Rydym yn gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) i wella'r ffordd mae meddygaeth yn cael ei rhagnodi a'i dosbarthu. Dyma'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu trwy ymweld â fferyllfeydd a meddygfeydd, a siarad â phobl sydd angen meddyginiaeth

21 Tachwedd 2022

Rydym ni wedi cadw cofnod blog yn ddiweddar am sut yr ydym yn gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar ddwy ran o'r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol (DMTP). Un o'r darnau o waith yr ydym yn cefnogi yw 'gofal sylfaenol', ac mae'n cynnwys y ddau sefydliad sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella'r ffordd y mae meddygaeth yn cael ei rhagnodi a'i dosbarthu mewn meddygfeydd teulu, ac mewn fferyllfeydd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae swm sylweddol o'r broses ar bapur, ond mi fydd yn symud tuag at dechnoleg a elwir yn wasanaeth presgripsiwn electronig (EPS), cyn bo hir. Mae'r gwaith hwn yn rhan allweddol o'r DMTP, sy'n ceisio gwneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhob man yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, effeithlon ac effeithiol.

Mae manteision o weithredu EPS yn cynnwys:

  • yn fwy effeithlon - byddai'n osgoi gorfod disgwyl meddyg i arwyddo presgripsiwn papur, ac yna orfod aros eto iddo gyrraedd fferyllydd mewn lleoliad arall    
  • yn fwy diogel – byddai'n golygu y gallai grŵp o bobl awdurdodedig gael mynediad at wybodaeth bresgripsiwn pan mae angen, yn hytrach na gorfod dibynnu ar bapurau'n cael eu hanfon, eu ffeilio a'u storio'n ddiogel bob tro maen nhw'n cael eu defnyddio  
  • gwella diogelwch ac atebolrwydd – byddai cael llwybr archwilio digidol yn dangos beth sydd wedi'i ragnodi a'i ddosbarthu, gan bwy a phryd

Dechrau arni: darganfod ein defnyddwyr 

Mae llawer o'n gwaith dros yr 11 wythnos diwethaf wedi bod ynghylch casglu dealltwriaeth o'n ‘defnyddwyr', trwy wneud ymchwil. Dyma'r setiau o bobl sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rhagnodi, dosbarthu neu weinyddu meddyginiaethau, neu dderbyn meddyginiaethau.  

Yn gynnar yn y broses, dywedodd ein hymchwil wrthym fod rolau o fewn sefydliadau yn amrywio, a gallai'r hyn y mae un technegydd yn ei wneud mewn un ymarfer neu fferylliaeth, fod yn wahanol iawn i'r hyn y mae rhywun sydd â'r un teitl rôl yn ei wneud mewn un arall.  

Roedd angen ffordd glir a chyson i ddeall y bobl a'r gweithgareddau dan sylw.  

Edrychom ar bost Rochelle Gold, sy'n diffinio beth mae timau yn ei olygu pan fyddant yn siarad am 'ddefnyddwyr' o fewn NHS Digital. Yn fyr, golygir "pawb sy'n defnyddio cynnyrch neu wasanaeth o ddiwedd i ddiwedd, o’r blaen hyd at y cefn”, ond er mwyn cyfyngu hyn, mae'n rhestru'r grwpiau penodol o bobl.  

Gwnaethom yr un peth i’r darn yma o waith gan y Portffolio Trawsnewid Meddygaeth Ddigidol. Mae ein 'defnyddwyr terfynol' yn bobl sydd:    

  • angen meddygaeth   
  • casglu meddygaeth  
  • helpu pobl eraill gyda'u meddygaeth   

Ac ar gyfer y darn o waith yma, mae defnyddwyr pwysig yn bobl sy'n:    

  • rhagnodi meddygaeth   
  • symud a storio meddygaeth   
  • dosbarthu meddygaeth 
  • gweinyddu meddygaeth   
  • rheoli meddygaeth   
  • creu ac anfon cyfathrebiadau yn ystod y broses (er enghraifft, hysbysiad rhyddhau)     
  • goruchwylio rhyddhau   
  • gweithio fel gweithwyr proffesiynol clinigol a rheolwyr gydag, ac o amgylch, eraill (rhanddeiliaid)  
  • cefnogi eraill yn y broses neu'r admin   
  • datblygu polisi, canllawiau a phrosesau (rhanddeiliaid)   

Sut y gall defnyddwyr helpu

Rydym wedi bod yn siarad â'r bobl adnabuwyd fel ein defnyddwyr, a’u harsylwi mewn senarios bywyd go iawn, sy'n cynnwys eu gwaith gyda phresgripsiynau.    

Gelwir hyn yn 'ymchwil i ddefnyddwyr'. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud y rhan yma, fel y gallwn ddeall yn well yr hyn sy'n gweithio i'n defnyddwyr ar hyn o bryd, yn ogystal â’r hyn sy'n heriol.   

Trwy wneud y darganfyddiad yma, gallwn adnabod beth sydd ei angen ar bob set o ddefnyddwyr. Mae hyn yn ein rhoi mewn gwell sefyllfa i sicrhau bod technoleg, a’r newid o fewn technoleg, yn cefnogi defnyddwyr ar gyfer y realiti maen nhw'n gweithio ynddo. Dylai arwain at ganlyniadau gwell, a gwerth am arian.   

Pwysigrwydd cyd-destun   

Yn hytrach nag edrych ar ragnodi ar gyfer gofal sylfaenol yn gyfan gwbl, gofynnwyd i ni ganolbwyntio ar 3 maes cyfle sydd i'w wneud â:  

  1. meddygfeydd sydd hefyd yn dosbarthu meddygaeth  
  2. meddygfeydd a fferyllfeydd o fewn a thu allan i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, gan y gallai fod cyfleoedd i wella sut mae'r prosesau cyfredol yn gweithio yn y cyd-destun hwn  
  3. sut mae fferyllfeydd yn dewis eitemau i'w dosbarthu, a sut y gellid cefnogi hynny'n well  

O fewn pob un o'r meysydd yma, mae llawer o wahaniaethau rhwng y defnyddwyr (er eu bod yn aml â'r un deit rôl), a rhwng y sefydliadau dan sylw. Er enghraifft, mae'r heriau'n debygol o fod yn wahanol:   

  • mewn fferyllfeydd cadwyn o gymharu â rhai annibynnol   
  • mewn lleoliadau gwledig o gymharu â rhai trefol   
  • os yw'r defnyddiwr yn teimlo'n fwy cyfforddus yn defnyddio papur yn hytrach na thechnoleg fodern   
  • os oes gan y defnyddiwr fynediad dibynadwy a chyflym i'r rhyngrwyd   

Mae'n rhaid i ni ystyried y cyd-destun er mwyn cael trosolwg cywir o ran ym mhle y mae angen rhagor o gymorth.   

Themâu pwysig hyd yn hyn 

Er mwyn dechrau creu darlun o'r hyn a allai fod angen ei newid, a beth yw'r cyfleoedd i wella, rydym wedi bod yn ymweld â fferyllfeydd a meddygfeydd. Rydyn wedi siarad â phobl sy'n gweithio ym mhob lleoliad, yn ogystal â phobl sydd angen meddyginiaeth.  

Rydym eisoes wedi deall pa mor bwysig yw hi fod:   

  • pobl yn cael y feddyginiaeth sydd ei hangen arnynt, ar yr adeg bydd angen arnynt, o ble bynnag sy'n gyfleus. Gall lleoliad 'cyfleus' newid, er enghraifft, os yw rhywun yn gweithio yn Lloegr am y diwrnod, neu os ydyn nhw ar wyliau, neu angen cael meddyginiaeth ar ddiwrnod penodol pan maen nhw oddi cartref.  
  • fferyllwyr yn ymwybodol am y nifer, a’r mathau gwahanol o bresgripsiynau fydd yn dod atynt ymlaen llaw, fel eu bod yn gallu rheoli eu hamser a'r ceisiadau yn effeithlon. Gallai hyn olygu ffyrdd o'u helpu osgoi pobl sy'n cyrraedd fferyllfa yn disgwyl derbyn rhywbeth sydd heb ei ddosbarthu eto, neu gwestiynau maesu gan bobl sy'n hel eitemau heb eu rhagnodi eto.   
  • meddygon yn symud i ffwrdd o brosesau sy'n cymryd llawer o amser, gan ragnodi â llaw er mwyn sicrhau amser i ofalu. 

Gellir mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau yma gan y rhaglen sy'n galluogi EPS ar gyfer meddygfeydd a fferyllwyr i'w gweithredu. Mae eraill yn canolbwyntio’n fwy ar y broses a'r drefn y mae pobl yn dewis eu mabwysiadu.   

Rydyn ni’n dal i ddysgu 

Bydd angen i ni ddysgu llawer mwy am yr hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau'r newidiadau, dysgu sut i helpu pobl gwneud y gorau allan o gyfleoedd, ac i leihau'r amser, ymdrech a’r gwersi pwysig, wrth i ni fynd.   

Byddwn ni'n gwneud ymchwil defnyddwyr gyda phobl sydd eisoes yn defnyddio technoleg meddygaeth ddigidol yn Lloegr, yn ogystal â'r rheiny sydd ddim eto yng Nghymru. Drwy wneud hynny, gallwn ddeall: 

  • pa newidiadau bydd angen eu gwneud 
  • beth sydd angen ei weithredu  
  • sut fydd yn edrych mewn blynyddoedd i ddod 

Byddwn yn siarad mwy am ganfyddiadau ein hymchwil a'r hyn maen nhw'n ei ddangos yn fuan.