26 Ionawr 2022

Yn ein postiad blog blaenorol, fe rannon ni’r broses ymchwil defnyddwyr a sut mae’n gamp tîm yng nghyd-destun y prosiect ‘cael mynediad at ofal cymdeithasol i oedolion’.

Yn y postiad blog hwn, rydyn ni’n rhannu’r 5 prif wers a ddysgwyd o’r rownd ddiweddaraf o ymchwil defnyddwyr a fydd yn llywio fersiwn nesaf y gwasanaeth ‘Olrhain Fy Nghais’.

Gwasanaeth hysbysu trwy negeseuon testun yw ‘Olrhain Fy Nghais’ sydd bellach yn y cam beta preifat, sy’n golygu ei fod yn cael ei brofi gyda chynulleidfa fyw fach. Mae’r treial wedi bod ar waith yng Nghastell-nedd Port Talbot ers mis Medi 2021.

Pwy yw ein defnyddwyr?

Mae’r gwasanaeth wedi cael ei ddylunio ar gyfer preswylwyr Castell-nedd Port Talbot sy’n defnyddio gofal cymdeithasol i oedolion. Mae’r rhain yn cynnwys dau brif grŵp o ddefnyddwyr: hunanatgyfeirwyr a phobl sy’n cael eu hatgyfeirio gan deulu neu ffrindiau.

Mae’r gwasanaeth ‘Olrhain Fy Nghais’ yn rhoi diweddariadau ar gynnydd eu hatgyfeiriad trwy gyfres o negeseuon testun hysbysu – gwyliwch yr arddangosiad fideo yma:

https://www.youtube.com/watch?v=n4FJfIC3bHw&list=PL3UW9EYibDoBjiIQduiZ7xObgyfw84A_8&index=1

 

Y nod yw lleihau nifer y galwadau y gellid eu hosgoi i wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion trwy achub y blaen ar geisiadau dilynol preswylwyr am ddiweddariadau ar gynnydd trwy sianel gyfathrebu wahanol.

Beth ddysgon ni?

  1. Mae preswylwyr yn credu bod cyfathrebiadau digidol yn ychwanegiad gwerthfawr

Mae gofal cymdeithasol i oedolion wedi’i seilio ar berthnasoedd, ac ni ellir disodli’r rhyngweithio rhwng gweithwyr proffesiynol a phreswylwyr. Wedi dweud hynny, mae’n bosibl y gallai cyfathrebu digidol wella profiad preswylwyr o ddefnyddio gofal cymdeithasol i oedolion, a chadarnhawyd hyn trwy’r hyn a ddysgon ni.

Mae bron 90 y cant o breswylwyr sy’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth wedi optio i mewn i ‘Olrhain Fy Nghais’ bellach. Fe ganfuon ni fod y parodrwydd hwn o ganlyniad i’r uniongyrchedd a’r cyfleustra y mae preswylwyr yn credu y gall negeseuon testun hysbysu eu cynnig.

Fe ddysgon ni hefyd er bod rhai preswylwyr yn credu bod ‘Olrhain Fy Nghais’ yn dangos bod y cyngor yn datblygu fel sefydliad, mae gan eraill ddisgwyliadau uwch o ganlyniad i’r pandemig ac maen nhw’n credu y dylai gwasanaethau fod yn fwy hygyrch trwy ddulliau digidol.

  1. Mae preswylwyr eisiau mwy o fynediad at wybodaeth ystyrlon am gynnydd eu hatgyfeiriad

Mae preswylwyr yn cael tawelwch meddwl ar ôl eu cysylltiad cychwynnol â’r tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid oherwydd bod aelodau staff yn rhannu gwybodaeth berthnasol am y broses atgyfeirio a manylion yr hyn y gellir ei ddisgwyl. Mae hyn yn rhoi cysur i breswylwyr eu bod wedi dechrau’r broses o gael cymorth.

Fodd bynnag, fe ddysgon ni nad yw’r teimladau hyn yn para’n hir. Mae cyflwr emosiynol preswylwyr, sydd mewn sefyllfa argyfwng neu’n ceisio osgoi argyfwng, yn aml yn eu hatal rhag amgyffred y wybodaeth a roddir iddynt. Nid yw nifer ohonynt yn gallu cofio beth yw’r broses, pa gam maen nhw wedi’i gyrraedd, neu beth yw’r camau nesaf iddynt.

  1. Nid yw’r ffordd yr ydym ni’n gweld y gwasanaeth yr un peth â’r ffordd y mae preswylwyr yn ei weld o reidrwydd

Yn dilyn eu hatgyfeiriad, mae preswylwyr yn cael amrywiaeth o gyfathrebiadau gan amryw rannau o’r gwasanaeth gofal cymdeithasol i oedolion, p’un a yw hynny i gael gwybod mwy am eu hamgylchiadau, i wneud apwyntiadau, neu i drefnu danfon cyfarpar.

Yn y rownd hon o ymchwil defnyddwyr, fe ddysgon ni nad yw preswylwyr yn gwybod yn aml pa ran o’r gwasanaeth y mae’r cyfathrebiadau hyn yn dod ohoni, yn enwedig os yw eu hatgyfeiriad yn cynnwys sawl cais a anfonir at sawl tîm. Maen nhw’n tueddu i weld pwyntiau cyswllt fel rhan o’r un gwasanaeth gofal cymdeithasol i oedolion ac nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng cyfathrebiadau gan y tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid, ‘Olrhain Fy Nghais’, a thimau gwasanaeth unigol gofal cymdeithasol i oedolion.

  1. Mae amseru negeseuon testun yn allweddol

Pan wneir atgyfeiriad, anfonir negeseuon testun 1 a 2. Mae’r rhain yn rhoi sicrwydd i breswylwyr trwy gadarnhau (i) bod eu cais wedi cael ei gofnodi, a (ii) bod eu cais wedi cael ei drosglwyddo i’r tîm perthnasol.

Fodd bynnag, mae hyn yn gosod disgwyliadau uchel ynglŷn â pha mor aml y gallai preswylwyr gael diweddariadau ychwanegol, ac nid yw’r disgwyliadau hyn yn cael eu bodloni ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae rhai preswylwyr yn tybio y gallai’r oedi rhwng negeseuon testun diweddarach olygu bod eu cais wedi syrthio allan o’r system. Ochr yn ochr â hyn, fe ddysgon ni hefyd fod negeseuon testun hysbysu yn cael effaith emosiynol gryfach os ydynt yn digwydd yn ystod y cyfnodau pan nad yw preswylwyr yn cael cyfathrebiadau gan rannau eraill o’r gwasanaeth.

  1. Mae hunanatgyfeirwyr ac atgyfeirwyr sy’n aelodau o’r teulu/ffrindiau yn profi’r gwasanaeth mewn ffyrdd gwahanol

Mae atgyfeirwyr sy’n aelodau o’r teulu/ffrindiau yn tueddu i gymryd rhan oherwydd bod yr unigolyn sydd mewn angen wedi gofyn iddynt am gymorth neu oherwydd eu bod wedi penderfynu camu i’r adwy a chael cymorth iddo. Mae hyn yn awgrymu efallai nad yw’r unigolyn sydd mewn angen eisiau ymdrin â’r broses atgyfeirio ei hun neu efallai nad yw’n gallu gwneud hynny.

Fodd bynnag, fe ddysgon ni fod rheoliadau cydsyniad yn mynnu bod rhaid i’r tîm gwasanaeth gofal cymdeithasol i oedolion gysylltu â’r unigolyn sydd mewn angen, hyd yn oed pan fydd yr atgyfeiriad wedi cael ei wneud ar ei ran. Efallai na fydd y sawl sy’n gwneud yr atgyfeiriad yn cael ei gynnwys yn y cyfathrebiad hwn, sy’n golygu y gallai brofi oedi hirach rhwng negeseuon testun ‘Olrhain Fy Nghais’. Yn ystod yr oedi hwn, fe allai ei bryder ynglŷn â chael cymorth i’r unigolyn sydd mewn angen gynyddu.

Y camau nesaf

Byddwn yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd i lywio fersiwn nesaf y gwasanaeth ‘Olrhain Fy Nghais’, gan roi ystyriaeth benodol i’r canlynol:

  • y wybodaeth sy’n fwyaf ystyrlon i ddefnyddwyr a sut gellir ei chyfleu yn y ffordd fwyaf hygyrch
  • sut gall ‘Olrhain Fy Nghais’ gael ei ymsefydlu’n well yn y gwasanaeth ehangach i sicrhau profiad mwy cyfannol i ddefnyddwyr?
  • beth yw’r amseriad a’r amlder mwyaf addas ar gyfer negeseuon testun a sut mae hyn yn effeithio ar ddisgwyliadau defnyddwyr?
  • a ellir defnyddio’r un gyfres o negeseuon testun ar gyfer hunanatgyfeirwyr ac atgyfeirwyr sy’n aelodau o’r teulu/ffrindiau, neu a oes angen i’r gwasanaeth gael ei bersonoli i bob un o’r grwpiau defnyddwyr hyn?

Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a staff rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol i oedolion i flaenoriaethau’r mewnwelediadau hyn a chreu dyluniadau newydd sy’n mynd i’r afael ag anghenion defnyddwyr sy’n weddill.