O hysbysebu’r rôl, i gynnig y swydd, mae ein proses recriwtio fel arfer yn para 1 mis. 

Rydym yn hysbysebu rolau am 2 wythnos. Mae hyn yn sicrhau bod digon o amser i ymgeiswyr wneud cais am y rôl, ac mae’n caniatáu inni symud yn gyflym.

Gwyliwch y weminar recriwtio

Pwyso a mesur ceisiadau

Dylai ymgeiswyr gynnwys CV cyfredol a llythyr eglurhaol pan fyddan nhw’n gwneud cais.  

Unwaith y bydd y ffenestr hysbysebu yn cau, bydd y ceisiadau’n cael eu pwyso a’u mesur. 

Er mwyn dadansoddi’r ceisiadau, dylai panel cyfweld, wedi’i drefnu o flaen llaw 

  1. adolygu pob CV a llythyr clawr  
  2. sgorio’r ceisiadau o 1 i 5 ar sail y meini prawf hanfodol sy’n cael ei amlinellu yn y swydd ddisgrifiad.  

Dyma ein hesiampl  o ddogfen pwyso, mesur a sgorio ymgeiswyr  

Mae hyn yn sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr un meini prawf yn gyson, a’n bod yn gwahodd yr ymgeiswyr mwyaf perthnasol i’r cyfweliad. 

Cyfweld

Y cam cyfweld yw’r cam pwysicaf o fewn y broses recriwtio. Fel arfer mae’n para hanner wythnos. 

Erbyn hyn, rydych wedi dod o hyd i ymgeiswyr addas sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth i ychwanegu gwerth i’ch busnes.  

Mae cyfweliadau hefyd yn gyfle i chi werthu eich busnes a gwneud i bob ymgeisydd fod eisiau gweithio gyda chi. Gallwch wneud hyn drwy ddweud wrth yr ymgeisydd am y cwmni, y rôl, a pham rydych chi’n penodi. 

Byddai hefyd o fudd i egluro sut mae’r rôl yn cyd-fynd â gweledigaeth ehangach y busnes, ac unrhyw gyfleoedd dilynol a welwch.  

Cofiwch mai dyma, efallai, fydd y tro cyntaf i chi gwrdd â chydweithiwr posib, felly mae bod yn gynnes a chyfeillgar yn hollbwysig.

Cwestiynau cyfweld

Rydym wedi darganfod ei bod yn fuddiol rhoi’r cwestiynau i ymgeiswyr cyn y cyfweliad, a chadw’r broses gyfweld i un cam. Mae hyn yn sicrhau: 

  • bod pob ymgeisydd yn teimlo’n gyfforddus ac wedi paratoi cyn cyfweliadau 
  • ein bod yn gystadleuol o fewn marchnad sy’n symud yn gyflym 
  • ein bod yn parchu amser ymgeiswyr 

Dyma enghraifft o daflen sgorio mewn cyfweliad

Cyfweliad hygyrch

Mae’n bwysig ein bod yn rhoi cyfle i bob ymgeisydd ddweud wrthym am unrhyw addasiadau rhesymol y gall fod eu hangen arnynt yn ystod cyfweliad. 

  • Gwnewch yn siŵr bod is-deitlau caeedig ar gael ar fideo. 
  • Peidiwch â barnu ymgeiswyr ar gyswllt llygad gwael. 
  • Rhowch le i bobl hel eu meddyliau cyn ateb. 
  • Cysurwch ymgeiswyr os ydych chi’n teimlo eu bod nhw’n rhuthro neu’n nerfus. 
  • Byddwch yn barod i amgylchiadau amharu ar y cyfweliad a byddwch yn gymwynasgar os yw’n digwydd. 
  • Gadewch i bobl siarad â’u camerâu i ffwrdd. 
  • Byddwch yn barchus o amser pobl eraill. 
  • Mae unrhyw gefndir fideo yn dderbyniol. 
  • Byddwch yn glir eich bod yn hapus i ailadrodd neu aileirio unrhyw gwestiwn os oes angen. 

Gofynnwn hefyd i ymgeiswyr sicrhau nad oes unrhyw beth wedi digwydd yn ystod y 24 awr ddiwethaf a allai gael effeithio’n andwyol ar eu cyfweliad (megis gyda’u hiechyd a’u teulu) 

Cadw trefn

Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyfathrebu â’r tîm ehangach, rydym yn defnyddio llinell amser recriwtio. Mae hyn ar ffurf bwrdd Kanban sy’n cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfodydd uwch-reoli. Caiff cardiau eu creu a’u symud ar hyd y colofnau yn ystod y broses recriwtio. 

Rydym wedi cyhoeddi templedi ac offer recriwtio i roi rhai o’n hawgrymiadau ar waith:

Templedi