Trosolwg

Dyma'r camau a gymeron ni wrth weithio ar gyd-ddylunio cynnwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi cynnwys, offer a thempledi y gallwch eu hailddefnyddio yn eich eich prosiectau eich hun.

Straeon defnyddwyr

Yn dilyn ymchwil desg, fe wnaethon ni ddatblygu straeon defnyddwyr. Mae'r rhain yn ein galluogi i ddeall cymhellion ein defnyddwyr a sut y gall y cynnwys hwn eu helpu.

Fel… person sydd angen help ariannol
Dw i eisiau… gwybod i bwy mae’r grant ar gael
Er mwyn... penderfynu os alla i wneud cais a’i peidio.

Fel… rhiant/gwarcheidwad sydd angen help ariannol
Dw i eisiau… gwybod at beth mae’r grant ar gael
Er mwyn… deall ar gyfer beth alla i ei ddefnyddio.

Fel… rhiant/gwarcheidwad sydd angen help ariannol
Dw i eisiau… gwybod beth yw'r meini prawf cymhwysedd
Er mwyn… peidio gwneud cais am gymorth nad wyf yn gymwys i’w dderbyn.

Fel… person yn gwneud cais am y grant
Dw i eisiau… gwybod pryd i wneud cais
Er mwyn… peidio methu’r dyddiad cau.

Fel… person yn gwneud cais am y grant
Dw i eisiau... deall sut i wneud cais
Er mwyn... gwneud yn siŵr mod i’n dilyn y broses gywir

Fel… person yn gwneud cais am y grant
Dw i eisiau... deall sut i wneud cais
Er mwyn... gwneud yn siŵr mod i’n dilyn y broses gywir

Meini prawf

Mae'r meini prawf yn cael eu hysgrifennu o safbwynt y defnyddwyr. Maent yn ein helpu i wybod pryd bydd y gwaith wedi llwyddo. Mae’r gwaith wedi'i gwblhau pan...

Dw i’n gwybod...

  • a ydw i’n gymwys a’i peidio ar gyfer y grant
  • ar gyfer beth mae’r grant
  • y meini prawf
  • pryd i wneud cais
  • sut i wneud cais
  • pa wybodaeth dw i ei angen i wneud cais
  • beth sy’n digwydd nesaf

Dw i’n teimlo... yn dawel fy meddwl fy mod yn deall popeth sydd ei angen i wneud cais am y grant

Dw i’n gallu... gwneud cais am y grant yn llwyddiannus

Gweithdai

Cynhaliwyd gweithdai ar-lein yn ystod y prosiect. Roeddent ar gyfer:

  • adolygu'r cynnwys presennol ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgolion ochr yn ochr ag awdurdodau lleol
  • ysgrifennu cynnwys newydd mewn triawd
  • adolygu'r cynnwys newydd gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru

Dysgwch sut i ysgrifennu triawd.

Darllenwch hanes Ceri yn ei rôl fel cyfieithydd ar y prosiect

Darllenwch fyfyrdodau Adrián ar y dull safonol o gyfieithu ac ysgrifennu triawd

Sgrinlun o fwrdd Miro ar gyfer gweithdy cyd-ddylunio cynnwys

Prototeipio

Fe wnaethon ni adeiladu prototeip i brofi a datblygu syniadau gyda defnyddwyr.

Fe adeiladon ni brototeip rhyngweithiol cywair-canolig mewn rhaglen o'r enw Figma. Mae Figma yn ddarn o feddalwedd 'dim cod' sy'n golygu ei fod yn ddewis cadarn ar gyfer adeiladu'r amgylchedd yn gyflym i gartrefu'r cynnwys dwyieithog yr oeddem wedi'i ddylunio. 

Rydym wedi ei gynllunio i deimlo'n gyfarwydd i ddefnyddwyr, gyda:

  • arddulliau'r llywodraeth
  • cymysgedd o wefannau awdurdodau lleol
  • fersiynau bwrdd gwaith a symudol

Ar ôl i'r rhain gael eu dylunio, roedd yn rhaid i ni eu profi gyda darpar-ddefnyddwyr. Fe wnaethon ni eu profi ar y ddyfais y byddai defnyddiwr fel arfer yn ei defnyddio.

A screenshot showing prototype pages of the School Essentials Grant Content

Profi defnyddioldeb

Cynhaliwyd rownd o brofion defnyddioldeb i adolygu a phrofi'r tudalen prototeip Grant Hanfodion Ysgol. Cafodd y prototeip hwn y cynnwys newydd ei ddrafftio gyda chyfraniad  awdurdodau lleol.

Amcanion y profion defnyddioldeb

Roeddem am wybod a oedd defnyddwyr yn gweld y cynnwys hwn yn ddealladwy, yn gywir, yn gyson ac yn hygyrch. Yn benodol, roeddem yn awyddus i ddarganfod a oedd:   

  • y cynnwys yn glir ac yn hawdd ei ddeall  
  • yr holl wybodaeth sydd ei angen yn y cynnwys
  • y cynnwys Cymraeg o safon gyfartal i'r Saesneg

Cyfranogwyr

Roedden ni yn bwriadu recriwtio 6 cyfranogwr i brofi'r prototeip, 3 a oedd yn Saesneg iaith gyntaf i brofi'r cynnwys Saesneg a 3 a oedd yn Gymraeg iaith gyntaf i brofi'r cynnwys Cymraeg.

Bu recriwtio yn heriol ac, yn y pen draw, dim ond 4 cyfranogwr y llwyddon ni i'w recriwtio o fewn y 3 wythnos, 2 Gymraeg a 2 Saesneg.

Sut aethom ati

Gwnaethom gynnal y profion o bell a gofyn cwestiynau i'r cyfranogwyr am:

  • strwythur y cynnwys
  • pa mor hawdd oedd deall y cynnwys
  • a oedd yr holl wybodaeth yr oedd ei hangen ar y cyfranogwr yn y cynnwys

Canfyddiadau

Roedd pob un o'r 4 cyfranogwr yn teimlo bod y cynnwys yn glir ac yn hawdd ei ddeall ac yn gyffredinol yn cynnwys y wybodaeth gywir.

Daeth rhai sylwadau mwy adeiladol i'r amlwg o'r profion hefyd. Fe wnaethon ni ddadansoddi'r rhain a gwneud yr argymhellion canlynol: 

  1. Dylid annog awdurdodau lleol i ddisodli cynnwys presennol y Grant Hanfodion Ysgol gyda'r cynnwys newydd. Dangosodd ein profion fod y cyfranogwyr yn ffafrio'r cynnwys newydd dros yr hyn y mae eu hawdurdodau lleol yn ei gynnig ar hyn o bryd.  
  2. Parhau gyda'r ysgrifennu triawd i sicrhau bod cynnwys Cymraeg yn cael ei ddatblygu i'r un safon â'r Saesneg. A pharhau i sicrhau bod iaith 'niwtral' yn cael ei chynnal.  
  3. Dylunio ar gyfer dyfeisiau symudol yn gyntaf. Mae cyfranogwyr yn fwy tebygol o gael mynediad at y cynnwys hwn ar eu ffonau symudol.  
  4. Cynnwys enwau Saesneg buddion ar y tudalennau Cymraeg. Er ei bod yn ymddangos bod hyn yn gwrth-ddweud Safonau'r Gymraeg, mae gennym dystiolaeth sy'n dangos y byddai hyn yn helpu i ddiwallu anghenion rhai defnyddwyr.  
  5. Annog Awdurdodau Lleol i gynnwys gwybodaeth am eu hamserlenni. Dangosodd profion fod hyn yn bwysig i ddefnyddwyr sydd am gynllunio a chyllidebu. 

Templedi cynnwys

Cynnwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol 2023 hyd 2024.docx
Cynnwys y gallwch ei ailddefnyddio ar wefan eich awdurdod lleol am y Grant Hanfodion Ysgol.

Llyfr ymadroddion y Grant Hanfodion Ysgol 2023 hyd 2024.docx
Gallwch deilwra'r cynnwys i anghenion penodol eich cyngor gyda brawddegau o'r llyfr ymadroddion hwn.

HTML y Grant Hanfodion Ysgol (Saesneg).html
Gallwch ailddefnyddio'r fersiwn HTML Saesneg o gynnwys y Grant Hanfodion Ysgol.

HTML y grant Hanfodion Ysgol (Cymraeg).html
Gallwch ailddefnyddio'r fersiwn HTML Cymraeg o gynnwys y Grant Hanfodion Ysgol.

Gwyliwch ei sesiwn dangos a dewud

Cysylltu â ni

Cysylltwch ag ed.cann@digitalpublicservices.gov.wales i gymryd rhan mewn prosiectau gyda ni yn y dyfodol.