Crynodeb gweithredol
Bu Technoleg Sero Net, sef prosiect darganfod a gynhaliwyd dros gyfnod o 12 wythnos, yn archwilio sut y gall digidol gefnogi nodau Sero Net Cymru ar gyfer yr hinsawdd.
Bu’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn gweithio ar y prosiect ag ymgynghorwyr digidol Perago a’r tîm arloesedd carbon isel a digidol yn M-SParc.
Nod y prosiect darganfod oedd archwilio sut y gallai’r sector cyhoeddus yng Nghymru:
- helpu i leihau allyriadau carbon yng Nghymru drwy ddigidol
- adnabod cyfleoedd i gefnogi nodau ehangach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus gwell yng Nghymru
Wrth ‘digidol’ yn y prosiect hwn, rydym yn defnyddio diffiniad Tom Loosemore (Public Digital):
“Defnyddio diwylliant, prosesau, modelau busnes a thechnolegau oes y rhyngrwyd i ymateb i ddisgwyliadau uwch sydd gan bobl.”
Ac wrth ‘sero net’, rydym yn golygu, “Cael cydbwysedd rhwng yr allyriadau carbon sy’n cael eu rhoi i mewn i’r atmosffer a’r rhai sy’n cael eu tynnu allan.”