Nod y prosiect
Drwy’r darganfyddiad hwn, rydym yn gobeithio dangos i fyrddau iechyd a thimau gweithredu lleol, y risgiau a’r cyfleoedd o symud i systemau rhagnodi electronig mewn lleoliadau gofal sylfaenol (practisau meddygon teulu a fferyllfeydd lleol), fel y gallant:
- baratoi’n ddiogel
- dewis yr opsiynau gorau
- gweithredu mewn ffordd sy'n darparu'r budd mwyaf
Y broblem i'w datrys
Mae rhan sylweddol o'r broses yn seiliedig ar bapur, ond cyn bo hir bydd yn symud tuag at dechnoleg a elwir yn Wasanaeth Presgripsiwn Electronig (EPS).
Mae'r gwaith hwn yn rhan allweddol o'r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol sy'n ceisio gwneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhob man yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, effeithlon ac effeithiol.
Daw hyn â chyfleoedd newydd i wella diogelwch, yn ogystal â gwella profiad cleifion a chlinigwyr.
Ond mae yna hefyd gyfyngiadau, anghenion defnyddwyr newydd, ‘realiti blêr’ ffyrdd gweithio o ddydd i ddydd, a systemau a phrosesau presennol, rhwystrau ac anfanteision i’w deall.
Partneriaid
Iechyd a Gofal Digidol Cymru oedd in partner yn y darganfyddiad yma.
Fe weithion ni gydag arbenigwyr pwnc Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol, a chynnal ymchwil defnyddwyr gyda'r bobl sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rhagnodi, dosbarthu, rhoi neu dderbyn meddyginiaethau, mewn lleoliadau gofal sylfaenol - gan gynnwys practisau meddygon teulu a fferyllfeydd lleol.
Crynhoi'r gwaith
Fe wnaethon ni:
- adeiladu golwg ar y gwasanaeth o un pen i’r llall, ac ennill gwell dealltwriaeth o’n defnyddwyr gwasanaeth trwy ymchwil defnyddwyr
- ymweld â fferyllfeydd a phractisau meddygon teulu ledled Cymru - siarad â’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â phob lleoliad, ac â’r bobl sydd angen meddyginiaeth
- creu darlun o'r hyn y gallai fod angen ei newid, a beth yw'r cyfleoedd i wella
Fe wnaethon ni hefyd ysgrifennu argymhellion ar gyfer tîm gofal sylfaenol Iechyd a Gofal Digidol Cymru iddynt eu datblygu.