Trosolwg

Datblygwyd  Safon Gwasanaethau Digidol Cymru ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru. 

Mae'n diffinio sut beth yw  gwasanaethau cyhoeddus da yng Nghymru ac mae’n helpu sefydliadau cyhoeddus i ddylunio a darparu gwasanaethau effeithlon a chost-effeithiol sy'n canolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr.

Mae12 pwynt i’r Safon, sydd wedi'u rhannu'n 3 chategori. Mae'n rhaid bodloni pob un o'r 12 pwynt i gwrdd â’r Safon.

Cynnwys

Bodloni anghenion defnyddwyr

  1. Canolbwyntio ar lesiant pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol

  2. Dylunio gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg
  3. Deall defnyddwyr a’u hanghenion
  4. Darparu profiad cydgysylltiedig

  5. Sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio’r gwasanaeth

Creu timau digidol

  1. Bod â pherchennog gwasanaeth sydd wedi’i rymuso

  2. Sefydlu tîm amlddisgyblaethol

  3. Ailadrodd a gwella’n aml

  4. Gweithio’n agored

Defnyddio’r dechnoleg iawn

  1. Defnyddio technoleg y gellir addasu ei graddfa

  2. Ystyried moeseg, preifatrwydd a diogelwch ar bob cam

  3. Defnyddio data i wneud penderfyniadau