Cam darganfod Technoleg Sero Net

Beth yw nod y cam darganfod?

I gael gwybod mwy am sut gellir defnyddio digidol a thechnoleg yn y sector cyhoeddus i helpu Cymru i gyrraedd allyriadau nwy sero net.

Pa broblemau y gallai’r cam darganfod eu datrys i bobl?

Mae Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd allyriadau sero net carbon erbyn 2050 neu’n gynt. Mae Strategaeth Ddigidol Cymru yn amlinellu’r cyfle i dechnoleg ddigidol gyfrannu at ddatgarboneiddio. Gwnaeth y darganfyddiad hwn archwilio arfer da cyfredol a phosib, o ran cysylltu defnydd digidol ac allyriadau gwresogi byd-eang llai.

Pwy sy’n ymwneud â’r cam darganfod?

Partner y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn y cam darganfod hwn yw’r cwmni cyflawni digidol, Perago, a pharc gwyddoniaeth M-SParc.

Beth mae CDPS wedi’i wneud hyd yma?

Rydym wedi:

Beth sy’n dod nesaf?

Gwnaethom gyhoeddi adroddiad ac phost blog ar ddiwedd y darganfyddiad Sero Net Carbon.

Sut byddai’r gwasanaeth hwn yn helpu i gyflawni’r strategaeth ddigidol i Gymru?

Byddai Technoleg Sero Net yn helpu i gyflawni tair o genadaethau’r strategaeth:

Cenhadaeth 1: gwasanaethau digidol

Cyflenwi a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr ac yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus.

Cenhadaeth 5: economi ddigidol

Sbarduno ffyniant economaidd a chydnerthedd drwy gynnwys a defnyddio arloesedd digidol.

Cenhadaeth 6: data a chydweithredu

Caiff gwasanaethau eu gwella drwy gydweithio, a chaiff data a gwybodaeth eu defnyddio a’u rhannu.

Postiadau blog

6 ffordd y gall sector cyhoeddus digidol helpu Cymru i gyrraedd sero net – cyhoeddwyd 2 Medi 2022

Peiriannau gwyrdd: sut y gall technoleg yn y gweithle achub y blaned – cyhoeddwyd 30 Mehefin 2022

Cefnogi net sero gyda thechnoleg – sut mae ‘da’ yn edrych – cyhoeddwyd 29 Mehefin 2022

‘Tech Net Zero’ – beth mae hynny yn ei olygu? – cyhoeddwyd 20 Mehefin 2022

Tech net sero – cychwyn trwy ddeall y broblem – cyhoeddwyd 19 Mai 2022

CDPS yn dyfarnu contract darganfod technoleg sero net – cyhoeddwyd 29 Ebrill 2022