Pwy ydym ni
Ni yw’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Ein gwaith ni yw eich cefnogi chi, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru, i ddylunio a gwella gwasanaethau cyhoeddus digidol.
Rydym yn gweithio ar draws y sector cyhoeddus: iechyd a gofal, llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a gyda sefydliadau eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn dod â phobl at ei gilydd, yn darparu arweinyddiaeth ac yn dylanwadu ar yr agenda ddigidol, gan weithio’n agos gydag arweinwyr digidol eraill yng Nghymru, gan gynnwys y Prif Swyddog Digidol ac Arloesi ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Prif Swyddog Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol a CDO ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Ein nod yw cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, sy’n nodi y dylid dylunio gwasanaethau cyhoeddus o amgylch anghenion y bobl sy’n eu defnyddio.
Rhoi pobl yn gyntaf
Wrth i ni reoli llawer o’n bywydau ar-lein, rhaid i wasanaethau cyhoeddus fod ar gael ac yn hawdd eu defnyddio ar-lein.
Mae llawer o wasanaethau cyhoeddus digidol presennol yn brin.
Rydym yma i helpu
Mae’r canllaw hwn yn amlinellu’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i’ch helpu i ddylunio a gwella eich gwasanaethau digidol.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am ein dull gweithredu a sut rydym yn gweithio gyda phartneriaid.