Ein model codi tâl

Ariennir CDPS gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Ddigidol Cymru. Darperir ein cyngor, ein canllawiau ar safonau, llywodraethu a mewnbwn strategol yn rhad ac am ddim, ynghyd â’n digwyddiadau a’n cyrsiau hyfforddi ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.

Ar gyfer ein gwaith ‘dylunio a gwella gwasanaethau digidol’, nid ydym yn codi tâl lle gwelwn botensial sylweddol i ddarparu buddion, a lle nad oes cyllid penodol ar gael fel arall.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i brosiectau sy’n caniatáu i CDPS arddangos arfer da ar draws ystod o brosesau ac offer (fel asesu gwasanaethau a mapio, cynaliadwyedd TG, gwelliannau data, awtomeiddio a darparu dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr).

Lle mae cyllid penodol ar gael, neu y gellir ei gael, mae gennym fodel codi tâl cytunedig yn seiliedig ar gerdyn ardreth. Bydd trefniadau codi tâl yn cael eu trafod a’u hegluro gyda phartneriaid unigol a’u mynegi mewn cytundeb partneriaeth wedi’i deilwra. Bydd codi tâl am rywfaint o’n gwaith yn galluogi CDPS i raddio ei wasanaethau fel y gall mwy o sefydliadau a thimau elwa.