Beth sy'n newydd? 

Mae Cynnyrch Sylfaenol Hyfyw (MVP) y Llawlyfr Gwasanaeth i Gymru bellach yn fyw ar ein gwefan! 

Nod y llawlyfr hwn yw cefnogi Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru, darparu arweiniad a chymorth i bawb sy'n ymwneud â chreu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau gwell. 

Pam llawlyfr gwasanaeth? 

Mae'r Llawlyfr Gwasanaeth wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio ar yr un pryd ag adnoddau sydd eisoes yn bodoli i'ch helpu i ddylunio, adeiladu a darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol yng Nghymru sy'n bodloni Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru. 

Wrth gwrs, mae adnoddau gwerthfawr eraill ar gael i ddylunio ac adeiladu cynhyrchion a gwasanaethau digidol (e.e. llawlyfr gwasanaeth GOV.UK), ond mae angen cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer heriau penodol sy’n bodoli yng Nghymru. Fe wnaethom nodi bod angen arweiniad sy'n mynd i'r afael â darparu gwasanaethau yng Nghymru, yn enwedig defnyddwyr Cymraeg. 

Mae ein Llawlyfr Gwasanaeth yn llenwi'r bwlch hwnnw, gan ddarparu arweiniad perthnasol ac ymarferol, ac ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar 2 brif faes: 

  • helpu i ddarparu gwasanaethau dwyieithog 
  • mynd i'r afael â heriau unigryw sy'n berthnasol i gyd-destunau Cymreig

Rydym yn darparu arweiniad yn y lle cyntaf ar hanfodion ymchwil dwyieithog i ddefnyddwyr, sut i baratoi eich tîm, a chynllunio ymchwil gyda defnyddwyr Cymraeg. 

Sut aethon ni ati i’w ddatblygu 

Cynnal ymchwil gyda'n gilydd 

Fe wnaethon ni weithio'n agos gyda chymuned Ymchwil i Ddefnyddwyr yng Nghymru i gyd-ddylunio gwybodaeth am gynnal ymchwil gyda defnyddwyr Cymraeg. Ein nod oedd deall y canllawiau sydd eu hangen ar y rheini sy'n defnyddio’r gwasanaeth a sut y gallent ddefnyddio'r canllawiau yn effeithiol. 

Fel rhan o’r gwaith hwn, fe wnaethon ni: 

  • ymgysylltu â’r rheini sy’n ymchwilio i ddefnyddwyr sydd â phrofiad amrywiol 
  • deall y profiad sydd ganddyn nhw mewn ymchwil ddwyieithog 
  • casglu adborth drwy gydol y broses ddatblygu 

Fe wnaeth yr wybodaeth hon ein helpu i fireinio ein canllawiau, gan sicrhau ei fod yn ddefnyddiol ac yn berthnasol er mwyn gallu mynd i'r afael â'r heriau y mae ymchwilwyr defnyddwyr yn eu hwynebu. 

Gwnaethom hefyd ganolbwyntio ar ddeall pa mor effeithiol y gall defnyddwyr gwblhau tasgau sy'n gysylltiedig â'r bensaernïaeth wybodaeth a'r canllawiau cyffredinol.  

Mae'r adborth a gawsom, a ddaeth i’r fei gyda chymorth cam ymchwil beta, wedi bod yn hanfodol yn y gwaith o fireinio'r llawlyfr, gan ei gwneud yn berthnasol, yn ddefnyddiol ac yn gynhwysfawr i'r rhai sy'n ceisio cynnal ymchwil i ddefnyddwyr Cymraeg. 

Y broses ddylunio 

Mae ein tîm cyflenwi yn cynnwys dylunydd gwasanaeth, dylunydd rhyngweithio, a dylunwyr cynnwys ynghyd ag ymchwilydd defnyddiwr. Ar y cyd, fe wnaethant ddatblygu prototeip i’w ddefnyddio gyda defnyddwyr a'i ailadrodd o safbwynt adborth profi defnyddioldeb er mwyn gallu mireinio'r bensaernïaeth a'r cynllun gwybodaeth. 

Fe wnaethom hefyd drefnu sawl gweithdy a beirniadaethau dylunio a chynnwys o fewn cymuned CDPS. Roedd y dull agored hwn yn caniatáu inni rannu y cynnydd yr oeddem yn ei wneud, gan sicrhau eglurder, pa mor ddarllenadwy ydyw a pha mor hygyrch. 

Rhagor am y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei  wneud: 

Beth yw eich barn chi ar y gwaith hwn? 

Byddem wrth ein bodd yn gwybod beth yw eich barn chi am y llawlyfr gwasanaeth. Mae eich adborth yn allweddol i fireinio ein canllawiau a'u gwneud yn fwy defnyddiol fyth.  

Dweud eich dweud: beth oedd yn ddefnyddiol, beth oeddech chi'n ei hoffi, a  oes mwy o eglurder ar unrhyw rannau ohono. 

Gallwch rannu eich adborth un ai drwy ddefnyddio'r ffurflen yn y Llawlyfr Gwasanaeth neu e-bostio standards@digitalpublicservices.gov.wales.