Yn y modiwl hwn byddwn yn edrych ar wahanol ddulliau o strwythuro timau. Ar gyfer pob un, byddwn yn ystyried y manteision a'r heriau.
Yna byddwn yn edrych ar y rolau nodweddiadol mewn tîm Ystwyth. Ar gyfer pob un, byddwn yn ystyried eu cyfrifoldebau, y sgiliau maen nhw'n dod â nhw a sut maen nhw'n gweithio ar y cyd.
Yn olaf, byddwn yn edrych ar sut y gall timau nodi pwy y mae angen iddynt ymgysylltu â nhw. Bydd hyn yn helpu timau i gynllunio hyn ymlaen llaw. Mae'n golygu y gallant ymgysylltu â'r bobl iawn ar yr adeg iawn, i gynnal eu cyflymder cyflwyno.