Ein gwasanaethau
Mae CDPS yn darparu pedwar prif wasanaeth – mae rhywbeth i bawb sy’n gweithio i wella gwasanaethau cyhoeddus digidol.
Cwrdd â Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru
Rydym wedi creu 12 o Safonau Gwasanaeth Digidol i Gymru i’ch helpu i gynllunio gwasanaethau digidol sy’n gynhwysol ac yn hawdd eu defnyddio.
Bydd eu dilyn yn sicrhau bod eich gwasanaethau wedi’u cynllunio o amgylch anghenion y defnyddiwr, eich bod yn defnyddio’r dechnoleg gywir a bod gennych y bobl iawn i gymryd rhan ar yr adeg iawn.
Gallwn eich cynghori ar sut i ddefnyddio’r safonau hyn yn eich sefydliad i flaenoriaethu gwelliannau i wasanaethau.
Rydym hefyd wedi sefydlu Gweithgor Safonau Digidol sy’n cyd-gysylltu a chanllawiau a safonau ar draws sectorau, gwledydd ac adrannau llywodraethol eraill gan eu gwneud yn bwrpasol i Gymru.
Dysgu sgiliau digidol
Mae lefelau sgiliau digidol yn isel ar draws y sector cyhoeddus.
Rydym yn cynnig cyrsiau hyfforddi rhyngweithiol a dysgu i fagu hyder a gallu.
Mae ein cyrsiau hyfforddi wedi’u cyd-ddylunio gyda gweision cyhoeddus yng Nghymru, ac maent yn cyd-fynd â Strategaeth Ddigidol Cymru a’r Safonau Gwasanaeth Digidol.
Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd dysgu anffurfiol, fel cinio a dysgu a gweminarau.
Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr pa gyrsiau sydd fwyaf addas i’ch sefydliad.
Cip olwg ar ein cyrsiau hyfforddi a chyfleoedd dysgu anffurfiol.
Cysylltwch â gweithwyr proffesiynol digidol eraill
Mae cefnogaeth gan gyd-weithwyr a’r cyfle i rannu, dysgu a chysylltu yn amhrisiadwy. Mae ein cymuned ymarfer yn lle diogel i wneud hyn.
Dolenni Digidol – mae ein digwyddiadau rhwydweithiol wyneb yn wyneb- wedi’i ddarparu ar gyfer uwch arweinwyr sy’n awyddus i gyd-weithio a thrafod.
Dylunio a gwella gwasanaethau cyhoeddus digidol
Gallwn eich cefnogi i ddylunio gwasanaeth newydd neu wella un cyfredol. Mae ein dull cydweithredol yn cynnwys ffurfio un tîm, gyda chynrychiolwyr o’ch sefydliad chi a’n un ni.
Gallwn helpu i egluro’r broblem neu’r cyfle, ble i ddechrau a nodi’r adnoddau sydd eu hangen, tra’n cynnig hyfforddiant arbenigol a chefnogaeth barhaus – gan gynnwys ar gyfer uwch arweinwyr. Gallwn hefyd gefnogi gydag arweiniad ar gaffael effeithiol a recriwtio sgiliau digidol.
Mae gennym lawer o adnoddau ar ein gwefan gan gynnwys templedi, pecynnau cymorth a recordiadau o ddigwyddiadau’r gorffennol, gan eich galluogi i ymchwilio i gynnwys gwerthfawr ar eich cyflymder eich hun.