Amcangyfrifir bod £2bn o fudd-daliadau yn mynd heb eu hawlio yng Nghymru, felly mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl iddo a chynyddu incwm eu cartref gymaint â phosibl.  

Lansiwyd Siarter Budd-daliadau Cymru yn 2024 yn rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a’r 22 awdurdod lleol i gydweithio i wella System Fudd-daliadau Cymru.

Y weledigaeth; dull o ddylunio a darparu budd-daliadau yng Nghymru sy’n dosturiol, yn gyson ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n galluogi pobl i adrodd eu stori unwaith yn unig i gael yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl iddo, ni waeth ble maen nhw’n byw yng Nghymru. 

Rydym yn rhan o Grŵp Llywio Symleiddio Budd-daliadau Cymru sydd â map trywydd cam un sy’n canolbwyntio ar symleiddio sut mae pobl ledled Cymru yn hawlio Gostyngiad yn y Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol. 

Rydym wedi arwain y broses o ddylunio a phrofi ffordd symlach i bobl hawlio’r budd-daliadau hyn, gan ddangos sut gallai profiad hawlwyr gael ei symleiddio.

Beth rydym wedi’i wneud 

Trwy ymchwil ddesg, a chyfweliadau gydag arbenigwyr pwnc Llywodraeth Cymru a staff mewn pum cyngor, datblygom ddealltwriaeth drylwyr o’r sefyllfa bresennol a’r heriau sy’n wynebu hawlwyr a gweinyddwyr, fel ei gilydd.  

Gall hawlwyr gael trafferth gydag ymwybyddiaeth o fudd-daliadau, stigma, deall cymhwysedd, llywio prosesau ymgeisio, rheoli nifer o geisiadau, darparu gwybodaeth gymhleth, a diweddaru amgylchiadau sydd wedi newid.  

Y profiad symlaf i ddefnyddwyr fyddai derbyn yr hyn y mae ganddynt yr hawl iddo heb wneud unrhyw beth, a sefydlom egwyddorion dylunio i geisio cyrraedd y nod hwn, ar yr un pryd â lleihau’r baich ar gynghorau. 

Arweiniodd y rhain y broses o ddatblygu prototeip sy’n gofyn am gyn lleied o ymdrech â phosibl gan ddefnyddwyr (gan wneud y mwyaf o’r data sydd eisoes ar gael gan y Llywodraeth Ganolog), ar yr un pryd â gweithio gyda systemau presennol cynghorau a gofynion rheoleiddiol.  

Roedd y profion gyda hawlwyr a defnyddwyr procsi yn gadarnhaol:  

“Mae’n hawdd iawn ei defnyddio, yn fy marn i. Mae’n glir ac mae’n wych cael popeth ar un rhaglen. Mae hynny’n osgoi cymaint o ddryswch, yn enwedig os nad yw rhywun yn deall beth mae ganddo’r hawl iddo.”
Defnyddiwr Procsi – Gweithiwr Achos Dyled
“Roedd yn syml i rywun sy’n hawlio am y tro cyntaf. A pheidio â gorfod casglu unrhyw wybodaeth eich hun oherwydd ei bod yno eisoes oherwydd bod yr hawliad wedi cael ei sefydlu’n barod yn seiliedig ar yr hawliad Credyd Cynhwysol.”
Cyfranogwr yn yr ymchwil

Mae’r prototeip yn dangos cryn botensial i symleiddio mynediad at fudd-daliadau ar yr un pryd ag addasu i anghenion cynghorau lleol. Yn hytrach na chyflwyno ateb terfynol, mae’n gweithredu fel cysyniad, ysgogwr sgwrs clir ynglŷn â phosibiliadau ar gyfer dull mwy cyson ledled Cymru.  

Beth nesaf?

Byddwn yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i fireinio’r cysyniad hwn yn enghraifft byd go iawn.  

Os oes gennych ddiddordeb yn y maes gwaith hwn, cofrestrwch i gael ein diweddariadau e-bost