Pam fod 2 sefydliad ag arbenigeddau gwahanol yn dod at ei gilydd i greu canlyniadau gwell er lles cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
2 Tachwedd 2022
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn gweithio mewn partneriaeth â Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW). Gyda’n gilydd, rydym yn bwriadu sicrhau canlyniadau gwell i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Gweithio tua’r un nod
Ein cenhadaeth yw:
- deall taith defnyddiwr o un pen i’r llall ar gyfer gwasanaethau presgripsiwn electronig
- defnyddio dulliau digidol i wneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaeth yng Nghymru’n haws, yn ddiogel, yn fwy effeithiol ac effeithlon
Yn barod, mae gwaith wedi dechrau gyda Phortffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol (DMTP) y DHCW.
Datrysiad sy’n gynhwysol
Dywedodd Helen Thomas, Prif Weithredwr DHCW:
“Rwy’n gweld manteision mawr a gwirioneddol i’r bartneriaeth hon. Mi fydd yn caniatáu inni ddeall effaith dileu papur o’r system, a dewis a darparu’r dechnoleg sy’n diwallu anghenion GIG Cymru.
“Gwyddom nad yw pawb eisiau defnyddio gwasanaethau ar-lein, felly mae’n hanfodol bwysig bod y datblygiad newydd sylweddol, a fydd yn effeithio ar bawb sy’n defnyddio gwasanaethau GIG Cymru, yn ddigidol gynhwysol.
“Mae dod â’n harbenigedd ynghyd yn ein darparu â’r meddylfryd cywir, yn ogystal â’r mewnwelediad sydd eu hangen arnom i ddarparu’r atebion meddyginiaethau digidol gorau oll i bobl Cymru.”
Mae ein dull yn cyd-fynd â sylwadau Eluned Morgan AS, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wrth iddi sôn am ddyfodol rhagnodi electronig yng Nghymru:
“Hoffwn sicrhau bod gwasanaethau yn darparu’r canlyniadau gorau i ddinasyddion, a’u b wedi’u dylunio o amgylch sut mae nhw a darparwyr gwasanaeth eisiau defnyddio a rheoli’r gwasanaethau hynny…
“…rydym yn gwybod nad yw pawb yn gallu, neu eisiau, defnyddio gwasanaethau ar-lein; felly, mae sicrhau bod yr ateb yn ddigidol gynhwysol yn flaenoriaeth allweddol i’r rhaglen.”
Cael gwared â gwaith papur
Mae datrysiadau presgripsiwn electronig yn bodoli ac yn cael eu defnyddio mewn mannau amrywiol y tu allan i Gymru. Gwledydd Scandinafia sy’n arwain Ewrop o ran defnyddio presgripsiynau electronig. Mae dod o hyd i’r dechnoleg sy’n diwallu anghenion ein defnyddwyr, mewn cyd-destun sy’n benodol i Gymru, yn bwysig. Efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio mewn un cyd-destun yn gweithio mewn cyd-destun arall.
O fewn terfynau’r gwaith, bydd ein hymchwil yn edrych ar ddeall yr heriau a’r risgiau o ddiddymu gwaith papur yn y ddau wasanaeth canlynol:
- Gwasanaethau Presgripsiwn Electronig mewn lleoliad gofal sylfaenol – defnyddir y system gan feddygon teulu a staff anfeddygol sy'n rhagnodi, dosbarthu, gweinyddu a rheoli meddyginiaethau mewn meddygfeydd a fferyllfeydd
- Rhagnodi Electronig a Gweinyddu Meddyginiaethau mewn lleoliad gofal eilaidd – defnyddir y system gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n rhagnodi, dosbarthu, gweinyddu a rheoli meddyginiaethau mewn ysbytai.
Rhwng nawr a diwedd y flwyddyn, byddwn yn arsylwi cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn cyd-destunau bywyd go iawn, wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau presgripsiwn.
Deall taith y defnyddiwr
Ein nod yw deall pob taith defnyddiwr’ – o’u cam cyntaf yr holl ffordd at gwblhau’r dasg.
Nid dim ond mater o dechnoleg yw hyn. Ar hyn o bryd, mae camau ar-lein, papur, ffôn ac wyneb yn wyneb i gyd yn rhan o daith y defnyddiwr.
Pan fyddwn yn deall taith y defnyddiwr o un pen i’r llall, gallwn nodi cyfleoedd i wella datrysiadau a gwasanaethau digidol newydd, yn seiliedig ar adborth a phrofiad defnyddwyr.
Gweithio fel partneriaid Ystwyth
Sut y byddwn yn cyflawni hyn? Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth. Byddwn yn dod ag arbenigwyr pwnc DMTP ac arbenigwyr CDPS (dylunio ac ymchwil defnyddwyr) ynghyd o dan yr un to i weithio mewn ffordd Ystwyth, agored a thryloyw.
Sut mae hyn yn gweithio'n ymarferol? Cewch wybod yn ein post blog nesaf, a fydd yn edrych ar ein dull yn gyffredinol - o egwyddorion Ystwyth a gweithio'n agored, i bwysigrwydd ymchwil defnyddwyr.