5 Tachwedd 2021
Yn ein postiad blog blaenorol, fe amlinellon ni sut oedd y prosiect Cael Mynediad at Ofal Cymdeithasol i Oedolion wedi symud o’r cam alffa i’r cam beta.
Yn y blog hwn, byddwn yn clywed gan y tîm (Lee, Marianne a Maurice) yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot sy’n gysylltiedig â chreu a phrofi’r cynnyrch – gwasanaeth negeseuon testun a sefydlwyd i helpu preswylwyr i olrhain eu cais am gymorth gan Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.
Roedd symud o’r cam alffa i’r cam beta yn garreg filltir allweddol i ni gan ei bod yn golygu ein bod yn troi ein prototeip yn gynnyrch ymarferol i’w ddefnyddio yn y byd go iawn.
Tra bod y tîm yn brysur yn profi’r sgriniau newydd gyda defnyddwyr gwasanaeth, roedden ni’n brysur yn datblygu a phrofi’n fewnol i sicrhau bod y data’n symud o’n cronfa ddata ar y safle i’n cronfa ddata yn y cwmwl ac ap gwe, ac yna ymlaen i’r datrysiad negeseuon testun. Fe aethon ni’n fyw ar 1 Medi.
Fe ddaeth y tri ohonon ni â sgiliau gwahanol i’r broses:
Mae Marianne Matthews yn ddadansoddwr busnes TG a’i rôl yn y prosiect hwn yw amlygu a mewnbynnu data o system wybodaeth y gwasanaethau cymdeithasol.
Mae Lee Hanford yn rhaglennwr a dadansoddwr busnes TG ac mae wedi bod yn creu’r ddolen i gysylltu’r wybodaeth hon â’r system negeseuon testun. Fe roddodd gyngor i ni hefyd ar ddefnyddio GOV.UK Notify (y gwasanaeth negeseuon testun).
Mae Maurice Griffin, sy’n ddadansoddwr busnes TG hefyd, wedi bod yn cysgodi’r datblygwr meddalwedd, Matthew, ac yn dysgu mwy am y dechnoleg mae’n ei defnyddio i greu’r system sy’n sail i’r gwasanaeth negeseuon testun.
Dulliau gwahanol
Fe ymunon ni â’r prosiect ar ôl ychydig fisoedd a bu’n rhaid i ni addasu’n gyflym i’r ffordd ‘Ystwyth’ o feddwl a gweithio. Roedd hyn yn golygu gwneud pyliau o waith cydweithredol byr a dwys; profi, addasu a phrofi eto. Bu’n rhaid i ni brofi mewn sawl cam:
Profi yn ein sefydliad
Darparodd Marianne ffrwd o’r data ac yna fe’i defnyddiwyd i brofi’r datrysiad a greodd Lee h.y. roedd y data hwnnw’n cael ei drosglwyddo’n llwyddiannus o’n Cronfa Ddata Gwasanaethau Cymdeithasol ni i’r Gronfa Ddata yn y Cwmwl, ac yna i’r Ap Gwe. Sefydlwyd proses gydamseru i weithredu bob munud, gan gyflwyno data newydd i’r gronfa ddata yn y cwmwl. Yna, roedd hyn yn cysylltu’n awtomatig â’r Ap Gwe diogel. Fe brofon ni hyn gan ddefnyddio offeryn profi rhyngwyneb rhaglennu cymhwysiad (API) a’i fireinio tan i ni gael y canlyniadau a ddisgwyliwyd. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod y data a anfonwyd gennym yn cyfateb i fformat ein partner darparu.
Profi sylfaenol gyda Social Finance
Yna, cynhaliwyd profion sylfaenol gyda’r partner darparu, Social Finance, i gasglu’r data hwn ac anfon negeseuon testun at eu staff nhw eu hunain. Fe roddon ni fynediad cyfyngedig iddynt i’n cyfrif GOV.UK Notify i greu’r templedi negeseuon testun a bu’n rhaid i ni eu profi’n fewnol yn gyntaf cyn eu cyflwyno i breswylwyr a amlygwyd. Trwy’r broses hon, sylwyd ar fân broblemau a ddatryswyd yn gyflym, fel dyddiadau yn y fformat anghywir.
Profi uwch gyda Social Finance
Yn olaf, fe gynhalion ni brofion uwch a oedd yn cynnwys defnyddio’r system i brofi gwahanol senarios trwy greu sgriptiau gyda chanlyniadau disgwyliedig i’r defnyddiwr. Roedd y rhain yn cynnwys sicrhau bod y templedi testun Cymraeg yn cael eu defnyddio os oedd yr unigolyn a wnaeth yr atgyfeiriad wedi gofyn am negeseuon Cymraeg. Doedden ni ddim wedi defnyddio’r dechneg hon mewn prosiectau eraill o’r blaen, ond byddwn yn ei defnyddio yn y dyfodol. O’r broses hon, rydyn ni wedi dysgu meddwl am sut byddai’r defnyddiwr yn rhyngweithio â’r gwasanaeth wrth i ni ddatblygu datrysiad.
Pwyntiau dysgu allweddol
Mae gweithio gyda’n partner darparu wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn. Mae gweld sut mae pobl eraill yn cynnal prosiectau a’u hymagwedd at brofi yn rhywbeth y gallwn ei fwydo i waith yn y dyfodol.
Rydyn ni hefyd wedi dysgu llawer am gyfres o dechnolegau amgen (set o gymwysiadau) yn lle ein datrysiadau presennol, a sut mae offer fel Github yn gallu bod o gymorth mawr wrth greu a chynnal ein meddalwedd.
Y brif her fu dysgu am dechnoleg newydd wedi’i seilio ar y cwmwl. Doedden ni ddim wedi archwilio hyn o’r blaen ac mae’n rhywbeth rydyn ni eisiau ei ddefnyddio y tu allan i’r prosiect hwn. Mae systemau wedi’u seilio ar y cwmwl yn ein galluogi i fod yn fwy effeithlon a byddant yn symleiddio ein prosesau mewnol ymhellach, a fydd yn hanfodol yn y dyfodol.
Dysgu iaith newydd
Roedden ni eisoes yn ymwybodol o’r dull ystwyth o gynllunio prosiect, ond heb ei brofi’n ymarferol. Rydyn ni wedi bod yn fwy cyfarwydd â’r dull ‘rhaeadru’, sy’n cynnwys datblygu rhywbeth mewn dilyniant llinol – sef llunio cynllun a chadw ato, yn y bôn. Mae’r dull ystwyth yn caniatáu i ni fod yn fwy hyblyg ac ailadroddol.
Yn ogystal â ffordd newydd o weithio, rydyn ni wedi dysgu sut i ‘siarad yn ystwyth’! Fe fynychon ni sesiynau dangos a dweud, sgrymiau a seremonïau heb wybod yn union beth oedden nhw. Roedd yn anodd neilltuo amser i’r holl gyfarfodydd hyn weithiau, ond, unwaith eto, roedd hyn yn rhan o addasu i’r ffordd newydd o weithio.
Beth sydd nesaf?
Y camau nesaf ar gyfer CNPT fydd datblygu’r fersiwn nesaf o’r gwasanaeth negeseuon testun ar sail yr hyn a ddysgwyd o’r gwaith ymchwil a wnaethon ni gyda phreswylwyr sydd wedi cofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth.
O ran y prosiect ehangach, byddwn yn canolbwyntio ar baratoi er mwyn gallu profi’r gwasanaeth negeseuon testun mewn nifer o awdurdodau i weld a ellid ei ddefnyddio ledled Cymru, gyda’r posibilrwydd o gynnig mwy o fuddion i fwy o breswylwyr a thimau y tu allan i Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Postiad blog gan:
Lee Hanford – Dadansoddwr Busnes TG (Cyngor Castell-nedd Port Talbot)
Marianne Matthews - Dadansoddwr Busnes TG (Cyngor Castell-nedd Port Talbot)
Maurice Griffin - Dadansoddwr Busnes TG (Cyngor Castell-nedd Port Talbot)