Cynnwys
Nodau
Cymru lle mae safonau’n ei gwneud hi’n haws dylunio gwell gwasanaethau cyhoeddus digidol.
Rydym am gefnogi timau a sefydliadau i gymhwyso Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru i wneud eu gwasanaethau digidol yn well.
Rydym wedi sefydlu gweithgor safonau i geisio coladu a hwyluso mabwysiadu arferion, canllawiau a safonau da eraill ar draws sectorau, gwledydd ac adrannau eraill y llywodraeth, gan eu gwneud yn berthnasol i Gymru drwy ddarparu cyd-destun neu gyngor ychwanegol.
Byddwn yn eirioli dros flaenoriaethau Cymru mewn deddfwriaeth ac ymgynghoriadau rheoleiddio perthnasol yn y DU.
Beth ydym yn ceisio’i gyflawni?
Gwyddom o’n hymchil fod timau sy’n adeiladu gwasanaethau cyhoeddus eisiau gwybodaeth. Arweiniad neu adnoddau penodol ar sut i wneud cais a bodloni pob safon.
Er mwyn cefnogi hyn, rydym yn canolbwyntio ar ddau brif faes:
1. Llawlyfr gwasanaeth
Llawlyfr lle gall defnyddwyr gael cyngor ac arweiniad ymarferol ar sut i wneud cais a bodloni Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru
2. Adolygiadau safonau gwasanaethau
Dyma wweithdai sy’n ceisio helpu timau a sefydliadau i ddeall y Safonau Gwasanaethau Digidol yn well, gweld lle gallant wneud gwelliannau a’r hyn y maent eisioes yn ei wneud yn dda. Rydym yn awyddus i wneud y gweithdai hyn gyda chi, felly cysylltwch â ni os ydych am i ni hwyluso’r broses o adolygu safon gwasanaethau.
Rydym wedi sicrhau bod y deunyddiau gweithdy ar gael yn Gymraeg a’r Saesneg os ydych am roi cynnig ar hwyluso fel unigolyn neu gyda’ch tim.
Os hoffech wybodaeth am unrhyw un o’r uchod, anfonwch e-bost atom ar standards@digitalpublicservices.gov.wales