Rydym yn gweithio gyda Yolk Recruitment i gefnogi sefydliadau yn y sector cyhoeddus yma yng Nghymru i lenwi rolau digidol, data a thechnoleg hanfodol (DDaT). Bydd sefydliadau sector cyhoeddus hefyd yn gallu cael cymorth a chyngor arbenigol gan Yolk.  

Y manteision 

Mae sicrhau bod y dalent iawn yn ei lle yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern, sy’n diwallu anghenion esblygol defnyddwyr mewn meysydd megis llywodraeth leol, addysg ac iechyd.  

Gyda gwerth posibl o £15 miliwn dros 3 blynedd, gall y bartneriaeth strategol hon gael effaith fawr ar sector cyhoeddus Cymru. Ein nod yw ehangu’r gronfa o bobl dalentog sydd â’r sgiliau digidol cywir. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gallu cyflawni gwasanaethau cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn hygyrch i bawb mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion.  

Cyflwyno Yolk Recruitment 

Mae gan Yolk Recruitment gyfoeth o brofiad. Maent wedi gweithio'n llwyddiannus â chleientiaid o bob rhan o'r DU ac mae ganddynt dîm sector cyhoeddus ymroddedig.  

Wrth i ni chwilio am bartner, roedd yn bwysig i ni ddod o hyd i gwmni a oedd wedi ymrwymo i gyflawni nodau sero net erbyn 2030, ac un sy'n rhannu ein gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Profodd Yolk Recruitment eu bod yn cefnogi pob elfen o’r rhain.   

Yr heriau 

Nid yw'n gyfrinach bod pandemig COVID-19 wedi tarfu ar arferion busnes traddodiadol. Rydym i gyd wedi profi’r angen cynyddol am ddatrysiadau technoleg a dulliau wedi’u gyrru gan ddata.  

Nid yw sefydliadau’r sector cyhoeddus yn wahanol. Yn ddi-os mae mwy o ymwybyddiaeth o bŵer offer digidol i wella gwasanaethau cwsmeriaid a gwerth gweithwyr proffesiynol sy’n gallu eu defnyddio’n effeithiol. Fodd bynnag, mae denu talent ddigidol a thechnoleg o’r sector preifat yn her sylweddol o hyd.   

Mae Yolk Recruitment mewn sefyllfa dda i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Mae eu dealltwriaeth o'r farchnad leol a rhwydwaith helaeth o gysylltiadau diwydiant yn eu gosod yn berffaith i'n helpu ni a'n cydweithwyr yn y sector i ddod o hyd i'r dalent cywir i lenwi'r rolau hyn. 

Cymerwch ran 

Rwy’n edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd ein gwaith gyda Yolk yn ei chael ar y sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Os ydych yn gydweithiwr o'r sector cyhoeddus sydd eisiau dysgu mwy neu gael mynediad i'r gwasanaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost: michael.moore@digitalpublicservices.gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru