Beth fuom yn ei wneud?
Cynhaliom gyfweliadau â:
- gweision cyhoeddus ledled Cymru
- ymarferwyr gorau’r sector cyhoeddus
- darparwyr gwasanaethau cwmwl cyhoeddus
Hefyd, cynhaliom ymchwil desg ar bolisi ac arferion gorau yn rhyngwladol, yn y Deyrnas Unedig (DU) ac yng Nghymru.
Beth ydym wedi’i ddysgu?
Dyma, yn gryno, y 6 argymhelliad a gawsom ar ddiwedd y darganfyddiad:
Argymhelliad 1 – Codi ymwybyddiaeth
Canfu’r tîm fod arweinwyr technoleg, ac ymarferwyr, yn aml yn brin o ddealltwriaeth lawn ynghylch:
- sut y gallai digidol gefnogi sero net yn gyffredinol
- nodau sero net eu sefydliad yn benodol
- beth oedd cyflawni sero net yn ei olygu yn eu cyd-destun proffesiynol
Argymhelliad 2 – Gwneud sero net yn flaenoriaeth o fewn digidol
Roedd ein hymchwil yn dangos datgysylltiad rhwng yr argyfwng hinsawdd a blaenoriaethau digidol o fewn y sector cyhoeddus. Prin y mae cynaliadwyedd yn ysgogwr ar gyfer timau digidol.
Mae angen i bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru weld cynaliadwyedd yn cael ei flaenoriaethu o’r brig, gan dreiddio i lawr i amcanion timau digidol.
Argymhelliad 3 – Helpu pobl i ddilyn arferion da sero net
Canfu’r tîm Technoleg Sero Net, lle mae gweithwyr proffesiynol cynaliadwyedd yn bodoli o fewn sefydliadau, nid ydynt wedi’u cydgysylltu â thimau digidol i ddylanwadu arnynt a’u cefnogi.
Ymhlith y gweithwyr proffesiynol cynaliadwyedd y buom yn siarad â nhw, yn aml, roedd ganddynt syniadau da ynghylch sut y gall digidol gefnogi sero net, ond llai o allu i gyflawni’r syniadau hynny.
Argymhelliad 4 – Mesur yr ôl troed carbon sydd gan wasanaeth digidol
Roedd yr angen i werthuso effaith gwasanaethau ar yr hinsawdd yn ystyriaeth a gododd yn ein hymchwil defnyddwyr. Canfu’r tîm darganfod nad oedd unrhyw ffordd glir a hawdd o werthuso’r ôl troed hinsawdd sydd gan wasanaeth digidol. Roedd dull o’r fath ar frig rhestr ddymuniadau tîm Cyngor ac Adrodd ar Dechnoleg Gynaliadwy llywodraeth y DU hefyd.
Roedd gan rai o’r bobl a gyfwelwyd gennym safbwyntiau cryf ynghylch sut i ddylunio a rhedeg gwasanaethau yn gynaliadwy, ond roeddent yn ei chael hi’n anodd mesur effaith amgylcheddol gwasanaethau.
Argymhelliad 5 – Cefnogi gwaith cynaliadwyedd ar draws ffiniau
Canfu ein hymchwil fod lleihau dyblygu a symud tuag at wasanaethau a rennir ar draws y sector cyhoeddus yn ffyrdd pwysig o leihau allyriadau. O fewn ac ar draws sefydliadau, mae timau’n aml yn cael eu cadw ar wahân oddi wrth ei gilydd. Mae hynny’n cyfyngu ar eu gallu i atgynhyrchu arferion digidol cynaliadwy da o fannau eraill.
Nid syniad newydd yw gweithio ar y cyd ar fodelau darparu gwasanaethau (mae’n ymddangos ar fap trywydd sero net Cymru ar gyfer 2022-2026) ond o wneud hynny’n dda, gallai gael effaith fawr.
Soniodd llawer o’r cyfranogwyr am yr effeithlonrwydd canfyddedig a’r manteision amgylcheddol o waith gwasanaethau a rennir.
Argymhelliad 6 – Gwneud cynaliadwyedd yn rhan o gaffael
Roedd ein hymchwil polisi a’n trafodaethau â gweision cyhoeddus yn amlygu’r cyfle i gaffael cynhyrchion a gwasanaethau digidol mewn ffordd sy’n cefnogi llai o allyriadau carbon.
Dywedodd defnyddwyr nad oeddent yn gwybod sut i drosi meddylfryd cynaliadwyedd i gaffael digidol. Fodd bynnag, roeddent yn argymell cynnwys cynaliadwyedd o fewn polisi a llwyfannau caffael ehangach, yn hytrach na gadael hynny i sefydliadau unigol ei ddehongli.
Yr hyn a ganolbwyntiom arno
Bu’r prosiect darganfod hwn yn edrych ar sut mae ystod eang o bobl (gweithwyr proffesiynol o fewn meysydd digidol a thechnoleg, cynaliadwyedd, masnach a meysydd eraill) ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ystyried allyriadau carbon wrth wneud penderfyniadau am ddefnyddio technoleg ddigidol.
Edrychwyd hefyd ar wasanaethau digidol, neu wasanaethau a allai fod yn ddigidol, a sut y gallai newidiadau digidol i’r gwasanaethau a’r penderfyniadau hyn leihau allyriadau.
Yr hyn a wnaethom
Defnyddiwyd y technegau canlynol i’n helpu i ateb ein cwestiynau ymchwil.
Ymchwil desg
Ffocws yr ymchwil desg oedd nodi unrhyw ymchwil defnyddwyr tebyg a wnaed gan eraill ac adolygu unrhyw bolisi a chanllawiau sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol er mwyn deall sut y gallai ein helpu i ateb ein cwestiynau ymchwil.
Isod, mae rhestr o adnoddau a chanfyddiadau ymchwil cynhwysfawr:
Canfyddiadau Ymchwil ar Arferion Gorau o ran Polisi
Canfyddiadau Arferion Gorau yng Nghymru a’r DU
Canfyddiadau Ymchwil ar Arferion Gorau yn Rhyngwladol
Cyfweliadau ar arferion gorau
Er bod y cyfweliadau cyhoeddus yn defnyddio cwestiynau gosod strwythuredig, roedd y trafodaethau â’r ymarferwyr gorau yn fwy rhydd gan fod eu rolau a’u gwybodaeth yn wahanol iawn. Roedd y meysydd a archwiliwyd yn y trafodaethau ar arferion gorau yn cynnwys:
- beth oeddent yn ei ystyried yn arferion gorau ar gyfer digidol a sero net?
- beth oedd yn rhwystro sefydliadau sector cyhoeddus rhag mabwysiadu arferion gorau?
Siaradom â chorfforaethau mawr fel Amazon Web Services a Google. Hefyd, buom yn siarad ag arbenigwyr yn Defra, yn y Swyddfa Digidol a Data Ganolog, yn llywodraeth y DU, a thîm Cyngor ac Adrodd ar Dechnoleg Gynaliadwy (STAR) llywodraeth y DU. Yng Nghymru, siaradom â chymdeithasau tai Adra a Grŵp Cynefin, a chadeirydd Socitm Cymru, a Grŵp Gwyrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
Cyfweliadau ymchwil defnyddwyr
Ein prif ddull ar gyfer casglu data ansoddol oedd cyfweliadau manwl.
Recriwtiwyd cyfranogwyr gennym o dri phrif grŵp rhanddeiliaid. Defnyddiwyd yr un grwpiau rhanddeiliaid â’r Adolygiad o’r Tirlun Digidol, er cysondeb.
Roedd y rhain yn cynnwys gweithwyr proffesiynol ym meysydd digidol a thechnoleg, gwasanaethau digidol, neu reolaeth weithredol a chynaliadwyedd.
Roedd y meini prawf hanfodol ar gyfer ein cyfranogwyr ymchwil yn cynnwys:
- profiad diweddar o weithio ym maes digidol a thechnoleg ddigidol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
- mewn swydd ar hyn o bryd gydag o leiaf 6 mis o brofiad, neu wedi gadael rôl heb fod yn fwy na 3 mis yn ôl, ac eithrio llywodraeth ganolog y DU sydd wedi’i lleoli yng Nghymru
- profiad o weithio â digidol a thechnoleg o fewn gwasanaethau, neu’n bwriadu gwneud hynny yn y 6 mis nesaf
Lluniom arolwg ar-lein i ddangos y gwahaniaethau rhwng ymatebion grŵp ehangach o gyfranogwyr a’r ymatebion o’r cyfweliadau. Roedd hyn yn ein galluogi i weld pa mor gynrychiadol yw’r themâu o’r cyfweliadau ymhlith grŵp ehangach o bobl.
Gyda phwy y buom yn siarad?
Cynhaliom gyfweliadau 30 munud o hyd â 24 o unigolion sy’n ymwneud â thechnoleg ddigidol a gafodd eu recriwtio drwy rwydweithiau M-SParc, Perago, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â thrwy hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol ac amrywiaeth o restrau postio.
Dosbarthom arolwg byr hefyd, a dderbyniodd 28 o ymatebion.
Dyma’r ystadegau o’r 24 o gyfweliadau manwl:
Gweinyddiaeth ganolog | Cyrff a noddir | Iechyd a gofal | Awdurdodau lleol | Arall | |
Digidol a thechnoleg | 6 | 1 | 1 | 8 | 2 |
Rheoli gwasanaeth neu reoli gweithredol | 1 | 0 | 0 | 0 | 2 |
Cynaliadwyedd | 0 | 0 | 2 | 1 | 0 |
Moeseg
Cawsom gydsyniad ar sail gwybodaeth gan gyfranogwyr yr ymchwil ac esboniwyd sut y byddai’r wybodaeth yn cael ei defnyddio a sut y byddwn yn prosesu eu data. Wrth gynnal cyfweliadau, gofynnom hefyd am ganiatâd i recordio’r cyfweliad er mwyn ein helpu i brosesu’r data.
Cafodd yr holl ddata a gwybodaeth o’r ymchwil eu hanhysbysu fel nad oes modd olrhain canfyddiadau yn ôl at unigolion.
Ein canfyddiadau a chyfleoedd yn y dyfodol
O ganfyddiadau’r ymchwil, cawsom chwe argymhelliad.