Cynnwys
Fe weithion ni gyda phartneriaid a sefydliadau sector cyhoeddus eraill yng Nghymru i gyhoeddi llyfr o'r enw Ysgrifennu Triawd: Dylunio cynnwys dwyieithog ar gyfer gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn cefnogi'r rhai sy'n dylunio cynnwys dwyieithog ar gyfer gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Lawrlwytho'r e-lyfr
Prynu'r llyfr
Cyflwyniad
Mae ysgrifennu triawd yn cynnig ffordd o gydweithio i ddatblygu cynnwys mewn 2 iaith.
Mae ysgrifennu pâr yn dod â 2 berson at ei gilydd i weithio darn o gynnwys. Mae ysgrifennu triawd yn ychwanegu trydydd person i'w gynhyrchu'n ddwyieithog. Y 3 yw:
- arbenigwr pwnc (neu weithiau ymchwilydd defnyddiwr)
- arbenigwr cynnwys
- cyfieithydd
Mae weithiau’n anoddach cydweithio’n effeithiol pan fyddwn ni’n dod â mwy o bobl i mewn i'r broses.
Nid yw'n dechneg sy'n addas i bawb. Nid oes ffordd gywir nac anghywir o’i gwneud: bydd llwyddiant yn dibynnu ar eich anghenion a'ch amgylchiadau penodol.
Ond yn gyffredinol, gallwn ei grynhoi'r broses fel:
- Cynllunio a pharatoi
- Gosod disgwyliadau
- Ysgrifennu
- Cael adborth
Cynllunio a pharatoi
Bydd yn haws cydweithio os byddwn yn paratoi popeth o flaen llaw.
Mae hyn yn cynnwys:
- dod o hyd i'r person cywir a chysylltu â nhw
- gwneud ymchwil neu gasglu canfyddiadau ymchwil gyda defnyddwyr
- llunio straeon defnyddwyr a meini prawf derbyn
Bydd yr hyn sydd ei angen arnon ni’n dibynnu ar ein anghenion a'n amgylchiadau penodol.
Dod o hyd i'r person cywir
Un o'r heriau mwyaf sy’n ein wynebu fel y dylunwyr cynnwys yw pan fydd mwy o bobl angen rhoi adborth a chymeradwyo’r cynnwys cyn ei gyhoeddi. Pobl sydd heb fod yn rhan o’r broses, hyd yn oed.
Mae’n haws dechrau trwy ddod o hyd i rywun sy'n gallu cymeradwyo’r cynnwys a gweithio gyda nhw o’r dechrau.
Ymchwilio
Bydd cael straeon defnyddwyr a meini prawf derbyn ar gyfer y cynnwys rydyn ni’n gweithio arno yn ein helpu ni i ganolbwyntio ar anghenion y defnyddwyr ac yn tynnu ein sylw yn ôl atynt pan fyddwn ni'n colli ffocws.
Mae'r rhain yn dweud wrthyn ni beth sydd angen i'n defnyddwyr ei wybod, a beth ddylen nhw allu ei wneud ar ôl darllen y darn.
Maen nhw'n gosod terfynau i'n gwaith, a meincnod i asesu a ydyn ni'n llwyddo i gyflawni nodau'r darn.
Dylen ni gofio bod straeon defnyddwyr yn seiliedig ar ymchwil, nid ein rhagdybiaethau ni’n hunain. A dylen ni fod yn agored i brofi'n cynnwys gan fod anghenion ein defnyddwyr yn gallu newid gydag amser.
Paratoi ein adnoddau
Bydd y rhain yn dibynnu a ydyn ni'n gweithio o bell neu’n yr un ystafell, ar yr un ddyfais, neu ar wahân.
Y peth gorau yw creu dogfen y gallwn ni ei rhannu a gweithio ynddi ar yr un pryd. Er enghraifft, dogfen Google Doc neu Word wedi'i chadw ar-lein.
Dylen ni ychwanegu'r yr holl wybodaeth berthnasol yma:
- canfyddiadau ymchwil
- straeon defnyddwyr a meini prawf derbyn
- unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn werthfawr
Gosod disgwyliadau
Mae'n bwysig gosod disgwyliadau clir a sicrhau fod pawb y byddwn ni’n cydweithio â nhw yn deall y gwaith a’r hyn rydyn ni am ei gyflawni.
Ffordd dda o wneud hyn yw cwrdd â nhw cyn y sesiwn ysgrifennu i gyflwyno'n hunain a'r prosiect.
Mae hefyd yn gyfle i egluro:
- y gwaith a pham fod eu cymorth mor bwysig
- strwythur y sesiwn a rôl pawb
- y defnyddwyr a'u hanghenion
Mae'n dda gyrru ebost wedi’r sgwrs i grynhoi a dogfennu’r sgwrs. Mae hyn yn rhoi rhywbeth y gallwn ni gyfeirio ato yn y dyfodol hefyd.
Os ydyn ni’n gweithio gyda chyfieithydd, byddwn ni hefyd eisiau trafod ein dull a'u hannog i ofyn yr holl gwestiynau sydd eu hangen arnyn nhw yn ystod y sesiwn, a hyd yn oed herio ein gwaith ysgrifennu.
Ar ddechrau'r sesiwn ysgrifennu, dylen ni fynd trwy bopeth eto. Byddwn yn pwysleisio rolau pawb a phwysigrwydd gweithio gyda'n gilydd, gan ddod â sgiliau ac arbenigedd gwahanol ond yr un mor bwysig.
Yn olaf, a chyn dechrau ysgrifennu, trafodwn ganfyddiadau’r ymchwil, straeon defnyddwyr a meini prawf derbyn.
Ysgrifennu
Dyma sut y byddwn yn cynnal sesiwn ysgrifennu triawd.
Dechreuwn ni trwy flaenoriaethu straeon ein defnyddwyr a'n meini prawf derbyn. Dylen ni eu trefnu yn ôl pwysigrwydd.
Bydd hyn yn rhoi strwythur bras i'n cynnwys, lle mae'r wybodaeth bwysicaf o safbwynt y defnyddiwr yn uwch.
Gallwn droi'r rhain yn benawdau. Wedyn, gall fod gennyn ni adrannau fel:
- Faint yw'r grant
- Pwy sy'n gymwys
- Gwneud cais
- Cysylltu â ni
Cyd-drafodwn y penawdau a llenwi’r adrannau gyda'r holl wybodaeth berthnasol.
Daliwn ati i ofyn cwestiynau nes bod popeth mor glir â phosibl.
Os ydych chi'n gyfieithydd, rydych chi'n ceisio cynhyrchu darn naturiol a sgyrsiol o gynnwys, felly cofiwch:
- fod yn weithgar a gofynnwch yr holl gwestiynau sydd eu hangen arnoch
- ysgrifennu ochr yn ochr â'r arbenigwr cynnwys
- codi unrhyw beth nad yw'n cyfieithu'n dda
Yn y cydweithio rhwng y ddwy iaith y byddwn ni’n sicrhau bod y ddwy fersiwn mor naturiol a sgyrsiol â phosibl.
Os mai chi yw'r arbenigwr pwnc, cofiwch:
- bod defnyddwyr yn ceisio gwneud rhywbeth yn gyflym
- nid oes angen i ddefnyddwyr ddeall cymhlethdod y pwnc
- efallai y bydd pethau'n ymddangos yn amlwg i chi gan mai chi yw'r arbenigwr, ond os nad yw'ch cydweithwyr yn deall rhywbeth, mae'n debyg na fydd eich defnyddwyr chwaith
- ysgrifennu eich meddyliau i lawr os yw'n haws, fel y gall eich cydweithwyr wedyn eu golygu fel eu bod yn eglur a syml
Byddwn ni'n parhau i olygu a thorri'r hyn nad yw'n berthnasol i'r defnyddiwr. Cadwn at anghenion y defnyddiwr a defnyddiwn y straeon defnyddwyr a'r meini prawf derbyn i gofio’r hyn sy’n bwysig.
Byddwn ni'n cofnodi unrhyw wybodaeth y byddwn yn ei diléu. Gall hyn roi syniadau i ni ar gyfer cynnwys cysylltiedig sydd ei angen ar y defnyddwyr.
Byddwn ni'n ceisio ei wneud mor glir a chryno â phosibl. Mae dweud llai yn aml yn well.
Ar ddiwedd y sesiwn, awn yn ôl at y meini prawf derbyn a gwirio ein bod yn bodloni'r holl feini prawf ar gyfer y darn.
Cael adborth
Nid ysgrifennu yw diwedd y broses.
Ar ôl y sesiwn, gofynnwn ni i'r cyfranogwyr am adborth: sut y daethon nhw o hyd iddo, beth oedd yn gweithio a beth sydd ddim. Rhown wybod iddyn nhw beth yw'r camau nesaf.
Wedi’r sesiwn ysgrifennu, mae’n bosib y bydd gennyn ni nodiadau, syniadau ar gyfer cynnwys arall sydd ei angen, neu restr o gwestiynau y bydd angen i ni gael pobl eraill i'w hateb.
Efallai y bydd angen gwneud mwy o olygu a diwygio, yn enwedig wrth i ni gael mwy o adborth a phrofi'r cynnwys gyda defnyddwyr.
Manteision ysgrifennu triawd
Mae gwahanu rolau arbenigwr pwnc ac arbenigwr cynnwys yn werthfawr oherwydd rhagfarn wybyddol o’r enw "melltith gwybodaeth" (neu "felltith arbenigedd").
Yn gryno, mae'r rhagfarn hon yn ein harwain i dybio bod gan eraill yr un wybodaeth a'r un ddealltwriaeth o bwnc.
Nid yw'n hawdd gwybod a yw rhywbeth yn glir ac yn gywir ar yr un pryd.
Mae gweithio gyda'n gilydd yn gwella'r prosesau adborth ac ailadrodd drwy leihau:
- gwallau ac adolygiadau
- dryswch
- rhwystredigaeth
Mae’n arbed:
- amser mewn galwadau
- negeseuon ebost
- cyfarfodydd eraill i wneud newidiadau ac esbonio
Mae hefyd yn ein hatal rhag buddsoddi amser ac ymdrech i greu cynnwys nad oes ei angen.
Ar yr un pryd, mae'n ein hannog ni i:
- gydweithio ac ymgysylltu
- meithrin empathi a dealltwriaeth o'n defnyddwyr a'n cydweithwyr
- gwerthfawrogi'r sgiliau a'r arbenigedd rydyn ni'n eu cynnig
- deall penderfyniadau a phrosesau cynnwys
Yn y pen draw, mae'n golygu y gallwn gynhyrchu cynnwys sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Dyma gynnwys o ansawdd gwell sy'n:
- seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth defnyddwyr
- canolbwyntio ar ddiwallu anghenion defnyddwyr
- cliriach ac yn symlach, yn haws i'w ddeall a gweithredu arno
Mae ysgrifennu triawd yn rhoi rôl fwy gweithredol i'r cyfieithydd, a'r cyfle i:
- ofyn cwestiynau am eglurder
- cael gwell dealltwriaeth o gyd-destun a phwrpas y darn
- ysgrifennu mewn Cymraeg clir a naturiol
Y canlyniad yw cynnwys gwell yn y ddwy iaith, lle maen nhw'n cael eu hystyried yn gyfartal.
A gwell gwasanaethau yn newis iaith y defnyddwyr.
Heriau wrth ysgrifennu triawd
Efallai bod y broses yn swnio'n wych mewn theori, ond weithiau, byddwn ni’n wynebu heriau ymarferol.
Ffyrdd o weithio
Mae problemau fel arfer yn codi pan nad yw sefydliad a'i ddiwylliant yn barod i weithio fel hyn.
Efallai y bydd yn rhaid i ni felly wneud llawer o esbonio: nid yn unig pam mae profiad y defnyddiwr (UX) yn bwysig, ond hefyd sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â'n cynnwys a'n gwasanaethau ar-lein.
Bydd angen i ni godi ymwybyddiaeth fel bod pawb yn deall gwerth gweithio fel hyn.
Cynnwys a chyfieithu
Mae hyn yn arbennig o debygol os yw'r sefydliad yn dilyn model cynhyrchu cynnwys lle mae
- gwasanaethau'n datblygu cynnwys ac yna'n gofyn i eraill ei gyhoeddi.
- tîm dwyieithog neu gyfieithu yn gweithio ar eu pen eu hunain
- dim ond ar ddiwedd y broses y bydd cyfieithu’n digwydd.
Mae hyn yn golygu efallai y bydd angen i ni argyhoeddi'r tîm cyfieithu neu'n rheolwyr i'n galluogi i weithio gyda rhywun o'u tîm fel hyn.
Dylunio gwasanaethau
Weithiau bydd diffyg dealltwriaeth o brofiad y defnyddiwr (UX), neu byddwn yn sylwi nad yw gwasanaeth neu gynnyrch yn cael eu dylunio.
Gall fod yn anodd cyfathrebu'n eglur wasanaeth nad yw'n glir ynddo'i hun.
Gwneud y pethau bychain
Dyma rai camau bach yr ydyn ni’n eu hawgrymu fel man cychwyn.
Dechrau arni ac arbrofi. Arfogi’n hunain gydag adnoddau a thystiolaeth. Dod o hyd i ffyrdd o ddangos gwerth y broses a dathlu'r enillion bach.
Rydyn ni'n siarad am y dull hwn o weithio gydag eraill ac yn dangos ein gwaith wrth fynd ymlaen. Gobeithiwn y byddwn ni’n dod o hyd i gynghreiriaid a hyrwyddwyr ar y ffordd.
Lawrlwytho neu brynu’r llawlyfr ysgrifennu triawd
Fe weithion ni gyda phartneriaid a sefydliadau sector cyhoeddus eraill yng Nghymru i gyhoeddi llyfr o'r enw Ysgrifennu Triawd: Dylunio cynnwys dwyieithog ar gyfer gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn cefnogi'r rhai sy'n dylunio cynnwys dwyieithog ar gyfer gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Lawrlwytho'r e-lyfr
Prynu'r llyfr
Darllen pellach
Mae Pecyn cynnwys y Grant Hanfodion Ysgol i awdurdodau lleol yn dangos sut y defnyddion ni ysgrifennu triawd i greu cynnwys dwyieithog sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.