Sut rydym yn gweithio

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliad neu grŵp

o sefydliadau sy’n gweithio ar yr un peth.

Mae newid parhaol yn dod o weithio gyda’n gilydd. Rydym eisiau magu hyder ein partneriaid i wneud pethau’n wahanol.

Mae gennym dîm medrus parhaol gyda phrofiad o gyflwyno, dylunio gwasanaeth, cynnyrch, ymchwil defnyddwyr, dylunio cynnwys a dylunio rhyngweithiol a thîm o arbenigwyr cyfathrebu a all eich helpu i siarad am yr hyn rydych chi’n ei wneud a’r hyn rydych chi’n ei ddysgu.

Byddwn yn trafod yr holl geisiadau yng nghyfarfodydd ein tîm arweinyddiaeth ac os gallwn helpu, byddwn yn gweithio gyda chi i drafod canlyniadau, amserlenni, cyllideb a disgwyliadau. Bydd angen ymrwymiad gan arweinwyr eich sefydliad a byddwn yn drafftio cytundeb partneriaeth gyda chi sy’n amlinellu’n glir pwy sy’n gwneud beth.

Os na allwn eich cefnogi gyda’ch cais penodol, efallai y gallwn helpu mewn ffyrdd eraill megis cynnig persbectif amgen, cynnig eich mentora chi neu’ch tîm, neu ddarparu cymorth drwy ein rhaglen hyfforddi neu gymunedau ymarfer.

Pam gweithio gyda ni?

Fel sefydliad a ariennir gan Lywodraeth Cymru (gyda mandad i gefnogi sefydliadau i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus), rydym ninnau hefyd yn rhan o’r sector cyhoeddus. Mae gennym ddealltwriaeth gyffredin o’r pwysau rydych yn eu hwynebu.

Rydym yn ceisio gweithio gyda sefydliadau sy’n rhannu ein huchelgais i wneud pethau’n wahanol, er mwyn cyflawni newid parhaol.

Rydym yn annog partneriaid i:

  • roi anghenion defnyddwyr yn gyntaf fel ein bod yn dylunio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio, yn ogystal â chwrdd â nodau sefydliadol
  • cyfathrebu’n rheolaidd yr hyn y maent yn ei wneud, fel bod dysgu’n cael ei rannu’n ehangach na’r prosiect a’i fod yn ddefnyddiol i eraill

Gan weithio mewn partneriaeth â CDPS, yn ogystal ag ystod eang o gymorth arbenigol, cyngor ac anogaeth, byddwch yn cael:

Mwy o gapasiti digidol

Mae gennym bobl profiadol yn y maes digidol sy’n ymroi i wella gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru. Mae’n nhw’n barod i weithio gyda chi ac i’ch cefnogi mewn modd sy’n addas i’ch sefydliad chi.

Meithrin gallu a hyder

Byddwn yn eich helpu i feithrin eich gallu digidol eich hun os oes angen, ac yn rhoi’r hyder i chi gymhwyso dulliau, offer a thechnegau modern.

"Effaith hirdymor yr hyn a wnaethom gyda CDPS fu creu rhywbeth sy’n hunangynhaliol, ac mae wedi rhoi’r hyder i ni roi cynnig ar bethau drosom ein hunain a gwneud pethau nad oeddem wedi’u gwneud yn yr un ffordd o’r blaen."
Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru

Cefnogaeth i roi pobl yn gyntaf

Pobl – defnyddwyr gwasanaeth, staff ac arweinwyr – yw ein ffocws.

Mae ein dull dylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn golygu profiadau gwell i ddefnyddwyr a staff, ac elw gwell ar fuddsoddiad trwy gael pethau’n iawn y tro cyntaf.

Cysylltwch â ni!

Os hoffech drafod y cyfle i wella gwasanaeth, eich anghenion hyfforddi neu arbenigedd ac arweiniad, cysylltwch â ni!