Beth yw’r broblem?
Roedd ein hymchwil yn dangos datgysylltiad rhwng yr argyfwng hinsawdd a blaenoriaethau digidol o fewn y sector cyhoeddus. Prin y mae cynaliadwyedd yn ysgogwr ar gyfer timau digidol.
Mae angen i bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru weld cynaliadwyedd yn cael ei flaenoriaethu o’r brig, gan dreiddio i lawr i amcanion timau digidol.
Darllenwch fwy yng nghanfyddiadau ein hymchwil am y broblem hon:
Nid yw’n cael ei wneud yn flaenoriaeth (oni bai mai chi yw’r arweinydd cynaliadwyedd sy’n gyfrifol am adrodd ar garbon)
Diffyg cyllid, amser ac adnoddau
Bod ar gam cynnar ar y daith trawsnewid digidol
Datrysiadau posibl
Mae ymarferwyr gorau sy’n defnyddio digidol i fynd i’r afael â nodau sero net wedi cydnabod a mabwysiadu’r agweddau canlynol mewn perthynas â gosod lleihau allyriadau carbon fel blaenoriaeth:
- gweld sero net a lleihau ôl troed carbon fel risg parhad busnes
- bydd yn llawer drutach i fynd i’r afael â gofynion sero net yn ddiweddarach
- mae angen mesur allyriadau carbon a’u hystyried ar gyfer pob gwasanaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod canllawiau ar dargedau newid hinsawdd a chyllidebau carbon yn fwyaf diweddar yng nghynllun Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021 i 25), ac mae Cyllideb Garbon 3 (2026-2030) eisoes wedi’i hamlinellu.
Bydd rhoi pwyslais ar yr angen i feddwl am sero net ochr yn ochr ag ystyriaethau cynllunio a gweithredol eraill yn helpu i wreiddio sero net mewn diwylliant sefydliadol.
Dulliau posibl ar gyfer ddatrys y broblem hon:
- gwneud sero net yn rhan o bob prosiect
- amlygu polisïau ac ymrwymiadau ar yr hinsawdd sydd eisoes yn bodoli
- gosod targedau hinsawdd byrdymor
- pwysleisio sut y gall digidol helpu tuag at sero net ledled y sefydliad