Nod y prosiect

Roeddem am gefnogi timau sy'n gweithio ar ofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru i ddechrau defnyddio dulliau gweithio Ystwyth ac offer a thechnegau modern.

Yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni

Un o'r heriau i'r sector cyhoeddus yng Nghymru yw dod o hyd i'r arbenigedd a'r sgiliau i ddechrau gweithio mewn ffordd wahanol a chynllunio gwasanaethau o amgylch anghenion defnyddwyr.

Partneriaid

Social Finance oedd yn cynnsl ein carfan gyntaf. Eu rôl oedd sicrhau cefnogaeth gyflym i dri awdurdod lleol i weithredu fel achos prawf ar gyfer cyflwyno'r dull hwn yn ehangach.

Penderfynon ni weithio gyda thri awdurdod lleol, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Blaenau Gwent, nad ydynt fel arfer yn gweithio gyda'i gilydd ar y mathau hyn o brosiectau, i brofi'r cysyniad o gydweithio mewn amgylchedd ffres.

Crynhoi'r gwaith

Roedd yr arweinwyr o bob awdurdod yn awyddus i hyrwyddo ffyrdd digidol a newydd o wella gwasanaethau ar gyfer eu preswylwyr.

Mae'r tîm, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob awdurdod lleol a'r tîm arbenigol o Social Finance wedi bod yn edrych ar faterion yn y modd y mae dinasyddion yn cael mynediad at ofal cymdeithasol. Gwnaethant fanylu'n benodol ar faterion cael mynediad at ofal cymdeithasol i oedolion, diffyg darpariaeth o wybodaeth ddigidol a darparu gwasanaethau trafodion.

Roedd y tîm yn cael ei arwain gan yr ymchwil gyda defnyddwyr a'r data a gasglwyd yn ystod y cyfnod darganfod cynnar.