwyliwch y fideo (6:20) yn cyflwyno dull gweithio Ystwyth. Byddwn yn edrych ar beth yw y dull gweithio Ystwyth a pham y daeth i'r amlwg.
Trawsgrifiad o'r fideo
Yn y rhan hon o'r cwrs, ry’n ni'n archwilio Ystwyth. Yn gyntaf, byddwn yn canolbwyntio ar:
- Darddiad Ystwyth
- Beth yw Ystwyth
- Pam y daeth i'r amlwg
Wrth ddatblygu'r feddalwedd crewyd ffurf Ystwyth? Roedd cwmnïau technoleg newydd yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu cynhyrchion gwell mewn llai o amser. Felly teimlai datblygwyr ei bod yn bwysig gallu addasu i newidiadau yn y dirwedd, i gystadlu ag eraill.
Yn 2001, daeth grŵp o arweinwyr ynghyd i fynd i’r afael â’r heriau a wynebwyd ganddynt. Roeddent yn credu bod ffocws busnesau ar gynllunio a dogfennu syniadau, sydd ddim yn cwrdd ag anghenion defnyddwyr. O hyn, fe wnaethon nhw greu'r Maniffesto Ystwyth. Syniad allweddol hyn oedd cadw'r broses ddatblygu yn hyblyg a chanolbwyntio ar bobl.
Dyma'r maniffesto ystwyth. Mae'n dweud:
"Ry’n ni'n datgelu ffyrdd gwell o wneud pethau a helpu eraill i'w wneud hefyd. Trwy'r gwaith hwn, ry’n ni wedi dod i werthfawrogi:" yr eitemau a restrir.
Mae'r gwerth cyntaf yn blaenoriaethu cyfathrebu, dros ddilyn prosesau neu ddefnyddio offer i wneud i bethau ddigwydd. Dychmygwch dîm yn gweithio ar brosiect. Yn hytrach na dibynnu ar offeryn rheoli prosiect, dylent gael sgyrsiau rheolaidd. Mae hyn yn sicrhau bod pawb ar yr un dudalen. Gall y tîm fynd i'r afael ag unrhyw faterion, gan wneud y broses yn fwy hyblyg ac ymatebol.
Nesaf, mae'r syniad bod cyflawni rhywbeth sy'n gweithio yn bwysicach na chynhyrchu dogfennaeth helaeth. Er enghraifft, dychmygwch dîm yn datblygu system archebu apwyntiadau. Gallent dreulio misoedd yn dogfennu beth fydd y system yn ei wneud. Neu gallent ddatblygu fersiwn sylfaenol, y gall pobl ei defnyddio a darparu adborth arni. Fel hyn, gallant ailadrodd yn seiliedig ar brofiad ac anghenion defnyddwyr go iawn.
Yn drydydd, mae Ystwyth yn pwysleisio gweithio gyda defnyddwyr, yn hytrach na chadw at gytundebau cychwynnol. Dychmygwch dîm yn creu gwasanaeth newydd i gymuned leol. Yn hytrach na chadw at gynllun sydd wedi'i ddiffinio ymlaen llaw, gallant gael mewnbwn gan y gymuned. Yna, byddant yn defnyddio'r adborth i addasu a gwella'r rhaglen. Mae hyn yn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn fuddiol i'r rhai y mae i fod i'w gwasanaethu.
Yn olaf, mae'r gallu i addasu i newid yn fwy gwerthfawr na chadw at gynllun. Er enghraifft, dychmygwch gyflwyno polisïau newydd sy'n effeithio ar brosiect. Yn lle brwydro i gynnwys y rhain yn y cynllun, mae Ystwyth yn annog timau i adolygu eu hymagwedd. Mae'r hyblygrwydd yma’n eu helpu i aros yn berthnasol ac effeithiol, hyd yn oed wrth i amgylchiadau o'u cwmpas newid.
Ar y gwaelod, fe welwch y llinell "Tra bod gwerth i'r eitemau ar y dde, rydym yn gwerthfawrogi'r hyn sydd ar y chwith fwy.". Nid yw hyn yn golygu bod timau Ystwyth yn cael gwared ar brosesau, dogfennaeth, contractau neu gynlluniau. Maen nhw'n dal i wneud yr holl bethau hyn. Maent yn canolbwyntio’n fwy ar yr eitemau ar y chwith oherwydd dyma sy'n gyrru cynnydd a gwelliant.
O'r gwerthoedd, daeth set o 12 egwyddor i'r amlwg.
Yn ein cwrs "Hanfodion Hyblyg i Dîmau," ry’n ni’n archwilio pob un o'r egwyddorion yn fanwl. Yn y cwrs hwn, rydym yn canolbwyntio ar 4 ohonynt. Dyma'r rhai sy'n sefyll allan fel rhai gwerthfawr i'w deall yn gyntaf.
Byddwn yn canolbwyntio ar:
Ddarparu gwerth i ddefnyddwyr yn gynnar
Nod timau ystwyth yw darparu cynhyrchion defnyddiol a swyddogaethol i ddefnyddwyr cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn golygu blaenoriaethu'r nodweddion pwysicaf a'u cyflawni. O ganlyniad, mae'r defnyddwyr yn elwa yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mae'r dull yma’n helpu timau i gasglu adborth a gwneud gwelliannau mewn iteriadau yn y dyfodol.
Nesaf, cofleidio newid
Mae timau'n croesawu newidiadau, hyd yn oed yn hwyr. Yn y sector cyhoeddus, gall polisïau, rheoliadau neu anghenion defnyddwyr newydd godi unrhyw bryd. Mae ystwyth yn annog hyblygrwydd, gan ganiatáu i dimau addasu i'r rhain. Mae hyn yn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.
Nesaf, Gweithio mewn timau traws-swyddogaethol
Mae Ystwyth yn hyrwyddo cyd-weithio ymysg aelodau'r tim sydd gydag amrywiaeth o sgiliau ac arbenigedd. Mae cael aelodau o fewn tim sydd gyda gwahanol gallu, ffyrdd o gyd-weithio yn cyflwyno gwahanol agweddau. Mae hyn yn arwain at atebion mwy cynhwysfawr ac effeithiol.
Yn olaf, archwilio ac addasu
Mae timau'n adolygu eu gwaith yn rheolaidd ac yn gwneud addasiadau angenrheidiol. Maent yn gwneud hyn drwy fesur effaith y gwasanaeth a chasglu adborth. Mae hyn yn eu galluogi i fireinio eu hymagwedd . Mae'n sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod yn gyson ag anghenion a disgwyliadau'r defnyddwyr.
I grynhoi, mae Ystwyth yn cynrychioli newid mewn diwylliant a meddylfryd. Ffordd wahanol o wneud pethau. Mae wedi'i wreiddio yn y 4 gwerth a'r 12 egwyddor.
Ry’n ni’n mynd i fwy o fanylion am wahanol offer a thechnegau yn ein cwrs "Hanfodion Hyblyg i Dimau."
Ond am y tro, cofiwch, os ydych chi'n cofleidio'r gwerthoedd a'r egwyddorion, yna ry’ch chi'n Ystwyth.