6 Ionawr 2021

Un o’n blaenoriaethau yn y Ganolfan yw helpu sefydliadau a’u harweinwyr i ddatblygu mwy o ddealltwriaeth a hyder ynglŷn â materion digidol. Yn ystod ein cam Darganfod y llynedd, fe glywsom am ddiffyg dealltwriaeth o’r hyn y mae ‘digidol’ yn ei olygu, nad yw pob uwch arweinydd yn deall sut i weithredu gweddnewid digidol a bod llawer o staff y sector cyhoeddus yn awyddus i gymryd rhan, ond eu bod yn ceisio cymorth ac arweiniad.

Mae hyn yn bwysig oherwydd bod defnydd llwyddiannus o dechnoleg ddigidol yn dibynnu ar y ffaith bod pobl ar bob lefel o sefydliad yn deall ac yn ymwneud ag ymagweddau newydd at ddylunio a darparu gwasanaethau. Fel yr ydym wedi’i ddweud o’r blaen: Mae newid digidol yn ymwneud â mwy na thechnoleg yn unig, mae’n ymwneud â newid diwylliant. 

Mae’r newid diwylliant hwn yn cynnwys canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr, cyn dylunio gwasanaethau i’w bodloni, a hefyd darparu’r gwasanaethau hynny yn y ffyrdd mwyaf cydweithredol, ailadroddol ac agored. Mae hyn, yn ei dro, yn golygu newidiadau i 

  • sut mae timau’n cael eu sefydlu, 
  • sut mae prosiectau’n cael eu hariannu a’u rheoli, 
  • y sgiliau y mae eu hangen ar staff, a 
  • sut maen nhw’n cyfathrebu ynglŷn â’r gwaith maen nhw’n ei wneud. 

Mae angen i arweinwyr y sector cyhoeddus ddeall a hyrwyddo hyn i gyd os yw eu sefydliadau am fanteisio i’r eithaf ar y cyfle digidol a darparu gwasanaethau sy’n gweithio i’r bobl sy’n eu defnyddio.

Yr hyn a wnaethom

Roedd ein sgwad ddigidol eisoes wedi dechrau dangos buddion yr ymagweddau hyn mewn ffordd ymarferol, gan weithio’n uniongyrchol gyda thimau Gofal Cymdeithasol i Oedolion mewn tri awdurdod lleol. Fodd bynnag, roeddem yn gwybod er mwyn i’r gwaith hwn lwyddo, y byddai angen i eraill yn yr awdurdodau lleol rydym yn gweithio gyda nhw ddeall a chefnogi’r hyn oedd yn cael ei wneud – yn enwedig ar lefel arweinyddiaeth. 

I helpu i fynd i’r afael â hyn, ffurfiom bartneriaeth â Service Works i ddatblygu sesiwn a fyddai’n cyflawni dau beth. Yn gyntaf - roeddem eisiau cyflwyno rhai o’r cysyniadau allweddol a’r ffyrdd o weithio a fyddai’n cael eu defnyddio gan y Sgwad, chwalu camdybiaethau ynglŷn â nhw a’u dangos yn ymarferol, fel y byddai’r tîm yn gwybod beth i’w ddisgwyl a sut gallent gefnogi a rhyngweithio â’r prosiect yn fwyaf defnyddiol. Yn ail, roeddem eisiau i’r sesiwn ysbrydoli ac ysgogi trafodaeth ehangach a mwy strategol ymhlith arweinwyr - ynglŷn â’r posibiliadau y gallai’r ffyrdd hyn o weithio eu cynnig iddynt, sut gallai hyn gyd-fynd â’u heriau a’u cyfleoedd penodol, a beth y gallent ei wneud yn bersonol i symud hyn ymlaen.

‘Mae gwasanaethau digidol yn ymwneud â llawer mwy na thechnoleg. Mae’r sesiwn hon yn dangos hyn, gan ganolbwyntio ar yr angen i ddylunio gwasanaethau o amgylch anghenion defnyddwyr a datblygu gwasanaethau mewn ffordd fwy ystwyth a modern. Gwasanaethau gwell, sy’n cael eu darparu am gost lai i drethdalwyr, a chreu systemau y mae staff yn mwynhau gweithio ynddynt – dyna ddiben y sesiwn hon.’, Karen Jones, Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Ar gyfer y fersiwn gyntaf (Alffa), gweithion ni gyda Service Works i ddatblygu sesiwn ar gyfer grŵp cymysg o uwch arweinwyr a phobl sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau. Yn seiliedig ar yr adborth o’r cam Alffa hwn, fe benderfynon ni ddatblygu fersiwn benodol i arweinwyr, yn canolbwyntio ar eu hanghenion a’u safbwynt nhw, yn ogystal â fersiwn i bobl sy’n darparu gwasanaethau. Yna, rhoddwyd y sesiynau ar wahân hyn ar waith i’w cyflwyno (fel cam “Beta”) i’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol ym Mlaenau Gwent, y Grŵp Pob Aelod yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r Fforwm Datblygu Polisïau yn Nhorfaen. Cynhaliwyd y sesiwn Darparu gyda thimau o bob un o’r tri chyngor hefyd. 

Yr ymateb a gafwyd

Mae mwy na 100 o bobl wedi cymryd rhan yn y sesiynau hyd yma, ac mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn. Bu’n wych hefyd gweld ansawdd ac ystod y trafodaethau a ysgogwyd ymhlith arweinwyr – trafodaethau ynglŷn â phethau fel 

  • sut i greu’r amodau ar gyfer newid, 
  • sut i ymgorffori’r egwyddorion hyn mewn ffyrdd presennol o weithio, 
  • sut i ddathlu llwyddiannau, 
  • a’r ffordd orau o gynyddu galluoedd ymchwil defnyddwyr. 

Mae’n amlwg bod awydd cryf i ddeall y ffyrdd hyn o weithio, meddwl am ddylunio a darparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol, a manteisio i’r eithaf ar dechnoleg ddigidol. 

Eleni, yn arbennig, bu’n anodd i dimau arwain ddod o hyd i’r amser i gamu’n ôl a chael trafodaethau o’r math hwn. Felly, rydym yn falch iawn bod y sesiynau a gynhaliwyd gennym wedi rhoi cyfle i wneud hynny, a hefyd i arweinwyr gynyddu eu hyder yn y maes hwn a datblygu dealltwriaeth a rennir o rai o’r cysyniadau a’r rhywfaint o’r derminoleg a fydd yn rhan mor bwysig o ddarparu gwasanaethau o hyn ymlaen. 

Beth nesaf?

Rydym bellach yn gallu cynnig y sesiwn Arweinyddiaeth hon i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Fe’i diweddarwyd i sicrhau ei bod yn berthnasol i gynghorau nad ydynt yn gweithio gyda sgwad yn uniongyrchol, a hefyd i adlewyrchu’r Safonau Gwasanaethau Digidol newydd ar gyfer Cymru, a’r strategaeth ddigidol sy’n dod i’r amlwg. Bydd pob Prif Weithredwr yn cael gwahoddiad i neilltuo sesiwn ar gyfer ei dîm arwain, a gynhelir rhwng nawr a diwedd mis Mawrth 2021.